Skip page header and navigation
Students standing outside the university's Taliesin Theatre

It was a very insightful day which made me realise the many opportunities available to you when you learn a language.” A-level Student, Eleanor Toft

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr sy’n astudio ieithoedd tramor modern (MFL) ar lefel Uwch Gyfrannol a Safon Uwch wedi cael cipolwg ar ddysgu ieithoedd ar lefel prifysgol a rhagflas o Fandarin.

Gan ymweld â Gŵyl Ieithoedd Prifysgol Abertawe, bu’r grŵp yn cymryd rhan mewn rhaglen lawn dop a gynlluniwyd i lywio, ysgogi ac ehangu uchelgeisiau myfyrwyr. 

Students in a classroom with a screen with Mandarin language

I un fyfyrwraig, dylanwadodd yn ddiau ar ei dewis o ran astudio yn y brifysgol. “Yn wir, gwnaeth yr ymweliad hwn i mi eisiau parhau gyda Ffrangeg yn y brifysgol,” meddai Ffion Williams, 16, sy’n astudio Ffrangeg, hanes a Saesneg ar lefel UG. 

Yn ystod yr ymweliad, bu’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn ragflas mewn Mandarin, cwrdd ag israddedigion cyfredol a chyn-fyfyrwyr i drafod llwybrau a chyfleoedd gyrfaol, a mynychu panel Holi ac Ateb.

Students in a row in a classroom looking relaxed and happy

Tynnodd y panel sylw at bwysigrwydd cynyddol dysgu ieithoedd heddiw, o wella cyflogadwyedd, hybu eich sgiliau cyfathrebu a meithrin dealltwriaeth ddiwylliannol. 

Hefyd fe wnaeth y grŵp elwa ar ddosbarthiadau meistr yn canolbwyntio ar arholiadau, a oedd yn darparu arweiniad ymarferol a strategaethau i gefnogi eu hastudiaethau Safon Uwch Sbaeneg a Ffrangeg.

Meddai Eleanor Toft, dysgwraig Frangeg UG: “Roedd yn ddiwrnod mewnweledol iawn a wnaeth i mi sylweddoli bod llawer o gyfleoedd ar gael i chi pan fyddwch yn dysgu iaith.”

A picture of two overhead screens at the university saying Festival of Languages

Mae Nina Theodoulou-Evans yn ddarlithydd yng Ngholeg Sir Gâr sy’n dysgu Ieithoedd Tramor Modern yn y coleg. Mae hi’n frwdfrydig iawn dros ddangos i fyfyrwyr lle y gall ieithoedd arwain a’u helpu nhw i wneud y dewisiadau cywir ar eu cyfer. “Roedd yr ymweliad yn wirioneddol bleserus ac yn effeithiol iawn ac roedd hi’n wych i fynychu digwyddiad wedi’i drefnu mor dda a oedd wir yn hyrwyddo ieithoedd,” meddai Nina. “Dangosodd iddynt pa mor bwysig yw parhau eu taith dysgu iaith wrth gymryd eu camau nesaf yn y brifysgol.”

Mae Gŵyl Ieithoedd Prifysgol Abertawe yn ddigwyddiad allgymorth blynyddol  a gynlluniwyd i ysbrydoli disgyblion ysgol, gan gynnwys blwyddyn 11, i archwilio ieithoedd y byd, diwylliannau a chyfleoedd astudio yn y dyfodol.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau