Emily, y fyfyrwraig peirianneg, yn sicrhau prentisiaeth tyrbinau gwynt ar y môr
“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn annog mwy o ferched i ystyried peirianneg ac ynni adnewyddadwy fel llwybr gyrfa oherwydd mae cymaint o gyfleoedd ar gael, ac mae’n ddiwydiant werth chweil i fod yn rhan ohono.”
Mae Emily Hopkins yn fyfyrwraig peirianneg drydanol yng Ngholeg Sir Gâr ac mae hi wedi llwyddo i sicrhau prentisiaeth fel prentis tyrbinau gwynt ar y môr ar Fferm Wynt Alltraeth Sofia.
Bydd Emily, 17 oed, o Lanelli, yn gweithio i RWE, un o’r prif gynhyrchwyr trydan yn y byd o ran ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Am y ddwy flynedd gyntaf, bydd Emily yn ymgymryd â hyfforddiant yn y coleg yn y Rhyl tra bydd hi’n byw yng Nghaer.
Yna yn nes ymlaen yn ei phrentisiaeth, bydd hi’n symud i Grimsby i ymgymryd â mwy o hyfforddiant ymarferol cyn cael ei lleoli ar y môr ar Fferm Wynt Alltraeth Sofia ym Môr y Gogledd sy’n cynnwys taith 15 awr mewn cwch o’r porthladd.
Roedd Emily yn un o rhwng 30 a 40 o ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad a hynny allan o tua 3,000 o geisiadau.
Wrth egluro’r broses, meddai Emily: “Cynhaliwyd y cyfweliad yn Leeds ac roedd yn cynnwys sawl cam, gan gynnwys cyfweliad, tasg tîm gyda phobl nad oeddwn erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen a chyflwyniad pum munud amdanaf i fy hun a pham y byddwn yn addas ar gyfer y brentisiaeth.
“Roedd yn sicr yn brofiad digon brawychus ar adegau, yn enwedig cyflwyno a gweithio dan bwysau, ond fe wnaeth y profiad hefyd fy ngwthio y tu hwnt i’m cylch cysur a’m helpu i fagu hyder.
“Er ei fod yn brofiad dwys, roedd yn brofiad da iawn ar y cyfan oherwydd rhoddodd gyfle i mi herio fy hun, cwrdd â phobl newydd, a dysgu mwy am y diwydiant a’r cwmni.”
Ar ddiwedd ei phrentisiaeth, bydd Emily yn dechnegydd tyrbinau gwynt ar y môr cymwys a phrofiadol.
A hithau wrthi’n cwblhau diploma estynedig technegol EAL mewn technolegau peirianneg ar hyn o bryd, mae Emily yn dweud ei bod hi’n edrych ymlaen i gael y cyfle i weithio ar brosiect ynni adnewyddadwy ar raddfa mor fawr ac i ennill profiad o fewn y diwydiant gwynt ar y môr.
Ychwanegodd Emily Hopkins: “Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar a balch o fod wedi sicrhau’r brentisiaeth hon oherwydd ei bod yn gyfle mor anhygoel ac yn gyflawniad enfawr i mi’n bersonol. Mae gweld yr holl waith caled rydw i wedi’i wneud yn dwyn ffrwyth yn deimlad gwerth chweil.
“Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael y gefnogaeth oddi wrth fy ngholeg, tiwtoriaid, teulu, a phawb sydd wedi fy helpu drwy gydol y daith hon.
“Mae peirianneg yn dal i fod yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, felly mae gallu cyflawni rhywbeth fel hyn fel menyw ifanc yn golygu llawer i mi.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn annog mwy o ferched i ystyried peirianneg ac ynni adnewyddadwy fel llwybr gyrfa oherwydd mae cymaint o gyfleoedd ar gael, ac mae’n ddiwydiant werth chweil i fod yn rhan ohono.”
Meddai Karen Flannery, pennaeth peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae Emily yn fenyw ifanc go arbennig ac rwy’n credu y bydd hi’n mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych ym myd peirianneg. Rydw i mor falch ohoni.”
-
Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yng Ngholeg Sir Gâr, cyflwynodd un o fy nhiwtoriaid peirianneg fy nosbarth i gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r enw WorldSkills y DU. Roedd sawl categori peirianneg gwahanol ar gael i gystadlu ynddynt, ond roedd y gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy yn sefyll allan i mi ar unwaith oherwydd fy mod eisoes wedi dechrau dysgu am ynni adnewyddadwy yn fy astudiaethau.
Fe wnes i gais i gystadlu a llwyddo i fynd trwy’r cam cyntaf, a arweiniodd at daith i Doncaster ar gyfer y rowndiau rhagbrofol. Ar ôl cystadlu yno, fe wnes i symud ymlaen ymhellach fyth a chefais y cyfle i gystadlu yn erbyn pobl o bob cwr o’r DU am le yng ngharfan y DU.
Trwy gydol y gystadleuaeth, tyfodd fy niddordeb mewn ynni adnewyddadwy yn aruthrol. Cefais gyfle i weithio gyda gwahanol fathau o gyfarpar ynni adnewyddadwy ac ennill profiad ymarferol yn y sector. Un maes oedd yn arbennig o ddiddorol i mi oedd gweithio gyda chyfarpar a oedd yn efelychu system tyrbin gwynt. Taniodd hynny fy niddordeb mewn ynni gwynt ar y môr.
Yn ystod y gystadleuaeth, cefais gyfle hefyd i siarad â phrentis o RWE a oedd yn hyfforddi i fod yn Dechnegydd Tyrbinau Gwynt ar y Môr. Roedd siarad â rhywun sydd eisoes yn y rôl yn help i mi ddeall y llwybr gyrfa yn llawer cliriach a sylweddolais fod hyn yn rhywbeth y gallwn i wirioneddol weld fy hun yn ei wneud. Roedd y sgwrs honno, ynghyd â’m profiad yn ystod cystadleuaeth WorldSkills y DU, yn rhan enfawr o’r hyn a wnaeth fy ysbrydoli i wneud cais am y brentisiaeth.