Skip page header and navigation
Hannah in front of some greenery wearing a Princeton hoodie

Pa lwybr bynnag a gymeraf, rwy’n gwybod bydd fy amser ym Mhrinceton - yn union fel fy amser yn y coleg - wedi chwarae rôl allweddol wrth siapio’r daith honno.”

Mae myfyrwraig Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr yn paratoi i astudio yn Unol Daleithiau America ar ôl cael ei derbyn i astudio’r celfyddydau breiniol ym Mhrifysgol Princeton.

Mae Hannah Freckleton wedi manteisio’n llawn ar ei phrofiad coleg, gan lwyddo i ennill statws Llywydd Undeb y Myfyrwyr a chynrychioli’r coleg fel llysgennad.

Gwnaeth hi gais i Brifysgol Princeton i astudio’r celfyddydau breiniol ac mae diddordeb ganddi mewn arbenigo mewn seicoleg, polisi cyhoeddus neu gymdeithaseg. Fodd bynnag yr hyn mae hi’n ei werthfawrogi am y rhaglen yw’r ffaith nad oes rhaid iddi ddewis pwnc arbenigol tan ei hail flwyddyn, sy’n rhoi amser iddi archwilio.

Ymgeisiodd hi gyda chefnogaeth ei darlithwyr a thrwy Raglen Fullbright US Ymddiriedolaeth Sutton.

Meddai Hannah Freckleton:  “Mae cwricwlwm y celfyddydau breiniol ym Mhrinceton yn cynnig y rhyddid i archwilio ystod eang o ddisgyblaethau academaidd ac mae’n annog chwilfrydedd deallusol - hyd hyn oed mewn meysydd efallai na fyddwn i wedi’u hystyried o’r blaen. 

“Pan ymwelais i’r haf diwethaf drwy Raglen US Ymddiriedolaeth Sutton, cefais y cyfle i aros ar y campws a chefais fy nharo nid yn unig gan ba mor hardd y mae, ond hefyd gan yr ymdeimlad o gymuned. Mae Princeton yn gwerthfawrogi myfyrwyr am fwy na’u cyflawniadau academaidd yn unig - mae’n lle sy’n cydnabod ac yn cefnogi eich diddordebau angerddol, y pethau rydych yn ymddiddori ynddynt, a phrofiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.”

Mae Hannah yn rhywun sy’n angerddol ynghylch cerddoriaeth ac mae hi’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y bywyd allgyrsiol, ac archwilio cyfleoedd perfformio drwy ensembles a grwpiau cerddorol y campws. “Mae diddordeb mawr gen i hefyd mewn rhedeg grwpiau a bod yn rhan o reolaeth myfyrwyr neu fentrau arweinyddiaeth ar y campws. Mae fy rôl fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg wedi rhoi cipolwg i mi ar yr hyn mae’n ei olygu i gynrychioli a chefnogi eraill, a byddwn i’n llawn cyffro i gyfrannu mewn ffordd debyg ym Mhrinceton. Rwy’n arbennig o gyffrous ynghylch dewis fy nosbarthiadau fy hun ac archwilio pynciau nad wyf wedi’u hastudio o’r blaen,” meddai.

Dywedodd hi hefyd fod yna heriau’n perthyn i’r broses ymgeisio, yn enwedig gan ei bod mor wahanol i system y DU, ond roedd Rhaglen US Ymddiriedolaeth Sutton yn andros o help o ran cynnig cefnogaeth ac arweiniad. “Un o’r gwahaniaethau mwyaf yw pa mor bersonol yw ceisiadau’r UD,” meddai Hannah. “Disgwylir i chi adfyfyrio ar eich hanes, eich gwerthoedd a’ch profiadau - nid eich cyflawniadau academaidd yn unig. Nid yw hynny’n rhywbeth rydyn ni’n ei wneud mewn gwirionedd mewn ceisiadau UCAS felly fe wnaeth fy ngwthio i feddwl yn ddyfnach am bwy ydw i a beth sy’n bwysig i mi, ac fe dyfais i lawer o’r broses honno.”

Cafodd Hannah ei chefnogi i gyrraedd ei huchelgeisiau gan dîm Safon Uwch Coleg Sir Gâr hefyd. “Cefais i gefnogaeth gan y coleg trwy gydol y broses ymgeisio,” meddai Hannah. “Fe wnaeth fy nhiwtor personol yn ystod y flwyddyn gyntaf, Nina Theodoulou, gamu i mewn ac yn wir, aeth hi uwchben a thu hwnt. Cymerodd hi’r amser i ddeall system yr UD gyda fi, a gwnaeth ei hymrwymiad, ei hamynedd, a’i hanogaeth fyd o wahaniaeth - fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud hebddi. Rwy’n hynod o ddiolchgar hefyd i Carley Turner, fy narlithydd seicoleg ac Angharad Mansfield, fy narlithydd cymdeithaseg, a oedd mor garedig ag ysgrifennu fy argymhellion athrawon. O’r eiliad dechreuais i yn y coleg, rwyf wedi teimlo’n gyson fy mod yn cael fy annog a’m cefnogi. Mae eu ffydd ynof i wedi helpu siapio fy llwybr ac wedi rhoi’r hyder i mi i anelu’n uwch na feddyliais i erioed oedd yn bosibl.”

Yn y coleg, astudiodd Hannah Safon Uwch mewn seicoleg, Cymraeg a chymdeithaseg ac mae hi’n aros i gael ei chanlyniadau ym mis Awst. 

Ychwanegodd Hannah Freckleton:  “Rwy’n meddwl bydd fy mhrofiad ym Mhrinceton yn fy helpu i ddatblygu’n bersonol yn ogystal â’n academaidd. Bydd bod yn rhan o’r fath amgylchedd dynamig ac ysbrydoledig yn fy ngwthio i dyfu, camu’r tu allan i’m cylch cysur, ac yn rhoi’r hyder i mi fynd i’r afael â heriau newydd.

“Er nad wyf yn hollol siŵr ble bydda i yn y diwedd, rwy’n ei wynebu gyda meddwl agored ac rwy’n llawn cyffro ynghylch parhau i ddysgu, archwilio diddordebau newydd, a gwneud y mwyaf o bob cyfle. 

“Pa lwybr bynnag a gymeraf, rwy’n gwybod bydd fy amser ym Mhrinceton - yn union fel fy amser yn y coleg - wedi chwarae rôl allweddol wrth siapio’r daith honno.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau