Skip page header and navigation
Rob and his wife Michele standing together in grassy grounds behind Buckingham Palace

Mae darlithydd mewn peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd o Lundain yn ddiweddar lle cafodd ei enwebu ynghyd â’i wraig, i fynychu Garddwest y Brenin ym Mhalas Buckingham.

Enwebwyd Rob Rees a’i wraig Michele, am eu gwasanaeth i gyn-filwyr gyda Michele yn rheolwr cyffredinol elusen iechyd meddwl Links yn Llanelli a Rob yn gyn-dechnegydd peirianneg fecanyddol yn y Llu Awyr Brenhinol. 

Caiff y gwesteion eu henwebu gan elusennau a sefydliadau â chysylltiadau brenhinol, a chânt eu gwahodd er mwyn diolch iddynt am eu gwasanaeth cyhoeddus. 

Ac yntau wedi gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol am 12 mlynedd, treuliodd Rob lawer o’i fywyd wedi’i leoli mewn amrywiol ganolfannau milwrol yn y DU gan gynnwys cyfnod o bum mis yn Ynysoedd y Falklands hefyd. 

Yn 1997, gadewodd Rob y Llu Awyr a chafodd swydd fel peiriannydd dylunio gyda chwmni Plastigion Kerton yn Abertawe. Yn dilyn rhai blynyddoedd yn y diwydiant peirianneg fecanyddol, enillodd swydd addysgu yng Ngholeg Sir Gâr yn 2001.

Fodd bynnag, fe wnaeth Rob gadw ei gysylltiadau â’r lluoedd arfog a thrwy gydweithiwr i Michele, daeth Cymdeithas leol y Gwarchodlu Cymreig ato gan ofyn iddo helpu gyda digwyddiad ar gyfer cyn-filwyr. “Roedd y cysylltiad gyda chyn-filwyr unfryd y lluoedd arfog yn ddisyfyd,” meddai Rob. Cafodd ei berswadio i ymuno â’r gangen ac mae wedi bod yn drysorydd y gymdeithas ers y pum mlynedd ddiwethaf, yn gwirfoddoli ei amser mewn cyfarfodydd, digwyddiadau a gorymdeithiau.

A selfie of Rob and his wife all dressed up with a royal residence in the background

Mae’n wirioneddol werth chweil i allu cael cymaint o gyn-filwyr lleol at ei gilydd a chynnig help i’r rheiny sy’n dioddef caledi.”

Mae Cymdeithas y Gwarchodlu Cymreig yn codi arian ar gyfer elusennau, yn cynnal a chadw beddau rhyfel ac yn darparu presenoldeb milwrol mewn angladdau a digwyddiadau cyn-filwyr. 

Gan weithio gyda’i wraig Michele, sy’n cefnogi’r gymuned leol o gyn-filwyr drwy ei rôl waith, mae’r pâr yn mynychu clybiau brecwast sefydliadau NAAFI yn rheolaidd ac maen nhw wedi helpu sefydlu cinio Nadolig blynyddol poblogaidd iawn a drefnir gan Links.

Meddai Robert Rees, darlithydd mewn peirianneg fecanyddol yng Ngholeg Sir Gâr: “Gwnaeth rywun o’r gymuned leol o gyn-filwyr enwebu fy ngwraig a minnau i gael ein hystyried i gael gwahoddiad i Arddwest y Brenin ym Mhalas Buckingham. Hyd y dydd heddiw, does dim syniad gyda ni pwy wnaeth ein henwebu ni ond rydyn ni’n teimlo mor wylaidd bod rhywun wedi meddwl amdanom ni.

“Roedd yn anrhydedd o’r eithaf i fynychu’r digwyddiad a chawson ni amser hyfryd. Gwelon ni ambell aelod allweddol o’r teulu brenhinol ac mae’n rhywbeth rydyn ni mor falch ohono a fyddwn ni fyth yn anghofio.

“Hefyd hoffwn i ddiolch i’r coleg am roi amser bant i mi er mwyn cael mynychu’r digwyddiad.

“Rwy’n dal i fwynhau’r direidi rhwng y gymuned cyn-filwyr; mae’r fyddin, y llynges a’r llu awyr bob amser yn tynnu coes ei gilydd ond mae’r cyfeillgarwch yn aruthrol. 

“Mae’n wirioneddol werth chweil i allu cael cymaint o gyn-filwyr lleol at ei gilydd a chynnig help i’r rheiny sy’n dioddef caledi.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau