Skip page header and navigation
Liwsi playing with some toys smiling sitting on the floor

Gwnaeth cyn-fyfyrwraig Coleg Sir Gâr ymweld â’r tîm iechyd a gofal cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau genetig prin ei merch fach ac i ddwysáu dealltwriaeth myfyrwyr o bwysigrwydd gofal tosturiol. 

Daeth Zoe Brettle a’i merch fach ddwyflwydd oed Liwsi, â swyn hyfryd i mewn i’r ystafell ddosbarth a dynerodd  calonnau myfyrwyr a staff iechyd a gofal cymdeithasol ar unwaith.

Gyda Zoe yn gyn-fyfyrwraig iechyd a gofal cymdeithasol, cafodd ei hun 10 mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl mewn amgylchoedd cyfarwydd lle bu’n esbonio taith y teulu ers diagnosis Liwsi. 

Pan anwyd Liwsi sydd nawr yn ddwyflwydd oed, treuliodd hi ei diwrnodau cyntaf yn uned gofal dwys babanod newydd-anedig am ei bod angen cymorth resbiradol a chymorth i fwydo. 

Yn dilyn profion genetig ar ôl darganfod bod gan Liwsi 11 pâr o asennau yn lle 12, newidiwyd bywydau’r teulu mewn eiliad pan ddywedwyd wrthynt fod gan Liwsi nid un ond dau gyflwr genetig prin. 

Gan adael yr ysbyty’n teimlo ar goll ac ar eu pennau eu hunain, mae’r teulu ers hynny wedi bod yn dysgu sut i’w chefnogi ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth eu hunain gan sefydliadau megis Ty Hafan. 

Mae gan Liwsi ddau nam ar y galon o’r enw ASD (nam parwydol atrïaidd) a PDA (patent ductus arteriosis) ac mae’n dal i fethu bwydo heb diwb bwydo. 

Liwsi with her mum Zoe, some students and tutor watching her playing on the floor, they are all sat on the floow

Esboniodd Zoe fod Liwsi wedi dechrau dangos diddordeb brwd mewn bwyd ac oherwydd eu bod yn eistedd gyda’i gilydd fel teulu i fwyta eu pryd gyda’r nos, gall fod yn ofidus a heriol i aelodau’r teulu gan fod rhaid i Liwsi barhau i ddefnyddio’r tiwb bwydo.

I fynd i’r afael â’r broblem hon, mae’r teulu yn codi arian ar gyfer therapi VitalStim yng Nghanolfan Napa, Llundain fydd yn costio tua £10,000. 

Therapi symbylu trydanol allanol anfewnwthiol sy’n hybu llyncu’n naturiol yw’r driniaeth tair wythnos.

Esboniodd Zoe fod y teulu hefyd wedi gorfod ariannu ffisiotherapi cymhleth ond llwyddiannus ar gyfer Liwsi, oedd â gallu cyfyngedig iawn i symud cyn y driniaeth ffisiotherapi.

Cafodd y myfyrwyr eu cyffwrdd ar unwaith gan stori’r teulu a chawsant eu hysbrydoli i gyfrannu a chynhyrchu poster gyda chod rhodd i ledaenu’r gair am daith Liwsi. 

Yn ogystal, bydd darlithydd iechyd a gofal cymdeithasol Annette Grove yn rhedeg hanner marathon i godi arian i Liwsi gyda staff a myfyrwyr yn cynnal raffl hamper Nadolig. 

Er gwaethaf cyflyrau Liwsi, sydd hefyd yn cynnwys oedi o ran datblygiad, atchweliad cerrig milltir, anawsterau dysgu a heriau resbiradol, goleuodd hi’r ystafell yn ystod ei hymweliad ac yng ngeiriau ei mam Zoe, “mae hi’n mynd i’r afael a bywyd gyda phenderfyniad, ysbryd llawn llawenydd, a’r wên fwyaf disglair”.

Os hoffai myfyrwyr neu staff brynu tocyn raffl, maen nhw ar gael yn ystafell C10 ar gampws y Graig tan amser cinio Ddydd Iau 18 Rhagfyr.

Os hoffai unrhyw un gefnogi codi arian Liwsi, mae’r teulu wedi rhannu’r dolenni isod.

https://www.instagram.com/littlelightbigfight_ourfamily/

Facebook

https://www.justgiving.com/campaign/liwsiourbravelittlelight 

Rhannwch yr eitem newyddion hon