Briff diwydiant byw yn Abaty Ystrad Fflur yn darparu profiad unigryw i ddylunwyr dodrefn Coleg Ceredigion
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi bod yn gweithio gydag Abaty Ystrad Fflur ger Ystrad Meurig, ar friff byw i greu prototeipiau i gyd-fynd â’u hardaloedd awyr agored a chynnyrch y siop.
Roedd Abaty Ystrad Fflur unwaith yn gartref i fynachlog Sistersaidd a oedd yn sefyll ger glannau’r afon Teifi ers 1184.
Yn dilyn ymweliad â’r abaty canoloesol mawreddog, cafodd y myfyrwyr ar gwrs lefel tri mewn dylunio a gwneud dodrefn, syniadau ar gyfer eitemau pren y gellid eu gwerthu neu eu gosod ar y safle.
Aeth rhai ati i ddylunio meinciau ar gyfer y tu allan tra bod eraill yn creu eitemau’n llai fel matiau diodydd, y gellid eu gwerthu yn siop yr abaty.
Yn ddiweddar, ymwelodd staff Abaty Ystrad Fflur â champws Aberteifi’r coleg i weld myfyrwyr a oedd wedi cynnig eu syniadau i’r sefydliad, sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur a gwasanaeth Cadw.
Mae’r myfyrwyr yn aros i weld a yw eu dyluniadau wedi cael eu dewis, ond mae gweithio ar friff byw gyda sefydliad allanol yn rhan fuddiol o’u hastudiaethau, sy’n dod â phrofiadau sy’n unigryw ac yn benodol i frand.
Meddai Deborah Elsaesser, darlithydd dodrefn Coleg Ceredigion: “Mae hwn yn friff byw cyffrous lle bu myfyrwyr yn ymchwilio i dreftadaeth a gwerthoedd Ystrad Fflur cyn dylunio a chynhyrchu darnau prototeip wedi’u bwriadu ar gyfer y safle.
“Datblygwyd y cysyniadau gyda chanlyniadau byd go iawn mewn golwg, gyda dyluniadau a oedd yn addas i’w lleoli o fewn y tir a’r gerddi neu ar werth, i godi arian i gefnogi elusen Ystrad Fflur.
“Roedd cynnig syniadau i sefydliad allanol hefyd yn darparu adborth proffesiynol i fyfyrwyr ynghylch eu dyluniadau ac yn rhoi profiad gwerthfawr iddynt o ran gwneud cyflwyniad ac ymateb i feirniadaeth diwydiant.
“Rydyn ni wedi mwynhau gweithio ar y prosiect hwn, gyda phob myfyriwr yn cyfrannu eu syniadau unigryw, a hoffen ni ddiolch i Abaty Ystrad Fflur am y cyfle i weithio gyda safle hanesyddol a diwylliannol mor bwysig.”
Meddai’r fyfyrwraig Hephzibah Huggins: “Un o’r pethau mwyaf diddorol i mi oedd y teils a wnaed yn y 12fed ganrif a thu hwnt. Rwy’n hoffi’r mosaigau’n fawr iawn gyda’r patrymau a ysbrydolwyd gan ffabrigau Persiaidd. Gwnes i lun o fosaig o bedair teilsen. Yn y gweithdy gwnes i deils allan o bren onnen a’u hysgythru â’r patrymau. Pleser o’r mwyaf oedd dangos y teils i Nathan a Lowri, teils y gellir eu defnyddio fel set o fatiau diodydd, neu eu gosod mewn ffrâm, neu hyd yn oed eu torri fel jig-so bach.”
Ychwanegodd y myfyriwr dodrefn Raees Kola: “Roedd yn brofiad pleserus gan fod Nathan a Lowri o Ystrad Fflur yn barod iawn i dderbyn syniadau ac yn gadarnhaol iawn amdanynt.
“Roedd yn anrhydedd go iawn i allu ymweld ag Abaty Ystrad Fflur gan fod y safle o werth hanesyddol arwyddocaol i Gymru gyfan.
“Mae’n hawdd iawn weld bod Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn cymryd ei rôl o gadw ac adfer y safle o ddifri.”