Darlithydd yn cael ei chyfweld ar raglen BBC Breakfast i dynnu sylw at fenter aflonyddu cyhoeddus
Mae darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei chyfweld ar raglen BBC Breakfast er mwyn siarad am y prosiect Jog On cenedlaethol sy’n anelu at gadw menywod sy’n rhedeg yn ddiogel rhag aflonyddu cyhoeddus.
Cafodd Georgia Theodoulou, sy’n ddarlithydd gyda thîm Safon Uwch a Mynediad y coleg, ei gwahodd i stiwdios y BBC ym Manceinion lle y bu’n siarad yn fyw ar y teledu gyda’r cyflwynwyr Charlie Stayt a Naga Munchetty.
Cynhaliwyd y cyfweliad fel rhan o waith Georgia gyda’r prosiect Our Streets Now, ei genhadaeth yw rhoi terfyn ar ymlonyddu rhywiol cyhoeddus yn y DU.
Wedi’i fabwysiadau’r wreiddiol gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog a bellach wedi’i fabwysiadu gan heddluoedd ar draws y DU, nod y prosiect Jog On yw mynd i’r afael â’r aflonyddu y mae menywod yn dioddef pan fyddant allan yn rhedeg.
Mae’n defnyddio heddweision benywaidd cudd i fynd i’r afael â’r aflonyddu y mae menywod sy’n rhedeg yn aml yn ei wynebu, gan gynnwys heclo, brawychu, ac ymosodiadau.
Mae’r ymgyrch hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ymddygiad amhriodol a darparu addysg drwy hyfforddiant ar sut i ymyrryd a chymryd camau gorfodi yn erbyn unigolion sy’n mynnu targedu rhedwyr gydag ymddygiadau digroeso.
Bydd Georgia hefyd yn siarad am lansio’r Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, a oedd yn rhan o ymgyrch Our Streets, sy’n ei gwneud hi’n drosedd annibynnol i godi ofn ar rywun neu achosi gofid i rywun oherwydd eu rhyw.
Ar y sioe, soniodd Georgia am bwysigrwydd addysg, adrodd wrth yr heddlu am ymddygiad, codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael ag ymddygiadau lefel isel ac uchel o fewn cymdeithas.
Mae Georgia yn ymgyrchydd gweithredol iawn a gwobrwyedig ar gyfer VAWG (Trais yn Erbyn Menywod a Merched), yn gynrychiolydd ar gyfer UN Women UK ac yn arweinydd strategol ar gyfer Our Street Now Cymru a chwaraeon.
Mae hi hefyd yn llysgennad Her Game Too ar gyfer tîm dynion Clwb Pêl-droed Arsenal sy’n mynd i’r afael â rhywiaeth mewn chwaraeon.
Roedd Georgia hefyd yn rhan o’r fenter Arweinwyr Benywaidd mewn Pêl-droed yn Uwchgynhadledd Bêl-droed y Byd yn Sevilla, Sbaen ym mis Medi 2023, lle’r oedd pobl fel ysgrifennydd cyffredinol FIFA a chwaraewyr proffesiynol o Sevilla FC yn bresennol.
Yn y coleg, mae Georgia yn dysgu Drama a Saesneg Safon Uwch ac yn ogystal mae hi’n ymarferydd arweiniol ar gyfer gwrth-hiliaeth. Yn ddiweddar mae hi wedi cyflwyno myfyrwyr trin gwallt i raglen hyfforddi achrededig wyth wythnos mewn gwallt cyrliog ac affro.
Hefyd mae hi’n gweithio gyda cholegau eraill yng Nghymru a thimau chwaraeon yn cyflwyno hyfforddiant ar gyfer arweinwyr diogelu i helpu deall a mynd i’r afael â therfynau proffesiynol.
Yn dilyn y sioe BBC dywedodd Georgia ei bod wedi derbyn nifer o negeseuon oddi wrth ddynion a oedd wedi’u synnu gan ymddygiad y rheiny sy’n cyflawni’r troseddau hyn a’r ffaith nad oeddent yn ymwybodol o’r broblem cyn gwylio’r cyfweliad.