Skip page header and navigation
The minister walking around on a campus tour with a number of college staff

Fe wnaeth Gweinidog Llywodraeth y DU Anna McMorrin, ymgymryd ag ymweliad swyddogol â champws Gelli Aur Coleg Sir Gâr i gael tro o gwmpas ei Academi Sgiliau Gwyrdd a lansiwyd yn ddiweddar. Cafodd weld yn uniongyrchol hefyd sut mae cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn helpu i ddarparu uwchsgilio arwyddocaol mewn cynaliadwyedd a sgiliau gwyrdd. 

The minister with head of Green Skills Jemma Parsons and vice principal

Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth Jemma Parsons, pennaeth yr Academi Sgiliau Gwyrdd, ddangos y gwaith mae’r academi’n gwneud i gefnogi cyflwyno cymwysterau ôl-osod, ynni adnewyddadwy, a chymwysterau rheoli ynni yn y ganolfan, sydd hefyd yn gwasanaethu fel hwb arddangos ar gyfer gweithgynhyrchwyr, awdurdodau lleol, a phartneriaid diwydiant.

Green Skills Academy inside the building showing the equipment

Yn ogystal aeth hi â’r gweinidog am dro o gwmpas cyfleuster yr Academi Sgiliau Gwyrdd, adeilad sydd wedi cael gwaith ôl-osod dwys gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau adeiladu modern a thraddodiadol, ochr yn ochr â thechnolegau adnewyddadwy integredig. Wedi’i gynllunio fel ystafell ddosbarth fyw, mae’r cyfleuster yn arddangos gwaith adeiladu cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy ar waith. O system solar PV (Ffotofoltaidd) a storfeydd batri i system wresogi danlawr wedi’i phweru gan bwmp gwres, deunyddiau inswleiddio naturiol, systemau awyru datblygedig, a mesurau gwrthsefyll llifogydd, mae pob elfen wedi’u cynllunio’n ofalus i fod yn weithredol ac i gyflwyno addysg hefyd.

Y cyllid llywodraeth sydd y tu cefn i’r gwaith o ôl-osod yr hwb yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Rhaglen llywodraeth ganolog y DU yw hon a gynlluniwyd i gymryd lle cyllid strwythurol yr UE. Mae’n darparu cyfalaf a refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddi cymunedol, busnes a buddsoddi mewn sgiliau.

Yn ystod yr ymweliad, bu Liz Bowes, pennaeth amaethyddiaeth yn y coleg, hefyd yn esbonio rôl amaethyddiaeth yn y sectorau addysg bellach ac addysg uwch, yn ogystal ag esbonio’r gwaith a gyflawnir gydag ysgolion uwchradd, darparu hyfforddiant ar safle a chyfraniad y coleg i astudio rhan-amser, garddwriaeth, peirianneg amaethyddol a Chyswllt Ffermio.

The minister in a pen holding a lamb

Hefyd manteisiodd y pennaeth ymchwil amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr, John Griffiths, ar y cyfle i rannu prosiectau Cymru gyfan, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gyda’r gweinidog. Mae’r prosiectau hyn wedi mynd i’r afael â heriau iechyd anifeiliaid difrifol yn y diwydiant, megis dileu clafr defaid a dolur rhydd feirysol buchol (BVD) ar draws Cymru gyfan. 

Meddai:  “Cafwyd diwrnod gwych ar gampws Gelli Aur pan ymwelodd y Gweinidog McMorrin â’r campws.

“Roedd y Gweinidog wrth ei bodd yn arbennig yn ymweld ag adeilad yr Academi Werdd a godwyd yn ddiweddar a dysgu am yr holl dechnolegau newydd sydd yn cael eu harddangos.”

“Hefyd, yn ystod yr ymweliad, buom yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer gwaith pellach ym maes amaethyddiaeth, gan gynnwys iechyd anifeiliaid, ynni ac effeithlonrwydd a maetholion.”

Jemma Parsons head of Green Skills Academy outside by the sign

Cysylltwch â Jemma Parsons, Pennaeth Academi Sgiliau Gwyrdd ar greenskillsacademy@colegsirgar.ac.uk

Rhannwch yr eitem newyddion hon