Lleisiau Hynafol, Ysbrydoliaeth Fodern: Storïwraig yn dod â chwedlau Cymru i Goleg Ceredigion
Cafodd myfyrwyr ar gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion ymweliad oddi wrth storïwraig a wnaeth eu cyflwyno i fytholeg a chwedlau Cymru.
Esboniodd Milly Jackdaw, sy’n storïwraig, awdur a hwylusydd sut y cychwynnodd hi adrodd straeon ar ôl cwblhau ei hyfforddiant actio yng Ngholeg Goldsmiths a Morley yn Llundain ac yna mynd ymlaen i yrfa broffesiynol gyda Chwmni Theatr Purple Broccoli. Wedyn rhoddodd hi berfformiad adrodd straeon o fytholeg a chwedlau Cymru i’r myfyrwyr.
Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno i fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) a myfyrwyr astudiaethau galwedigaethol (lefel un) yn stiwdio’r campws.
Ei nod oedd ennyn cyffro ynghylch y mythau a hefyd am adrodd straeon fel ffurf gelf hygyrch a grymuslon.
Yn ogystal bu’n esbonio pwysigrwydd hanesyddol mytholeg a’i pherthnasedd cyfoes i draddodiad y bardd.
Mae Milly’n rhedeg gweithdai gydag oedolion a phlant mewn caeau, coedwigoedd, gwyliau, theatrau ac ar lannau llynnoedd gwyllt er mwyn creu gwell cysylltiad â’r straeon.
Meddai Louisa Allison-Bergin, tiwtor a chydlynydd rhaglenni ILS yng Ngholeg Ceredigion: “Mae adrodd straeon yn helpu dysgwyr sydd ag anawsterau ac anableddau dysgu drwy wella sgiliau cyfathrebu ac iaith, gwella’r cof a’r amgyffrediad, rhoi hwb i ddatblygiad emosiynol a chymdeithasol a chynyddu ymgysylltiad a chymhelliant.
“Trwy gyflwyno gwybodaeth mewn fformat naratif, mae’n gwneud syniadau cymhleth yn fwy hygyrch a chofiadwy, ac ar yr un pryd darparu ffordd ddiogel i fyfyrwyr brosesu emosiynau a datblygu empathi.
“Roedd yn hyfryd i’r dysgwyr wylio perfformiad gan storïwraig yn y stiwdio yn Aberystwyth a mwynheuon nhw e’n fawr iawn.”