Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn anrhydeddu doniau coginio yng Ngholeg Ceredigion
Mae myfyrwyr a staff ym Mwyty Maes y Parc, bwyty hyfforddi Coleg Ceredigion, wedi cael eu hanrhydeddu â gwobrau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Cyflwynodd Sylvia Robert-Sargeant, aelod o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, ddwy wobr yn dilyn noson o goginio, a gafodd ei gynllunio a’i gyflwyno gan ddau fyfyriwr coginio a lletygarwch proffesiynol yn eu blwyddyn olaf ar gampws Aberteifi.
Yn dilyn cyfweliadau llwyddiannus yn y coleg gyda chynrychiolwyr o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, dewiswyd y myfyriwr Evan Adams ar gyfer y Wobr Alwedigaethol ac fe dderbyniodd £500.
Bydd yn gwneud defnydd da o’i wobr gydag wythnos o brofiad gwaith coginiol arbenigol yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Dyfarnwyd £1,000 i Sam Everton, darlithydd coginio proffesiynol yng Ngholeg Ceredigion a Phen-cogydd Cenedlaethol Cymru 2025, i gydnabod cael ei enwebu i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y Global Chefs Challenge ac i gefnogi ei hyfforddiant a’r gwaith paratoi arbenigol ar gyfer y gystadleuaeth fyd-eang hon a fydd yn cael ei chynnal yng Nghymru ym mis Mai.
Mae Sam ymhlith detholiad o gogyddion o bob cwr o’r byd a fydd yn cystadlu ac yn cynrychioli gwledydd fel yr Unol Daleithiau, Namibia a Singapore..
Nod cyffredinol y rhaglen wobrau yw meithrin talent Cymru a dyfernir y gwobrau i’r rheini sy’n ymgymryd ag astudiaethau academaidd a galwedigaethol gan gynnwys aelodau o’r lluoedd arfog a’r rheini sy’n ymwneud â gwasanaethau cymunedol.
Meddai Sylvia Robert-Sargeant, yn cynrychioli Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi bod yn rhan o’r holl beth - cael dewis Evan sy’n ddysgwr rhagorol yn ei ail flwyddyn ar y cwrs coginio proffesiynol ar gyfer ein gwobr coleg, a chefnogi Sam yn ei ymgais i ennill cystadleuaeth fyd-eang y Global Chefs Challenge.
“Mae’r ddau ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd ym maes arlwyo a lletygarwch, ond mae’r ddau ohonynt eisoes yn cael eu cydnabod fel cyflawnwyr gwych yn eu proffesiwn.”
Meddai Huw Morgan, darlithydd coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion: “Rydyn ni, ym Mwyty Maes y Parc, wrth ein bodd yn cael ein cydnabod gan y gwobrau hael a phroffesiynol hyn gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru.
Hoffem ddiolch i Sylvia am ddod i’n bwyty hyfforddi ar gampws Aberteifi i gyflwyno’r gwobrau ac i bawb a oedd yn rhan o’r broses.”