Dros 60 o fyfyrwyr chwaraeon yn cychwyn ar daith fythgofiadwy i Ganada diolch i nawdd cwmni adeiladu Vaughan Construction
“Fyddai rhai myfyrwyr lleol ddim yn cael y cyfle o fod yn rhan o daith ryngwladol. Felly os gallwn ni eu helpu nhw, yna rydyn ni’n rhoi cyfle cyfartal i bawb.” Adam Jones, Vaughan Construction.
Mae myfyrwyr chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr ar fin profi taith unwaith mewn oes wrth iddynt baratoi i deithio i Ganada fel rhan o daith addysgol, chwaraeon, a diwylliannol sydd ar ddod.
Fe fydd 63 o fyfyrwyr yn mynd ar y daith a wnaed yn bosibl gan nawdd hael gan gwmni Vaughan Construction.
Bydd rhai o’r myfyrwyr ar y daith yn cynnwys aelodau o Raglen Perfformiwr Elit y coleg, sydd hefyd yn cael ei noddi gan y cwmni. Mae’r rhaglen yn datblygu athletwyr gwrywaidd a benywaidd ar draws ystod o chwaraeon, ac mae gan lawer ohonynt safleoedd rhestrol Prydain Fawr, Ewrop a Chymru ar hyn o bryd mewn campau sy’n cynnwys rhedeg, jiwdo a chodi pwysau.
Bydd y grŵp yn teithio i Faes Awyr Rhyngwladol Montreal Trudeau ym mis Mehefin, ac yna ar daith 10-diwrnod lle byddan nhw’n profi rafftio dŵr gwyn, ymweld â’r tirnod enwog y Tŵr CN, mynd ar daith amffibiaidd, gweld gêm bêl fas prif gynghrair, parciau dŵr a pharciau pleser, cael cinio ym mwyty Brasa Brazilian Steakhouse, taith mewn cwch jet cyflym yn Rhaeadr Niagara a llawer mwy.
Yn ogystal byddan nhw’n profi eu sgiliau chwaraeon rhyngwladol trwy chwarae gemau rygbi a drefnwyd i ddynion a merched gan gynnwys gêm yn erbyn Clwb Rygbi Mississauga Blues.
Y daith arwyddocaol ddiwethaf gan y coleg oedd taith rygbi i Dde Affrica yn 2024 gyda Chanada yn gystadleuydd agos.
Meddai Rob Kirk, darlithydd mewn gwyddor chwaraeon a threfnydd y daith: “Mae Canada wedi bod ar ein rhestr ddymuniadau ers amser oherwydd ei rhyfeddodau naturiol. Gyda datblygiad ein hacademi rygbi i ferched a thîm merched Canada yn cyrraedd y safle ail orau’r llynedd yng nghwpan rygbi’r byd i ferched, meddylion ni fod yr amser yn berffaith.”
Gan aros yn Ottawa a Thoronto, bydd y grŵp yn teithio rhwng 20 Mehefin a 30 Mehefin.
Mae myfyrwyr gwyddor chwaraeon yn llawn cyffro wrth i’r daith agosáu. “Alla i ddim aros i brofi’r cyfle unwaith mewn oes hwn a gallu archwilio gwlad mor hardd,” meddai Maddie Jones, sydd hefyd yn chwarae dros academi bêl-droed y coleg.
Ychwanegodd Grace Rees, sy’n chwarae dros academi rygbi’r coleg: “Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am fynd i Ganada, gan ei fod yn gyfle i brofi gwlad newydd a chreu atgofion gyda fy nghyd-aelodau tîm wna i fyth anghofio.” Grace Rees, Myfyriwr Gwyddor Chwaraeon a Chwaraewr Academi Rygbi.
Mae aelod yr academi rygbi Oscar Reilly hefyd yn edrych ymlaen at y daith. “Rwy’n teimlo’n gyffrous ynghylch chwarae rygbi mewn gwlad wahanol,” meddai. “Ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Rhaeadr Niagara.”
Bydd nawdd gan gwmni Vaughan Construction hefyd yn gwneud yn siŵr bod chwaraewyr yn edrych yn broffesiynol drwy gydol yr ymweliad yn eu cit ar gyfer y daith.
Dechreuodd diddordeb y prif noddwr Adam Jones, sy’n rhedeg Vaughan Construction, yn y coleg pan oedd yn gweithio i fusnes ei deulu, TAD, wnaeth adeiladu cyfleuster chwaraeon newydd y coleg, Yr Efail. Cafodd ei hyfforddi hefyd gan Euros Evans, arweinydd rygbi’r coleg, yng Nghlwb Rygbi Llangennech. Yn ogystal roedd Adam yn fyfyriwr cwrs gradd BSc mewn Rheoli Prosiect ar gampws Rhydaman y coleg ac mae’n dal i fod yn gysylltiedig, gan ei fod yn hyfforddi a chyflogi prentisiaid gwrywaidd a benywaidd.
Wrth esbonio ei resymau dros noddi’r daith, dywedodd Adam Jones: “Pan oeddwn i’n ifanc ac yn chwarae rygbi, oni bai am noddwyr, ni fyddai cit gennych chi. Cwmni lleol ydyn ni, yn cyflogi pobl leol. Rwy’n teimlo ei fod yn beth da i roi rhywbeth nôl, ac mae’n dda i ddarparu hyn ar lefel sylfaenol a rhoi cam i fyny i’r genhedlaeth nesaf.
“Fyddai rhai myfyrwyr lleol ddim yn cael y cyfle o fod yn rhan o daith ryngwladol. Felly os gallwn ni eu helpu nhw, yna rydyn ni’n rhoi cyfle cyfartal i bawb.
Euros Evans, cyfarwyddwr yr academïau chwaraeon oedd hyfforddwr Adam. “Rwyf wedi adnabod Adam ers fy rôl hyfforddi uwch gyntaf yng Nghlwb Rygbi Llangennech,” meddai. “Hyd yn oed bryd hynny, roedd e’n unigolyn hynod o egnïol, yn ymdrechu’n gyson i wella ei hun ac ennill ei le fel chwaraewr craidd yn y tîm cyntaf. Nid yw’n syndod i’w weld yn cymhwyso’r un dycnwch i’r byd busnes. Mae e wedi adeiladu cwmni Vaughan Construction ac wedi’i droi’n llwyddiant erbyn hyn, ac rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am ei gefnogaeth barhaus yn ystod y blynyddoedd diweddar.”
Ychwanegodd Rob Kirk, darlithydd mewn gwyddor chwaraeon a threfnydd y daith: “Mae’r nawdd hwn wedi rhoi cyfle i ni allu rhoi taith unwaith mewn oes i’n holl fyfyrwyr chwaraeon, gyda phrofiadau sy’n newid bywyd ac rydyn ni mor ddiolchgar i Adam a’n holl noddwyr.
“Mae’n wych o beth i feddwl y bydd 63 o chwareaewyr yn dod â thymor llwyddiannus i ben, gan archwilio diwylliannau newydd a phrofiadau syfrdanol y byddwn ni’n hel atgofion amdanynt am weddill ein bywydau.”
Lluniau: Adam Jones a Danielle o Vaughan Construction yn cyflwyno gwobrau i fyfyrwyr.