Skip page header and navigation

Exceptional workshop sparks curiosity and creativity, leaving learners eager to apply their newly gained skills.

Gweithdy eithriadol yn tanio chwilfrydedd a chreadigrwydd, gan adael dysgwyr yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau newydd.

Students in the workshop at college listening to the maker talk

Mae Jonathan Garrad o Landeilo yn wneuthurwr ac adferwr dodrefn uchel ei barch. Gyda dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant, mae’r cyn-fyfyriwr o Goleg Dodrefn Llundain wedi gweithio ar amrywiol gomisiynau cleientiaid o San Steffan i’r teledu. Fe wnaeth ei grefftwaith nodedig a’i allu i gyflawni canlyniadau anhygoel o fewn gweithleoedd cynnil gynnig mewnwelediad gwerthfawr i’n myfyrwyr i wirioneddau sefyllfa’r gwneuthurwr proffesiynol. 

Yn ystod yr ymweliad roedd y myfyrwyr yn gallu gweld yn uniongyrchol sut mae gwneuthurwr proffesiynol yn trefnu a chreu mewn gweithdy gweithredol.” Gwnaeth didwylledd a haelioni Jonathan y profiad yn arbennig o werthfawr,” meddai Deborah Elsasser, Darlithydd mewn dylunio dodrefn yng Ngholeg Ceredigion. “Daeth Garrad â dewis o offer llaw traddodiadol er mwyn dangos sut i’w defnyddio ynghyd â chyngor teilwredig i’n dysgwyr Lefel 2 a Lefel 3.” 

Students being shown around the maker's work area

Wedi’u hysbrydoli gan yr ymweliad, roedd myfyrwyr yn awyddus i roi eu gwybodaeth ar waith. Stopiodd y grŵp yn Timber Man i brynu eu nwyddau eu hunain, yn amrywio o bren lleol i bren egsotig ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Aeth rhai hyd yn oed ymhellach - gan chwilio am offer o’r oes a fu o siopau hen bethau lleol i barhau eu dysgu. 

Yn benodol, daeth y myfyriwr Brody o hyd i blaen pren am £2 yn unig, ac aeth ati i’w adfer i gyflwr gweithiol fel y gwelir isod. 

Student at workbench working
Staff outside Timberman store

Rhannwch yr eitem newyddion hon