Skip page header and navigation
Foreground a medical machine and background blurred nurses seeing to a patient

Dyfodol â Phwrpas

Dewch o hyd i’r Llwybr sy’n Teimlo’n Iawn
 

Mae pobl yn cyrraedd gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd - ac i lawer, diploma galwedigaethol yw’r llwybr sy’n eu harwain yno ac yn eu harwain i’r brifysgol.

I fyfyrwyr sydd ag angerdd dros wneud gwahaniaeth, mae’r Diploma Estynedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnig llwybr ymarferol, sy’n canolbwyntio ar yrfa, gyda chyfleoedd ar gyfer dilyniant.

Mae’r myfyrwyr dan sylw yn y stori hon wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i brifysgolion ledled Cymru a’r DU, gan fynd ymlaen i astudio meysydd fel oncoleg, gwaith cymdeithasol, radiograffeg, nyrsio a hyd yn oed addysgu mewn ysgolion cynradd.

Budd ychwanegol Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Un o brif fanteision y Diploma Estynedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r lleoliad gwaith 60 awr gorfodol. Mae prifysgolion yn rhoi gwerth mawr ar y profiad hwn, gan ei fod yn dangos cyflogadwyedd, mewnwelediad i’r sector a phrofiad yn y gwaith - sydd i gyd yn helpu myfyrwyr i sefyll allan wrth wneud cais i brifysgol.

Mae hefyd yn rhoi blas i fyfyrwyr o’r swydd sydd, i lawer, wedi cadarnhau neu ailgyfeirio eu nodau gyrfaol. 

 

An official with lanyard, child in the middle and mum to the right, in a house visiting setting

Beth fydda i’n ei astudio ar y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Amrywiaeth o fodiwlau megis ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion, deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol, cefnogi unigolion sydd mewn perygl, egwyddorion gofal ac ymarfer diogel ym maes gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion ac ar ganlyniadau a llawer mwy. 

Dw i wedi clywed ei bod hi’n well astudio cymwysterau Safon Uwch

Mae hwn yn gamsyniad cyffredin ac yn aml yn anghywir. Er bod astudio ar gyfer cymwysterau Safon Uwch yn opsiwn cryf i lawer o fyfyrwyr, nid ydyn nhw’n addas ar gyfer arddull dysgu pawb.

Mae’r gwahaniaeth i’w weld yn y ffordd y mae’r dysgu wedi’i strwythuro, nid yng ngwerth y cymhwyster.

Cofiwch, diploma estynedig yw’r hyn sy’n cyfateb yn alwedigaethol i astudio tri chymhwyster Safon Uwch. 

Safon Uwch neu Ddiploma Estynedig — pa un sydd fwyaf addas i mi?

Mae cymwysterau Safon Uwch yn aml yn addas iawn ar gyfer myfyrwyr sydd:

  • Yn mwynhau asesiadau sy’n seiliedig ar arholiadau
  • Eisiau astudio tri phwnc gwahanol neu ragor
  • Yn ffafrio llwybr academaidd mwy traddodiadol

Mae Diplomâu Estynedig yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd:

  • Yn ffafrio gwaith cwrs a dysgu seiliedig ar aseiniadau
  • Yn mwynhau ymchwilio, cymhwyso gwybodaeth a chyflwyno gwaith
  • Eisiau canolbwyntio’n fanwl ar un pwnc yn unig 

Mae cyrsiau diploma yn fwy seiliedig ar aseiniadau, sy’n caniatáu i’r myfyriwr ymchwilio’n llwyr i’w waith sy’n cael ei farcio gyda graddau A i E. Mae’r gwaith hwn hefyd yn mynd trwy broses ddilysu fewnol ac allanol. Mae angen i chi fod yn siŵr y byddwch chi’n mwynhau astudio’r pwnc o’ch dewis yn llawn amser. 

Mae’r ddau lwybr yn cynnig llwybr i’r brifysgol.

Dewch i gwrdd â rhai o’n myfyrwyr Diploma Estynedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol presennol a fydd yn mynd i’r brifysgol ym mis Medi.

A radiographer putting someone through a treatment
  • Roedd angen llawdriniaeth ar asgwrn cefn Ruby a thrwy hynny gwelodd waith y staff meddygol ac fe’i hysbrydolodd i ddilyn cwrs ym maes gofal iechyd.

    Gwnaeth gais i astudio radiotherapi yng Nghaerdydd (Bwrsariaeth y GIG), Bryste, Plymouth a Phrifysgol Llundain (City St George)

    “Dywedodd rhai pobl wrtha i fod coleg yn ‘opsiwn israddol’ o’i gymharu â’r chweched dosbarth ond nid yw hynny’n wir. Mae’r gwaith yr un mor heriol ond mae’n well gen i beidio â chael cymaint o arholiadau gan fy mod i’n dueddol o ddysgu trwy wneud. Hefyd, mae 60 awr o brofiad gwaith gorfodol ar leoliad yn rhan o’r cwrs hwn, ac mae hynny wedi bod o gymorth mawr gyda fy nghais i’r brifysgol.”

  • Gwnaeth Millie gais am le yng Nghaerdydd, Bryste, Abertawe, Caerfyrddin a Phrifysgol De Cymru.

    Aeth ar leoliad gwaith i Ysbyty Glangwili lle bu’n gweithio ar y ward cyn llawdriniaeth ac ar ôl llawdriniaeth, yn dilyn nyrsys ac yn helpu cleifion.

    “Dw i wastad wedi bod eisiau bod yn nyrs neu weithio mewn swydd sy’n helpu pobl ym maes meddygaeth. Mae gen i aelodau o’r teulu sy’n gweithio yn y sector fel arweinydd tîm ym maes bydwreigiaeth, prif weinyddes nyrsio mewn uned iechyd meddwl ac mae fy mam hefyd yn gweithio fel ymatebwr cyntaf.” 

  • Gwnaeth Holly gais am le i astudio ym Manceinion, Bryste, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd.

    “Daeth nyrs iechyd meddwl i’r coleg i gynnal sgwrs a newidiodd hynny ffocws fy ngyrfa o ddifrif. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel, mae’n gwrs mor dda, dw i wrth fy modd yma a byddaf wir yn gweld ei eisiau. Mae’r staff yn bobl mor dda ac maen nhw wedi bod yn rhan enfawr o’m llwyddiant.”

    Holly Hopkins head shot, long blond hair
  • Gwnaeth Lexi gais am le ym Mryste a Swydd Henffordd.

    “Mae’r cwrs yn un da iawn ac mae’n rhoi cymaint o opsiynau i chi ar y diwedd, fel mynd ymlaen i astudio iechyd galwedigaethol, therapi iaith a lleferydd, addysgu, seicoleg, rheolaeth gofal iechyd neu iechyd y cyhoedd.” 

    Lexi looking at the camera in a holiday setting
  • Gwnaeth gais am le ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Chaerfyrddin.

    Ymunodd Ava ag Academi Rygbi’r coleg hefyd yn ystod ei hastudiaethau.

    “Es i ar leoliad gwaith i Ysgol Gynradd Y Pwll a chefais adborth da iawn a chipolwg ar addysgu mewn ysgol gynradd. Cadarnhaodd y lleoliad hwn fy mhenderfyniad i astudio addysg gynradd.”

    A selfie of Ava Martin wearing a black and white striped top
  • Gwnaeth Sanjana gais am le yn Aberystwyth, Bryste, Caerdydd, Abertawe a Phrifysgol De Cymru.

    Roedd hi eisiau astudio seicoleg nes i’w mam fynd yn sâl a dioddef argyfwng meddygol. Bu’n rhaid i Sanjana ddelio â’r sefyllfa dyngedfennol honno a newidiodd hynny ei ffocws. Fel nyrsys, mae ei mam a’i nain hefyd yn ysbrydoliaeth iddi. 

    “Fe wnes i fwynhau fy lleoliad gwaith yn Ysbyty Glangwili yn fawr iawn. Roeddwn i’n gweithio mewn ward dementia ac yn cael y profiad o fod mewn cyfarfodydd boreol gyda’r nyrsys a’r meddygon. Os nad ydych chi’n siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud ond yn gwybod eich bod chi eisiau helpu pobl, yna mae’n opsiwn da a gallwch chi ddefnyddio’r amser yn y coleg i archwilio unrhyw feysydd gall fod o ddiddordeb.” 

  • Gwnaeth gais am le ym Mhrifysgol Abertawe

    “Dw i wedi bod eisiau gwneud rhywbeth ym maes iechyd ers pan oeddwn i’n ifanc iawn.  Fe wnes i ystyried cwnsela ond dw i’n credu fy mod i’n rhy empathetig, felly roeddwn i’n meddwl mai gwaith cymdeithasol oedd y dewis gorau oherwydd byddwn i’n rhoi atebion ar waith i fynd i’r afael â’r ‘sut’ yn hytrach na’r ‘pam’. 

    Aeth Abigail ar leoliad gwaith gyda Mind yn Llanelli.

    “Dw i wedi cael llawer o gefnogaeth gan staff sydd wedi talu ar ei ganfed gan fy mod i’n llwyddo i gael graddau da iawn. Ond dw i hefyd wedi dod i ddeall fy arddull dysgu ac wedi datblygu strategaethau ymdopi fel nad oes angen cymaint o gefnogaeth arna i.”

    Abigail wearing her Coleg Cymraeg hoodie

Rhannwch yr eitem newyddion hon