Cylchgrawn myfyrwyr ar y rhestr fer ar gyfer gwobr newydd-ddyfodiad genedlaethol
“Mae creu’r cyhoeddiad hwn ochr yn ochr â’n hastudiaethau ehangach yn rhywbeth yr ydym i gyd yn falch iawn ohono, felly mae cael ein henwebu ar gyfer y wobr hon yn ategiad calonogol i’n hymdrechion.” Myfyriwr Kirsti Straw
Mae cyhoeddiad dan arweiniad myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi cyrraedd rhestr fer gwobr y newydd-ddyfodiad gorau gan y Gymdeithas Cyhoeddiadau Myfyrwyr (Student Publications Association).
Mae Graig Dispatch, cylchgrawn i fyfyrwyr ar gampws y Graig y coleg, dan arweiniad ei sylfaenwyr Evie Somers a Kirsti Straw, wedi cyhoeddi ei drydydd rhifyn erbyn hyn.
Y Gymdeithas Cyhoeddiadau Myfyrwyr (SPA) yw’r gymdeithas cyfryngau myfyrwyr fwyaf, sy’n cynrychioli papurau newydd, cylchgronau, gwefannau a chyhoeddiadau eraill myfyrwyr ledled y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae Graig Dispatch wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cyhoeddiad Newydd Gorau
Ar ôl sylweddoli nad oedd gan y coleg na champws y Graig gylchgrawn myfyrwyr eto, daeth Kirsti ac Evie â thîm fyfyrwyr oedd yn awduron a ffotograffwyr at ei gilydd i gefnogi’r gwaith o greu Graig Dispatch.
Gan ddod ag unigolion o’r un anian ynghyd, cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar gyfer yr hyn a fyddai’n datblygu i fod yn Graig Dispatch ym mis Ionawr 2025.
Roedd eu hegwyddorion arweiniol ar gyfer y cylchgrawn yn glir; cylchgrawn sy’n cael ei redeg a’i gyhoeddi gan fyfyrwyr sydd â safonau newyddiadurol a moeseg wrth wraidd y cyfan.
Mae’r timau golygyddol a dylunio wedi bod yn hanfodol wrth gyflwyno’r fenter newydd hon ac ers hynny maen nhw wedi bod yn cynhyrchu cynnwys sy’n ymchwilio i wahanol faterion megis dyfodol Rygbi Cymru ac effeithlonrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Drwy waith tîm, cyfarfodydd golygyddol a llawer o waith y tu hwnt i’w hastudiaethau, maen nhw’n falch iawn o’r hyn y maen nhw wedi’u gyflawni.
I Kirsti ac Evie, mae bod yn rhan allweddol o’r cylchgrawn hwn hefyd wedi atgyfnerthu eu dewisiadau gyrfa ac wedi’u rhoi ar y trywydd iawn i ddod yn newyddiadurwyr gyda’r profiad yn dylanwadu ar eu dewisiadau ar gyfer y brifysgol. “Roedd cynhyrchu ein cylchgrawn cyntaf yn risg ac, i bob pwrpas, yn arbrawf,” meddai Kirsti. “Nid oedd gennym lawer o wybodaeth na syniad ynglŷn â sut y byddai’n cael ei dderbyn gan gyd-fyfyrwyr a staff, ond mae gweld sut mae’r cyhoeddiad wedi datblygu a gweld myfyrwyr a chyfranwyr yn parhau â’r gwaith ar gyfer y dyfodol yn sicr yn rhoi boddhad i ni.”
Gyda’r cyd-sylfaenwyr Evie a Kirsti wrth y llyw yn ystod eu blwyddyn olaf yn y coleg ac wrth iddynt symud ymlaen i lefel prifysgol, mae’r cyfrifoldebau golygyddol bellach yn nwylo galluog y myfyrwyr Eleanor Toft a Leon-Alvarez-Collinson.
Meddai Evie Somers: “Mae’r gydnabyddiaeth gan SPA drwy ein henwi ar y rhestr fer ar gyfer y Cyhoeddiad Newydd Gorau yn dyst i’r gwaith a wnaed gan y tîm cyfan yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
“Mae creu’r cyhoeddiad hwn ochr yn ochr â’n hastudiaethau ehangach yn rhywbeth yr ydym i gyd yn falch iawn ohono, felly mae cael ein henwebu ar gyfer y wobr hon yn ategiad calonogol i’n hymdrechion.
Ychwanegodd Kirsti Straw: “Wrth fynd ati i greu Graig Dispatch, roedd gan y ddwy ohonom ddyheadau i ymuno â byd newyddiaduraeth, ac mae ein profiad o greu’r cylchgrawn wedi cadarnhau a chefnogi’r dyhead hwnnw. Wrth i’r ddwy ohonom symud ymlaen i’r brifysgol a dilyn yr uchelgeisiau hyn, rydym yn ddiolchgar am y cyfle i greu cyhoeddiad o’r fath ac yn gobeithio y bydd yn parhau i gynnig cyfle i fyfyrwyr eraill archwilio rolau ym maes cynhyrchu cylchgronau.”