Skip page header and navigation
Rob Kirk in a maroon top with a blurred weights background

Mae darlithydd o Goleg Sir Gâr wedi cyrraedd rownd derfynol categori addysgwr y flwyddyn, Educator of the Year, gwobrau Aspirations Awards 2025 NCFE.

Enwebwyd Rob Kirk, sy’n ddarlithydd chwaraeon a gwyddorau chwaraeon ar gampws y coleg yn y Graig, am ei ymroddiad eithriadol i addysgu a’i ddulliau pwrpasol er mwyn helpu myfyrwyr i lwyddo. 

Mae ei frwdfrydedd dros wella perfformiad academaidd a pherfformiad corfforol yn ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr fel ei gilydd.

Mae’n cefnogi dysgwyr sy’n wynebu heriau i’r carn ac yn llwyddo i gael canlyniadau sy’n drawsnewidiol. 

Mae ei ddull personol yn sicrhau bod anghenion pob myfyriwr yn cael eu diwallu, gan fynd yr ail filltir i roi cymorth wedi’i deilwra fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Er enghraifft, datblygodd Rob gwrs pwrpasol ochr yn ochr â darpariaeth gwyddor chwaraeon y coleg ar gyfer myfyriwr gweithgareddau awyr agored oedd yn trosglwyddo o goleg arall, gan ddangos ei ymrwymiad i sicrhau fod pawb yn llwyddo.

Cynlluniodd Rob sesiynau olrhain wedi’u personoli ar gyfer perfformiwr elît sydd ag awtistiaeth, dyslecsia, dyscalcwlia a scoliosis, a chydweithiodd gyda thimau cymorth i ddarparu’r hyblygrwydd sydd ei angen i gystadlu a rhagori yn academaidd ar yr un pryd. O ganlyniad i hyn, llwyddodd y dysgwr i ennill gradd rhagoriaeth yn ei chwrs Diploma mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff).

Bu Rob hefyd yn cefnogi dysgwr ag anghenion niwrowahaniaeth cymhleth, gan gynnwys awtistiaeth ac ADHD, trwy gysylltu’n agos â’u teulu a chreu amgylchedd cefnogol. 

Oherwydd yr ymddiriedaeth hon, llwyddodd y dysgwr, a fu’n aflwyddiannus ar gwrs lefel tri yn flaenorol, i ennill gradd teilyngdod mewn diploma estynedig a symud ymlaen i addysg uwch.

Trwy gyfarfodydd cymorth un-i-un, bu Rob yn helpu dysgwr awtistig mewnblyg i fagu hyder a chymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp. Mae ei thrawsnewidiad i fod yn gynrychiolydd dosbarth ac ennill gradd rhagoriaeth seren, yn dangos gallu Rob i feithrin hunan-gred a phenderfyniad. 

Mae Rob yn sicrhau bod dysgwyr yn llwyddo, hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol. Ar ôl i fyfyriwr gael llawdriniaeth frys a bod i ffwrdd o’r coleg am chwe wythnos, darparodd Rob sesiynau rheolaidd o bell er mwyn sicrhau bod y dysgwr yn aros ar y trywydd iawn er mwyn cyflawni ei nodau.

Decorative stock image of people running

Bu Rob hefyd yn cefnogi dysgwr ag anghenion niwrowahaniaeth cymhleth, gan gynnwys awtistiaeth ac ADHD, trwy gysylltu’n agos â’u teulu a chreu amgylchedd cefnogol. Oherwydd yr ymddiriedaeth hon, llwyddodd y dysgwr, a fu’n aflwyddiannus ar gwrs lefel tri yn flaenorol, i ennill gradd teilyngdod mewn diploma estynedig a symud ymlaen i addysg uwch.

Mae arloesedd Rob yn yr adran chwaraeon wedi gwella’r profiad dysgu yn sylweddol. Gan sicrhau cyllid, sefydlodd labordy gwyddorau chwaraeon blaengar yn cynnwys y canlynol: Peiriant dadansoddi Cortex VO2 max; Siambr hypocsig; Plât biomecanig dosbarthu grym; dadansoddwr màs y corff Tanita; Ystafell ddadansoddi Hudl ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon ac ystafell Wattbike.

Fel rhan o Grŵp Datblygu Digidol y coleg a’r gweithgor Defnyddio Technoleg yn Arloesol, sicrhaodd Rob grantiau arloesi digidol i wella’r adnoddau hyd yn oed ymhellach.

Roedd Rob yn arwain y Rhaglen Perfformiwr Elît, gan gefnogi 15 o ddysgwyr ar draws 12 o gampau, gan gynnwys athletwyr o safon fyd-eang fel Emma Finucane, pencampwraig beicio Olympaidd, Amy Cole, beiciwr tandem sydd wedi torri record y byd), a Liam Lloyd, triathletwr sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad. 

Mae ei ddulliau mentora yn cydbwyso datblygiad academaidd ac athletaidd, gan feithrin llwyddiant.

Meddai Kim Nicholas, pennaeth adran yng Ngholeg Sir Gâr, a enwebodd Rob ar gyfer y wobr: “Mae ymroddiad Rob i addysgu wedi dylanwadu ar fywydau llawer o fyfyrwyr sydd wirioneddol wedi elwa o’i frwdfrydedd dros weld dilyniant a chynnydd. 

“Y tu hwnt i’r byd academaidd, mae Rob hefyd yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol yn yr adran, sy’n cynnwys mentrau sy’n hybu morâl.

“Fe drefnodd hefyd daith rygbi i Dde Affrica ar gyfer 31 o chwaraewyr ac mae’n cynllunio taith i Ganada yn 2026 ar gyfer 60 i 70 o chwaraewyr rygbi a phêl-rwyd, gan ddeall gwerth effaith profiadau o’r fath ar fywydau.

“Mae ei ymroddiad yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael addysg eithriadol, gan ymgorffori ysbryd gwobr Educator of the Year NCFE. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo fel enwebai haeddiannol iawn ar gyfer y wobr hon.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau