Skip page header and navigation
Harry and his cookery tutor Dan at the London competition

“Mae gan Harry ddyfodol disglair o’i flaen ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’i daith goginiol.”  Darlithwyr Daniel Williams a Dawn Williams.

Mae Harry Howells, myfyriwr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr, wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl cystadlu mewn rownd derfynol yn y DU sydd wedi rhoi hwb i’w daith goginiol.

Er na enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon Riso Gallo, mae’r profiad yn golygu ei fod hyd yn oed yn fwy awyddus a phenderfynol i ddysgu mwy ar ei daith goginiol wrth iddo ddechrau ar ei gwrs coginio proffesiynol a lletygarwch lefel dau ym mis Medi. 

Cafodd Harry ei ddewis i gynrychioli Cymru ar ôl ennill rownd cenedlaethol Cymru yng nghystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon Riso Gallo, pan enillodd y wobr gyntaf am ei risotto madarch gwyllt.

Gan addasu ei rysáit er mwyn cynnwys madarch shimeji Japaneaidd a defnyddio capiau’r madarch fel garnais, roedd Harry’n cystadlu yn erbyn tua 12 o gystadleuwyr eraill oedd yn cynrychioli’r DU ac Iwerddon. Dywedodd eu bod yn gyfeillgar ac yn brofiadol iawn yn eu meysydd. 

Harry's risotto with green and mushroom cap garnish

Meddai Harry Howells: “Dywedodd y beirniaid fy mod i wedi gwneud yn eithriadol o dda o ystyried mai dim ond 17 oed ydw i ac yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio cwrs lefel un.

“Roedd nifer o’r cystadleuwyr eraill wedi bod yn y coleg yn hirach na fi ac roedd ganddyn nhw brofiad o weithio mewn bwytai â seren Michelin, ond roedd y profiad yn anhygoel.

“Dydw i erioed wedi cael profiad o fod mewn ardal VIP o’r blaen, heb sôn am fod mewn cegin broffesiynol a oedd fel newydd yn stadiwm 
Tottenham Hotspur lle’r oedden ni’n cystadlu, roedd yn anhygoel.

“Roeddwn i’n nerfus iawn ond cyn gynted ag y dechreuais goginio, roeddwn i’n gallu anwybyddu popeth arall.

“Byddai’r beirniaid yn dod i siarad â ni yn aml ac fe ddywedon nhw fod gwead a chysondeb fy risotto yn berffaith.”

Dywedodd Harry hefyd fod gweld seigiau’r cystadleuwyr eraill yn galonogol ar un llaw ac yn ysbrydoledig ar y llaw arall.

Harry with an Italian chef at the event

Mae Harry’n mynychu’r coleg bedwar diwrnod yr wythnos ac yn gweithio 30 awr yng Ngwesty’r Ashburnham, ac felly mae e’n gyfarwydd â gwaith caled a gyda chymorth ei diwtoriaid, bu’n ymarfer ei risotto yn gyson yn y coleg a gartref fel y gwnaeth pan enillodd rownd genedlaethol Cymru.

Ac yntau eisoes wedi ennill medal aur Cymru yn ystod ei flwyddyn gyntaf un yn y coleg, ac wedi cael profiad o gystadlu mewn rownd derfynol yn y DU lle’r oedd yn cystadlu am gyfle i ennill profiad coginiol gyda Fabio Pisani ac Alessandro Negrini yn Il Luogo sydd â dwy seren Michelin ym Milan, mae Harry yn sicr yn o lwyddo.

Wrth gefnogi Harry yn y gystadleuaeth yn Llundain, mae’r tiwtoriaid wedi llwyddo i wneud cysylltiadau yn y diwydiant ac mae partneriaethau gwaith proffesiynol wedi’u ffurfio ar gyfer y dyfodol a fydd yn rhoi cyfleoedd dysgu ychwanegol i fyfyrwyr.. 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedd tiwtor coginio proffesiynol yng Ngholeg Sir Gâr, Daniel Williams, a’r tiwtor lletygarwch, Dawn Williams: “Hoffem longyfarch Harry ar ei lwyddiant, rydym yn hynod falch o’i ymdrech a’i ymrwymiad i’w alwedigaeth.  

“Mae gan Harry ddyfodol disglair o’i flaen ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’i daith goginiol.” 

Mae Harry i’w weld yn y llun gyda’r cogydd a chynrychiolydd cylchgrawn Good Food, Barney Desmazery a (top), ei diwtor Dan Williams.

Rhannwch yr eitem newyddion hon