Skip page header and navigation

Bu Coleg Sir Gâr yn dathlu cyflawniadau myfyrwyr ar draws y cyrsiau ar dir yn ei seremoni wobrwyo flynyddol, gan gydnabod ymroddiad, gwaith caled a chynnydd rhagorol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Daeth y digwyddiad â myfyrwyr, staff a gwesteion ynghyd i anrhydeddu dysgwyr sy’n astudio amaethyddiaeth, peirianneg amaethyddol, garddwriaeth, astudiaethau ceffylau a gofal anifeiliaid.

Cyflwynwyd gwobrau i fyfyrwyr sydd wedi dangos ragoriaeth yn eu hastudiaethau, eu sgiliau ymarferol, eu hymrwymiad i’w diwydiant dewisol a’u cyfraniad at fywyd y campws.

Liz, head of agri, with the guest speaker and a bunch of flowers
Three students talking about agri engineering
A group of students being presented awards by staff

Diolch i’r siaradwr gwadd arbennig a’r AS lleol, Ann Davies, am annerch y rhai oedd yn bresennol, gan gynnig anogaeth a mewnwelediad i’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector ar dir a thynnu sylw at bwysigrwydd datblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus.

Daeth staff o bob cwr o’r campws i’r seremoni, gan adlewyrchu’r rhwydwaith cymorth cadarn sy’n cefnogi’r myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen trwy eu cyrsiau a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae’r seremoni wobrwyo flynyddol yn parhau i fod yn achlysur pwysig yn y calendr, gan ddathlu talent, uchelgais a photensial myfyrwyr ar gyfer y dyfodol ar draws rhaglenni astudiaethau ar dir y coleg.

Lluniau

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau