Cam dewr myfyriwr yn newid i wyddoniaeth yn talu ar ei ganfed gyda llwyddiant yn yr Olympiad
“Yn wir gwnaeth yr Olympiad bioleg fy egnioli yn nhermau hunan-hyder achos roedd gen i dystiolaeth oddi wrth rywbeth mor anodd, fy mod yn gallu ei wneud e mewn gwirionedd. Sarah ‘Asher’ Little.
Mae tri myfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi cymryd rhan yn llwyddiannus yn Olympiad Bioleg Prydain, cystadleuaeth wyddoniaeth y DU gyfan.
Mae Olympiad Bioleg Prydain yn agored i fyfyrwyr blwyddyn 12 a 13 ar draws Cymru a Lloegr a gosodir y cwestiynau ar y cwricwlwm bioleg. Fodd bynnag, mae’r gystadleuaeth yn cydnabod myfyrwyr sydd wedi cymryd yr amser yn annibynnol i ehangu eu gwybodaeth o’r pwnc ymhellach.
Roedd Sarah ‘Asher’ Little yn un o’r myfyrwyr wnaeth gymryd rhan ac fe enillodd wobr efydd am eu gwaith.
Yn eu harholiadau TGAU, cafodd Asher A mewn bioleg a chemeg a B mewn ffiseg ond dewisodd astudio cyfryngau, seicoleg a drama ar gyfer eu Safon Uwch.
Fodd bynnag, gyda’u cariad naturiol dros ddrama, dechreuodd ei hastudio deimlo fel gorfodaeth ac ers hynny mae wedi newid i fioleg, ac yn ôl Asher, dyma’r penderfyniad gorau y gellid fod wedi’i wneud.
Cwblhaodd Asher ddau brawf amlddewis ar gynnwys Bioleg Safon Uwch o flwyddyn un a dau a oedd yn ymwneud ag amrywiol senarios, gan gynnwys ymddygiad octopysau. “Yr hyn a enillais o’r profiad hwn oedd mwy o hyder yn fy ngalluoedd fy hun, gan ei fod wedi profi fy mod yn gwybod fy nghynnwys bioleg,” meddai Asher. “Mae wedi helpu gwneud i mi deimlo’n fwy parod ar gyfer yr arholiadau sydd ar ddod a gan fy mod yn bwriadu cwblhau gradd wyddonol, fe fydd yn helpu i roi hwb i fy nghais UCAS.”
Cysylltodd y gystadleuaeth gariad Asher am fywyd morol a’u gwaith seicoleg gydag octopysau, a oedd yn rhan o’r prawf, yn bod yn fodau deallus sy’n gallu ymddwyn mewn modd cymhleth. Roedd yn cynnwys dau bapur amlddewis, 45-munud i’w cymryd ar-lein yn y coleg.
Ar hyn o bryd, mae Asher yn ailfeddwl eu gyrfa yn gyfan gwbl ac mae wedi dewis aros yn y coleg i gymryd cemeg y flwyddyn nesaf a chanolbwyntio ar eu galluoedd mewn gwyddoniaeth. “Rwy’n aros am ddiagnosis o awtistiaeth hefyd, felly rwy’n gallu cael llawer o drafferth pan fod gormod gen i ar fy mhlât. Mae rhoi amser rhwng fy holl gyrsiau wedi fy helpu i’n fawr iawn, sef peidio â thrio gwneud gormod pan nad oes digon o amser ac o ganlyniad chwythu plwc.
Gan gadw eu hopsiynau ar agor, maen nhw’n dweud, gan fod stumog wan ganddynt o ran materion meddygol, maen nhw’n meddwl am fferylliaeth. Mae’r maes meddygol wedi’u cyfareddu erioed ond byddai bod yn fferyllydd yn dal i ganiatáu iddynt fod yn rhan annatod o’r gwasanaeth iechyd.
Meddai Asher Little: “Rwyf wir wedi symud ymlaen ar frys i wyddoniaeth oherwydd bod y maes mor eang ac mae gwyddoniaeth yn llawn o wrthrychedd gyda damcaniaethau a thystiolaeth i’w profi.
“Yn wir gwnaeth yr Olympiad bioleg fy egnioli yn nhermau hunan-hyder achos roedd gen i dystiolaeth oddi wrth rywbeth mor anodd, fy mod yn gallu ei wneud e mewn gwirionedd.
“Roedd yn rhywbeth nad oeddwn i hyd yn oed yn gallu paratoi ar ei gyfer achos nid oes atebion i’r cwestiynau ar gael yn unrhyw rai o’r hen bapurau. Felly roeddwn yn hapus dros ben i gael tystysgrif a gwobr efydd.”