Blas ar yr Eidal i fyfyrwyr sy’n ddarpar ben-cogyddion a pherchnogion bwytai uchelgeisiol
Mae myfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal lle gwnaethon nhw dreulio pum diwrnod yn archwilio Ravenna.
Gan deithio o Heathrow i Fologne, roedd llawer o’r myfyrwyr yn cael y profiad o hedfan dramor am y tro cyntaf oll. Ar ôl setlo i mewn, aeth y myfyrwyr i gael cipolwg ar atyniadau diddorol eu tref newydd, a gan ddilyn amserlen a drefnwyd gan eu tiwtoriaid, cymeron nhw ran mewn cwrs gwneud pasta ym mwyty Mercato Coperto.
Cawson nhw brofiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dramor ac ymwelon nhw â thraeth a harbwr lle roedden nhw’n gallu treulio amser yn mynd i weld y golygfeydd. Hefyd fe gafodd y myfyrwyr daith gerdded unigryw o gwmpas marchnad awyr agored Ravenna, gan archwilio cynhwysion a seigiau lleol gyda thywysydd lleol.
Ymwelon nhw yn ogystal ag amgueddfeydd a safleoedd diwylliannol fel Mausoleo di Galla Placidia a chymryd rhan mewn sesiynau blasu mewn marchnad ffermwyr leol. Gyda bwyd a lletygarwch yn ffocws iddynt, cafodd y myfyrwyr gyfle i brofi coginio’r ardal leol ac ymweld â phoptai, siopau cacennau a bwytai lleol.


Meddai Daniel Williams, darlithydd Coleg Sir Gâr mewn coginio proffesiynol: “Wrth fyfyrio ar ein hymweliad cofiadwy â Ravenna a ariannwyd gan Taith, rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle anhygoel i drwytho ein grŵp o chwe myfyriwr arlwyo yn y fath gyfuniad cyfoethog o draddodiad coginiol a threftadaeth Eidalaidd.
“Cynigiodd y profiad hyfforddiant coginio ymarferol amhrisiadwy gan arbenigwyr, gan alluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau mewn lleoliad coginiol byd-enwog.
“Y tu hwnt i’r gegin, fe wnaeth yr ymweliadau diwylliannol a hanesyddol ddwysáu eu gwerthfawrogiad o hanes a threftadaeth y rhanbarth. Mae’r daith hon nid yn unig wedi ehangu eu gwybodaeth goginiol ond mae hefyd wedi ymestyn eu persbectifau, gan eu gadael ag atgofion parhaol a brwdfrydedd mawr am y celfyddydau coginiol.”
Mae’r myfyriwr Bradley Evans am arbenigo mewn coginio Eidalaidd, ac meddai am y daith:
“Syrthiais i mewn cariad â blas syml ac eto ffrwydrol eu coginio. Roedd yr ymweliad â Ravenna yn hynod ddefnyddiol ac enfawr i’m gyrfa, roedd gallu profi’r Eidal yn uniongyrchol yn anhygoel. Diolch yn fawr iawn am y cyfle i gael profiad o’r Eidal.”
Ychwanegodd Dawn Williams, darlithydd Coleg Sir Gâr mewn lletygarwch:
“Rhoddodd y daith fythgofiadwy hon gyfle i fyfyrwyr a staff blymio’n bendramwnwgl i ddiwylliant newydd, hedfan drwy’r awyr gyda rhai ar eu taith gyntaf mewn awyren, a darganfod lefel newydd o annibyniaeth tra’n byw mewn gwlad wahanol.
“Bydd yr atgofion a wnaed a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod yr antur Taith hon yn aros gyda nhw am oes.
“O gamu allan o’u cylch cysur i gysylltu â diwylliannau a phersbectifau newydd, mae pob eiliad wedi sbarduno synnwyr dyfnach o chwilfrydedd, dewrder, ac uchelgais.
“Mae’r profiadau hyn nid yn unig yn siapio unigolion, maen nhw’n eu hysbrydoli i freuddwydio’n ehangach, archwilio ymhellach, a mynd i’r afael â’r byd gyda meddyliau agored a chalonnau agored.
“Mae hon yn fwy na thaith; mae’n ddechreuad i daith fyd-eang a fydd, gobeithio, yn parhau i dyfu.”




Ariannwyd yr ymweliad gan Taith, sef rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau ar gyfer pobl yng Nghymru.
Hefyd hoffai staff a myfyrwyr ddiolch i gwsmeriaid bwyty hyfforddi’r coleg, Cegin Sir Gâr, am adael cildyrnau yn y bwyty ar gyfer myfyrwyr, yn benodol tuag at y daith.
Hoffai Dawn Williams-Walters a Daniel Williams estyn diolch personol a diffuant i bob un o’r rheiny sydd wedi cefnogi a chyfrannu at y fenter hon. Mae eich haelioni, arbenigedd, a chydweithrediad wedi gwneud effaith parhaol.
Llyr James – Cronfa Sefydliad Carwyn James, Bwyty New Curiosity, Caerfyrddin, Bwyty a Sba Gwesty’r Diplomat, Llanelli, Clinig Ceiropracteg Spine Fine, Crosshands, Gwesty a Bwyty’r Plough, Rhosmaen, Castell Howell, Mêl Gwenyn Gruffydd, Dr. Andrew Thomas, Huw Roberts.
Diolch arbennig i’n cydlynydd ymroddedig yn yr Eidal, Angelo Morrello o gwmni Cavalier Travel, am ei ymrwymiad parhaus a’i gefnogaeth draws-ffiniau.
Meddai Dawn Williams-Walters: “Mae pob un ohonoch wedi chwarae rôl bwysig, ac rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar am eich ymrwymiad ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi eto yn y dyfodol.”