Skip page header and navigation
Abigail in the carpentry workshop wearing a college branded blue and black top looking at the camera smiling wearing glasses

Mae Abigail Hetherington yn diwtor mewn gosod trydanol yng Ngholeg Sir Gâr sy’n awyddus i annog mwy o fyfyrwyr sy’n ferched i ymuno â’r crefftau adeiladu.

Ar hyn o bryd mae hi’n dysgu myfyrwyr ar gyrsiau lefel un a lefel dau ar gampws Rhydaman ond mae hi hefyd wedi cael cyfrifoldeb am brentisiaid blwyddyn olaf. 

Mae Abigail wedi gweithio fel trydanydd hunangyflogedig ers blynyddoedd, gan redeg ei chwmni ei hun ochr yn ochr â’i gŵr.

Roedd hi wastad yn chwilfrydig am drosglwyddo ei sgiliau i bobl eraill felly rhoddodd gynnig ar faes addysg gan weithio fel cynorthwyydd addysgu anghenion ychwanegol mewn ysgol uwchradd yn Abertawe. “Roeddwn i’n gwybod fy mod am fynd i addysgu felly ces i fy swydd cynorthwyydd addysgu er mwyn ennill profiad yn y sector addysg ac i weld a oedd yn ddewis da i mi,” meddai Abigail. “Ar ôl tair blynedd, cafodd swydd addysgu ei hysbysebu yn y coleg ac erbyn hyn roedd gen i brofiad o’r sector.”

Nid oedd adeiladu’n llwybr amlwg i Abigail yn gynnar yn ei bywyd, gan ei bod wedi llwyddo i gael ei derbyn i astudio Safon Uwch. Fodd bynnag gwelodd nad dyna oedd y dewis iawn iddi hi felly newidiodd yr ystafell dosbarth am y gweithle a gweithio mewn adwerthu a gweinyddiaeth.

Yn 19 oed, penderfynodd gael crefft ac aeth ati i ailhyfforddi mewn gwaith gosod trydanol, fel myfyrwraig lawn amser i ddechrau, yna fel prentis. Fe wnaeth hyn, meddai, roi profiad gwerthfawr iddi ar gyfer dechrau ei chwmni ei hun.

Nawr mae hi’n dilyn ei huchelgais ac mae hi wedi ymgolli’n llwyr mewn hyfforddi pobl eraill a’u paratoi i ennill eu cymwysterau a sgiliau’n benodol i’r grefft. “Rwyf wrth fy modd yn siarad â’r myfyrwyr a’u helpu i ennill mwy o hyder,” meddai. “Mae llawer o fyfyrwyr yn meddwl y dylen nhw gael llawer mwy o brofiad na’r hyn sydd ganddynt, ond rwy’n ceisio eu sicrhau mai dyna pam eu bod yn y coleg, sef i ddysgu, a’n gwaith ni yw eu haddysgu.”

Ar benwythnosau, mae Abigail yn rhedeg ysgol ddawns i blant gyda dau ffrind. Mae hi’n chwarae pêl-rwyd pan gaiff gyfle ac mae hi’n mwynhau’r bywyd awyr agored. Gwelir hi yn aml ar y traeth, yn cadw’n heini, yn gwersylla ac yn treulio amser gyda’i theulu. 

Ychwanegodd Abigail Hetherington: “Byddwn i’n dwlu gweld mwy o fyfyrwyr sy’n ferched yn rhoi cynnig ar grefft adeiladu. 

“Hyd yn oed os nad yw’n rhywbeth maen nhw’n gweld eu hunain yn gwneud  fel gyrfa, boed yn dysgu sut i ddefnyddio offer yn gywir, newid ffitiadau golau neu socedi, gosod tapiau neu roi silffoedd i fyny, mae’r rhain yn sgiliau sydd mor ddefnyddiol yn eich cartref eich hun. Byddwn i’n annog unrhyw un i roi cynnig arni”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau