Llwyddiant i fyfyrwyr peirianneg amaethyddol yng Ngwobrau IAgrE


Mae dau fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael eu gwobrwyo gan Sefydliad y Peirianwyr Amaethyddol (IAgrE) am eu sgiliau ym maes peirianneg amaethyddol.
Ymysg enillwyr y gwobrau, a gynhaliwyd yn AGCO yn Kenilworth, oedd Hywel Jones a enillodd y Wobr Diogelwch Myfyrwyr, sy’n cydnabod arloesedd mewn dylunio diogel a Tom Abblit, enillydd y Wobr Prosiect Myfyrwyr.
Mae Tom, 23 oed, yn gweithio ar fferm gymysg fawr sy’n agos at fferm ei deulu lle mae e hefyd yn rhoi help llaw.
Roedd ei ddyluniad a’i wneuthuriad o lanhawr byncer silwair wedi dal sylw’r beirniaid; grŵp o gynrychiolwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Bwriad y cynnyrch yw gwella lles anifeiliaid trwy gadw silwair yn ffres a lleihau’r hen silwair sy’n cronni yng ngwaelod byncer ac sy’n mynd yn hen pan fydd silwair newydd yn cael ei roi ar ei ben, gan gynhyrchu mwy o wastraff a chostau ychwanegol.
Enillodd Hywel Jones y Wobr Diogelwch Myfyrwyr am ei fonitor effeithlonrwydd breciau.
Ac yntau’n 18 oed ac yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Bro Pedr, mae’n gweithio i gwmni T Alun Jones a’i Fab, ac hefyd yn gweithio gyda buches fach o wartheg cig eidion ac yn godro ar fferm gyfagos.
Mae ei fonitor effeithlonrwydd breciau, y mae wedi’i ddylunio a’i gynhyrchu, yn atgoffa’r defnyddiwr i blygio’r breciau i mewn, yn cofnodi effeithlonrwydd y breciau, yn mesur traul ar y breciau ac mae ganddo’r potensial i ddangos golau rhybudd pan nad yw’r breciau wedi’u plygio i mewn.
Meddai Rhys James, darlithydd mewn peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr: “Rydym yn falch iawn o lwyddiant Hywel a Tom yn y gystadleuaeth hon sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
“Mae’n rhaid i bob un o’n myfyrwyr lefel tri ddylunio a chynhyrchu cynnyrch ar gyfer y diwydiant neu welliant i gynnyrch sy’n bodoli eisoes, sydd, yn ein barn ni, yn sgil fuddiol iawn.
“O ganlyniad, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo bob blwyddyn yng ngwobrau IAgrE ac roeddem wrth ein bodd cael bod yno i’w gweld yn casglu eu gwobrau eleni.”
