Skip page header and navigation
Young people looking at a map inside a building at the camp museum

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymweld ag Auschwitz fel rhan o Brosiect Gwersi o Auschwitz Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost.

Roedd yr ymweliad â Chanolfan Goffa ac Amgueddfa Auschwitz-Birkenau yn ffurfio rhan o raglen ehangach lle caiff cyfranogwyr eu gwahodd i seminarau ar-lein ac wyneb yn wyneb a chlywed yn uniongyrchol gan oroeswyr yr Holocost sy’n rhannu eu profiadau personol. 

Trwy eu darlithydd hanes, Dr Dominic Phelps, gwnaeth pedwar myfyriwr Safon Uwch gais ar gyfer y rhaglen ac fe lwyddon nhw i ennill lle. 

Yn dilyn yr ymweliad â Gwlad Pwyl, rhoddwyd lle cyfarfod ar-lein i gyfranogwyr i’w helpu i brosesu’r hyn maen nhw wedi’i weld. Yn dilyn hynny gofynnir iddynt greu prosiect personol i’w galluogi i rannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu a’i brofi. 

Meddai Dr Dominic Phelps, darlithydd mewn hanes yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn brofiad mor ystyrlon ac amhrisiadwy i fyfyrwyr.

“Mae hanes yn bwnc byw ac mae’r daith hon i Auschwitz a’r seminarau byw yn rhoi’r cyfle i chi fod mewn adeg fawr mewn amser ni all llyfrau, ffilmiau a rhaglenni dogfen ei gynnig.”

Gofynnon ni i ddwy o’r myfyrwyr, Mollie Dwyer a Mia Williams, a gymerodd ran yn y Prosiect Gwers o Auschwitz i rannu eu profiad gyda ni. 

A whole set of family photos of people who were sent to the camp

Beth wnaeth i chi eisiau cymryd rhan a mynychu rhaglen Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost?

Ar y dechrau pan glywon ni am yr ymweliad addysgol ag Auschwitz, roedden ni’n awyddus i wneud cais gan ein bod ar hyn o bryd yn astudio’r Almaen Natsïaidd yn hanes ac rydyn ni wedi astudio’r Holocost o’r blaen yn yr ysgol. Mae hwn wedi bod yn faes o ddiddordeb mawr i ni ers yn ifanc, gyda Mia yn ymddiddori mewn hanesion personol fel Dyddiadur Ann Frank a Mollie â diddordeb ers iddi ddysgu bod ei hen dadcu yn garcharor rhyfel yn yr Almaen. Hefyd, rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig i addysgu pobl am yr Holocost a chadw’r cof am y dioddefwyr yn fyw.

Beth oedd y peth mwyaf emosiynol ddysgoch chi o ganlyniad i’r ymweliad?

Wrth adfyfyrio, gwnaeth y ddwy ohonom ddod i’r canlyniad mai agwedd fwyaf emosiynol ein hymweliad oedd yr oriel a gysegrwyd i’r plant a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost. Gwelon ni nifer o ddelweddau, dillad ac eiddo’n perthyn i’r plant a oedd yn y gwersylloedd. Golygfa dorcalonnus fydd yn aros gyda ni am byth. Roedd yn agoriad llygad ac yn brofiad emosiynol i weld plant o’n hoed ni ac iau yn yr oriel, gan wneud i ni fyfyrio ar ba mor wirioneddol real oedd y digwyddiadau.

the gates of the concentration camp

Ydy e wedi cael effaith ar eich astudiaethau hanesyddol?

Rhan bwysig o’r prosiect oedd dal y tramgwyddwyr yn atebol am eu dewisiadau dynol yn hytrach nag ystyried yn syml eu bod yn ‘gythreulig o ddrwg’. Yn nhermau ein hastudiaethau hanesyddol, wrth ddysgu am rolau’r tramgwyddwyr yn y digwyddiadau, cawn ein hunain yn awr yn edrych yn ddyfnach i fywydau dynol y bobl hyn a ystyriwyd i fod yn ‘ddienaid.’ Cawsom fod llawer ohonynt yn byw bywydau ‘normal’, gyda dyletswyddau teuluol a phlant. Er enghraifft, mae un o’r lluniau yn disgrifio Rudolph Höss, sylfaenydd a chomander cyntaf Auschwitz I a sut daeth â’i deulu i fyw ar safle’r gwersyll er mwyn gallu darllen straeon i’w blant cyn iddynt fynd i’r gwely bob nos. Gan edrych arno o’r persbectif hwn, mae’n gwneud ein canfyddiad o’r ffigurau hyn yn fwy cymhleth, yn enwedig pan gânt eu cyflwyno’n gyffredinol fel pobl sinistr a didostur.

Pam astudio Safon Uwch hanes?

Mae Safon Uwch Hanes yn gyffredinol bleserus i ni astudio oherwydd ei oddrychedd, am fod ystod o wahanol bersbectifau sy’n archwilio pam a sut gwnaeth digwyddiadau’r gorffennol ddigwydd, gan wneud pob safbwynt yn ddilys o ran llunio ein hinsoddau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol.

A sign outside the camp

Mae Mollie a Mia bellach yn edrych ar opsiynau ar gyfer eu prosiect terfynol ac yn ystyried stori fer ffuglennol fyddai’n adlewyrchu’r hyn ddysgon nhw o’u taith addysgol. Rhywun a gymerwyd i’r gwersyll gan fod ganddo gefndir Iddewig, er gwaetha’r ffaith ei fod yn ddinesydd yr Almaen.

Hefyd maen nhw’n ystyried poster addysgiadol sy’n addysgu myfyrwyr ac athrawon y coleg am ddigwyddiadau’r Holocost; gan efallai ffocysu ar yr agwedd fwyaf emosiynol cawsant o’r daith, sef y plant. 

Rhannwch yr eitem newyddion hon