Skip page header and navigation
Liz standing and leaning on a fence outside with grassland behind her looking at the camera

Mae Liz Bowes, sy’n bennaeth darpariaeth amaethyddol Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn un o 15 o weithwyr proffesiynol amaethyddol i gael eu dewis i gymryd rhan yn Rhaglen Inspire Cynhadledd Ffermio Rhydychen (OFC).

Mae’r rhaglen yn cefnogi gweithwyr proffesiynol bwyd a ffermio i fynychu Cynhadledd Ffermio flynyddol dri-diwrnod Rhydychen a gynhelir yng Ngholeg Christ Church Prifysgol Rhydychen ym mis Ionawr. 

Roedd Liz ymhlith ystod amrywiol o gyfranogwyr yn cynnwys arbenigwr mewn amaethyddiaeth gynaliadwy a diogeledd bwyd ar draws Affrica, ffermwr o Barc Cenedlaethol Eryri a rheolwr materion cyhoeddus yn Ystâd y Goron.

Mae Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a gefnogir gan y Sefydliad Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (TIAH) a chwmni BASF Agricultural Solutions, yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth, rhwydweithiau, hyder a gwybodaeth ac mae’n rhan greiddiol o gylch gwaith elusennol y sefydliad. 

The whole group (15) seated on a stage

Trwy ymwneud â Rhaglen Inspire yr OFC, roeddwn i hefyd yn teimlo’n falch iawn i weld bod campws Gelli Aur yn cael ei gynrychioli ar raddfa’r DU.” Liz Bowes, Pennaeth Amaethyddiaeth.

Mae’n darparu amserlen o weithgareddau ar gyfer cyfranogwyr yn arwain at  Gynhadledd Ffermio Rhydychen sy’n adeiladu gwybodaeth, sgiliau a hyder. 

Roedd y rhaglen yn cynnwys ymweliad â Llysgenhadaeth America i ddysgu am systemau amaethyddol a mewnforio ac allforio UDA a’u dulliau arweinyddiaeth mewn amaethyddiaeth.

Fe wnaeth Jay Bay-Smidt, cynrychiolydd o Lysgenhadaeth Denmarc, sgwrsio â’r grŵp a rhoi trosolwg iddynt ar strategaeth werdd Denmarc yng Nghlwb y Ffermwyr yn Whitehall, Llundain. 

Yn ogystal â bod yn bartner ar fferm laeth deuluol, mae Liz Bowes yn bennaeth cwricwlwm ar gyfer amaethyddiaeth, peirianneg amaethyddol, a garddwriaeth ar gampws amaethyddol y coleg yng Ngelli Aur, sy’n gartref i fyfyrwyr yn ogystal â bod yn fferm weithredol mewn cadwyn gyflenwi llaeth. 

Gwnaeth bod yn rhan o’r rhaglen hefyd ganiatáu i gyfranogwyr ddysgu am yr Adolygiad Proffidioldeb Ffermio 2025 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Farwnes Batters DL, aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ffermwraig a chyn-lywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU)

Meddai Liz Bowes: “Mae bod yn rhan o’r rhaglen hon wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi rwydweithio ar bob lefel, dysgu am ddatblygiadau allweddol mewn amaethyddiaeth a’r diwydiant bwyd, ac mae wedi fy nghyflwyno i gysylltiadau fydd yn helpu ein myfyrwyr i elwa.

“Cewch eich cyflwyno i bobl o bob cwr o’r DU gan gynnwys pobl fel penaethiaid corfforaethol prif archfarchnadoedd a banciau’r DU sy’n allweddol i’n diwydiant.

“Roedd cael cipolwg ar sut y caiff polisi ei ysgrifennu hefyd yn fewnweledol ac roedd dim ond bod o gwmpas y bwrdd gyda chynrychiolwyr sy’n cael effaith ar y diwydiant amaethyddiaeth, yn galonogol.

“Trwy ymwneud â Rhaglen Inspire yr OFC, roeddwn i hefyd yn teimlo’n falch iawn i weld bod campws Gelli Aur yn cael ei gynrychioli ar raddfa’r DU.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau