Cryfhau ein cymuned drwy ddealltwriaeth a pherthyn
Rydyn ni’n credu bod deall profiadau byw holl aelodau ein cymuned goleg yn wirioneddol bwysig er mwyn ein galluogi i ddeall y byd mae ein myfyrwyr yn llywio’u ffordd drwyddo.
Dyma un o’r rhesymau pam fod Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn darparu hyfforddiant cynhwysol ar gyfer eu holl staff gyda ffocws arbenigol ar wrth-hiliaeth, ar draws pob un o’u saith o gampysau.
Mae’n ymwneud â chreu ymdeimlad o berthyn i bawb a chreu hyder diwylliannol o fewn y gweithle sy’n herio ymddygiad negyddol.
Mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi yn y coleg, yn y gwaith ac o fewn ein cymuned ac mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran sicrhau bod hynny’n digwydd.”Georgia Theodoulou, Darlithydd ac ymarferydd arweiniol ar gyfer gwrth-hiliaeth.
Caiff yr hyfforddiant hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru ei ddarparu gan Apex Educate, sefydliad a sefydlwyd gan Rachel Clarke (yn y llun) a gyflwynodd y sesiynau ei hunan.
Mae’r sesiynau yn cynnwys gwrth-hiliaeth o fewn y cwricwlwm, cael yr hyder i hwyluso sgyrsiau anodd, ymddygiad micro-ymosodol a sut y gallwn ni gysylltu â’n myfyrwyr a allai fod wedi cael profiad o rai o’r ymddygiadau hyn.
Yn aml dywedir wrthym ein bod yn goleg croesawgar a meithriniol iawn ac fe welwn ni hynny fel cryfder. Rydyn ni’n teimlo y bydd yr hyfforddiant hwn yn ein helpu i ddiogelu a gwerthfawrogi’r cryfder hwn a’n helpu i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn fwy hyderus i mewn i arweinyddiaeth, diwylliant ac ymarfer.
Mae’r hyfforddiant yn fuddsoddiad yn ein diwylliant sy’n sicrhau bod ein gwerthoedd ‘teuluol’ yn parhau’n berthnasol a chadarn wrth i’n cymuned ddod yn fwy amrywiol.
Meddai Georgia Theodoulou, darlithydd Coleg Sir Gâr ac ymarferydd arweiniol ar gyfer gwrth-hiliaeth: “Mae’r sesiynau gyda Rachel Clarke wedi bod yn werthfawr dros ben i staff yn y coleg.
“Ar adeg lle rydym yn gweld cynnydd mewn trafodaeth niweidiol ynghylch mewnfudo, hiliaeth a phwy sy’n “perthyn” a ble, roedd yn wirioneddol fuddiol i staff gael lle agored, anfeirniadol i ofyn cwestiynau, dysgu a thrafod sut orau i ddelio â hynny.
“Mae Rachel yn ymarferydd mor ardderchog, roedd ei sesiynau’n addysgiadol, meddylgar, emosiynol ac eto’n obeithiol ac mae’r adborth oddi wrthynt wedi bod yn gadarnhaol iawn.
“Rhoddodd y ffaith bod gennym ddwy sesiwn dros ychydig o wythnosau amser i ni brosesu ac adborthi’r hyn roedden ni’n teimlo roedd ei angen fwyaf arnom ar gyfer y sesiwn nesaf. Mae’r hyfforddiant staff-cyfan hwn yn rhan allweddol o ymrwymiad a chynllun gweithredu’r coleg i ddod yn sefydliad gwrth-hiliaeth.
“Mae pawb yn haeddu teimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi yn y coleg, yn y gwaith ac o fewn ein cymuned ac mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran sicrhau bod hynny’n digwydd.”