Skip page header and navigation

Astudio Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Ydych chi’n frwdfrydig dros fwyd, pobl, a chreu profiadau bythgofiadwy?  Camwch i fyd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, lle mae eich cariad at y celfyddydau coginiol a gwneud coctels, yn cwrdd â chyfleoedd diddiwedd ar gyfer creadigrwydd, arloesedd a thwf gyrfa.

Ar ein cyrsiau, ni fyddwch yn dysgu ryseitiau neu weini byrddau’n unig; byddwch yn meistroli crefft a gwyddor coginio, o dechnegau sylfaenol i sgiliau coginiol uwch  Yn ein cyfleusterau cegin o’r radd flaenaf, bydd pen-cogyddion profiadol a rheolwyr lletygarwch yn eich arwain trwy gwricwlwm ymarferol sy’n cwmpasu popeth o baratoi bwyd a’i gyflwyno i gynllunio bwydlenni a rheolaeth bwyty.

Ond nid yw’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn y gegin yn unig.  Mae ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn eich paratoi ar gyfer pob agwedd ar y diwydiant, o wasanaeth blaen tŷ a rheolaeth bar, i sgiliau cymysgu coctels a sgiliau barista.  Trwy weithio yn ein bwytai hyfforddi sy’n agored i’r cyhoedd, fe gewch chi ddigon o gyfle i ymarfer eich sgiliau newydd mewn amgylchedd realistig.

Os ydych chi’n gogydd cartref neu rywun sy’n frwd dros gymysgu coctels sy’n awyddus i roi hwb i’ch hyder yn y gegin, mae gennym hefyd amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser a byr ar gael, sy’n eich galluogi i fireinio’ch brwdfrydedd i fod yn dalent goginiol drawiadol.

Felly, os ydych chi’n barod i ddechrau eich antur ym myd Arlwyo a Lletygarwch, llenwch ffurflen gais, galwch i mewn i ddiwrnod agored i weld ein ceginau a gyda’n gilydd, gadewch i ni fwynhau blas llwyddiant.

Pam astudio Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion?

01
Mae ein bwytai hyfforddi masnachol a'n ceginau â chyfarpar diwydiant yn rhoi profiad ymarferol i chi mewn amgylcheddau realistig.
02
Ceir llawer o gyfleoedd i gystadlu yng nghystadlaethau Cymru a WorldSkills ac ymuno â'n llu o enillwyr medalau.
03
Sgyrsiau, gweithdai ac ymweliadau ysbrydoledig rheolaidd gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Past Students

Myfyrwyr yn gweithio yng nghegin y Senedd

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Weithio mewn lleoliadau proffesiynol fel Claridge’s, L’Esgargot, Wright’s Food Emporium, Ynyshir, Potted Pig, The Savoy, The Ritz
  2. Ennill Medalau Cymru a WorldSkills
  3. Gweithio gyda phen-cogyddion fel Marco Pierre White a Simon Wright, John Williams MBE, Michele Roux, Gareth Ward, Steve Groves, James Sommerin a Nathan Davies.
Student laying a table in a training restaurant

Ein Bwytai Hyfforddi

“Mae arlwyo a lletygarwch yn ddiwydiant sy’n rhoi boddhad; rydych yn gweld unigolion yn tyfu ac yn datblygu’n broffesiynol ac ar lefel bersonol bob dydd. Mae gweithio yn y diwydiant hwn yn cynnig cyfleoedd byd-eang i weithio mewn sector enfawr.”
Daniel Williams, darlithydd Coleg Sir Gâr lecturer.

Newyddion Perthnasol...

Mae Caitlin Meredith, myfyrwraig coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion, wedi ennill teitl clodfawr Pen-cogydd Iau Cymru 2026 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru yng Nghasnewydd.

Caitlin Meredith with her medal and award items looking at the camera

Fe wnaeth myfyrwyr coginio proffesiynol o gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion gyflwyno bwydlen wyth-cwrs uchelgeisiol wrth gymryd Bwyty Ynyshir drosodd am un noson yn unig.

Students at the pass, plating up food with low lighting

Mae myfyrwyr a staff ym Mwyty Maes y Parc, bwyty hyfforddi Coleg Ceredigion, wedi cael eu hanrhydeddu â gwobrau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Sylvia Robert-Sargeant, a member of the Worshipful Livery Company of Wales with the student winner

Mae myfyriwr o Goleg Ceredigion wedi ennill rownd Cymru o gystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2026.

Acting principal Vanessa with Glyn and tutor Sam college branding behind Glyn holding skills competition Wales medal