Llwyddiant Lantra Cymru i fyfyrwyr amaethyddiaeth
Fy nheulu sydd wedi bod yn brif ysbrydoliaeth i mi, yn enwedig fy nhadcu, sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y tyddyn er gwaethaf heriau ac mae eu hymroddiad wedi dysgu gwerth dyfalbarhad a phenderfyniad i mi.” Ellie Pearce-Morgan.
Mae myfyrwraig gradd mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei henwi’n Ddysgwraig y Flwyddyn yng Ngwobrau Lantra Cymru gyda myfyriwr peirianneg yn cael ei gydnabod gyda chymeradwyaeth uchel.
Ellie Pearce-Morgan, 21 oed, o Gŵyr, gipiodd y teitl clodfawr ac fe gafodd ei chyd-fyfyriwr Dafydd Davies, sy’n astudio peirianneg amaethyddol, ei gydnabod gyda chymeradwyaeth uchel ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn Dan 20.
Dafydd Davies Myfyriwr Peirianneg Amaethyddol Canmoliaeth Uchel Dysgwr y Flwyddyn Lantra dan 20 oed
Gwnaeth tyfu i fyny ar fferm fach roi gwerthfawrogiad cynnar i Ellie o’r gwaith caled a’r gwytnwch sydd, meddai, yn sail i amaethyddiaeth yng Nghymru.
Wedi’i hysbrydoli gan ei thadcu, sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y tyddyn, mae hi wedi dysgu i garu’r gymuned sy’n gofalu am y tir a bwydo’r genedl.
Meddai Ellie Pearce-Morgan: “Fy nheulu sydd wedi bod yn brif ysbrydoliaeth i mi, yn enwedig fy nhadcu, sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y tyddyn er gwaethaf heriau ac mae eu hymroddiad wedi dysgu gwerth dyfalbarhad a phenderfyniad i mi.
“Heb anghofio fy nhiwtoriaid a’m mentoriaid yn y coleg sy’n fy annog i archwilio’r tu hwnt i rolau ffermio traddodiadol ac sydd wedi dangos i mi pa mor bwysig yw ymchwil, cyfathrebu ac addysg yn nyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.
A hithau’n ymwybod bob amser efallai na fyddai rôl hirdymor iddi ar fferm y teulu, dywed Ellie bod hyn wedi bod yn her ond hefyd yn gymhelliant.
Mae taith Ellie yn y coleg wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ei bod wedi ennill Gwobr Goffa Walter Rowland UAC, wedi cymryd rhan mewn ymweliad i archwilio amaethyddiaeth yn Seland Newydd, wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobr rhagoriaeth prifysgol ac wedi ennill gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Coleg Sir Gâr ddwywaith. “Nid tan i mi ddechrau’r coleg yng Ngelli Aur gwnes i sylweddoli pa mor flaengar yw’r sector mewn gwirionedd,” meddai Ellie.
Mae fy nhiwtoriaid a’m mentoriaid yn y coleg sy’n fy annog i archwilio’r tu hwnt i rolau ffermio traddodiadol ac sydd wedi dangos i mi pa mor bwysig yw ymchwil, cyfathrebu ac addysg yn nyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru.” Ellie Pearce-Morgan.
Gyda diddordeb brwd mewn stoc o dras gartref, mae’n ymwneud â hwsmonaeth da byw yn ddyddiol, gan gadw cofnodion a chynorthwyo gyda gwaith tymhorol arall megis wyna.
Meddai Elizabeth Bowes, pennaeth amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr a enwebodd Ellie ar gyfer y wobr: “Mae Ellie yn fyfyrwraig eithriadol sy’n ymgorffori dyfodol y diwydiant.
“Mae ei hymrwymiad i ddysgu yn amlwg yn ei llwyddiant academaidd arwyddocaol yn ogystal â dangos ysfa ysbrydoledig i ehangu ei gorwelion, a throi her cyfyngiadau ei fferm deuluol fach yn gyfle ar gyfer twf.
“Mae hi wedi mynd ati’n weithredol i geisio profiad rhyngwladol trwy deithio i Seland Newydd ac mae hi’n cydbwyso ei hastudiaethau â hwsmonaeth da byw ymarferol gartref ac ar leoliadau gwaith.”
Ar gyfer y dyfodol, mae Ellie yn gobeithio dychwelyd i Seland Newydd i ennill mwy o brofiad cyn dilyn gyrfa o fewn y sector amaeth-fusnes neu ymgynghori gyda diddordeb penodol mewn rolau sy’n pontio’r bwlch rhwng ffermwyr a’r gymuned ehangach.
Ychwanegodd Ellie: “Fy nghyrchnod hirdymor yw gweithio mewn rôl sy’n cefnogi arloesedd, cynaladwyedd ac sy’n helpu ffermydd teuluol fel ein fferm ni i barhau i gael dyfodol.
“Gan fod amaethyddiaeth yn esblygu’n gyson, rwy’n ei chael yn hynod o werth chweil i barhau i ddysgu ac addasu. Boed hynny’n golygu deall arferion cynaladwyedd newydd neu weld y theori rwy’n ei dysgu mewn darlithoedd yn dod yn fyw ar y fferm, mae rhywbeth newydd i ddarganfod bob amser.”
Cynhelir gwobrau Lantra Cymru gyda phartneriaid diwydiant i gydnabod cyflawniadau unigolion, myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.