Lowri yn derbyn gwobr aur Dug Caeredin mewn seremoni frenhinol gyda Bethan yn cyflawni ei gwobr arian
“Roedd mynd i Balas Buckingham ar gyfer dathliad gwobr Aur DofE yn brofiad mor syfrdanol ac yn rhywbeth wna i fyth anghofio.” Lowri Bullen
Mae myfyrwraig teithio a thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr wedi derbyn gwobr aur Dug Caeredin (DofE) ym Mhalas Buckingham.
Fe wnaeth Lowri Bullen, sy’n fyfyrwraig ar gampws y coleg yn y Graig, gymryd nifer o heriau fel rhan o’i thaith tuag at y wobr uchaf.
Bydd pawb sy’n ennill gwobr aur yn cael gwahoddiad i fynychu dathliad yn y Palas Brenhinol, lle bydd aelod o’r teulu brenhinol yn bresennol.
Fel rhan o’r wobr aur, gwirfoddolodd Lowri Bullen fel hyfforddwraig bêl-rwyd yng Nghlwb Pêl-rwyd Sospans gyda’r timau Dan10, Dan12, Dan14 a Dan16. Roedd hi’n teimlo, fel model rôl positif, ei bod wedi gwneud gwahaniaeth drwy helpu chwaraewyr ifanc i adeiladu hyder.
Ei moment mwyaf balch oedd gorffen yr alltaith. “Roedden ni wedi padlo’r canŵ am nifer o oriau bob dydd ac roedd hynny’n her, ond gwnaeth cwblhau’r alltaith gyda’n gilydd fel tîm ei wneud i gyd yn werth chweil,” meddai Lowri.
Hefyd ar gyfer ei hadran sgiliau dysgodd hi Sbaeneg sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn, dywedodd. “Mae’n dangos fy mod yn gallu ymrwymo i ddysgu rhywbeth newydd a datblygu sgiliau cyfathrebu, sy’n bwysig, yn enwedig ym maes teithio a thwristiaeth,” meddai.
Y prif sgiliau roedd hi’n teimlo ei bod hi wedi’u hennill oedd gwaith tîm, cyfathrebu, rheoli amser, ac arweinyddiaeth.
Meddai Lowri Bullen: “Mae’r gwytnwch a adeiladais i yn ystod fy alltaith DofE wedi fy helpu i’n wirioneddol gyda fy ngwaith coleg, yn enwedig pan rwy’n teimlo dan bwysau gydag aseiniadau neu derfynau amser.
“Rwy’n well o ran cadw’n ddigynnwrf a gwthio fy ffordd drwy heriau yn lle rhoi’r gorau iddi, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i sut rwy’n rheoli fy llwyth gwaith.
“Roedd mynd i Balas Buckingham ar gyfer dathliad gwobr Aur DofE yn brofiad mor syfrdanol ac yn rhywbeth wna i fyth anghofio.
“Roedd yn teimlo’n sbesial iawn i gael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled, yn enwedig ar ôl yr holl amser ac ymdrech sydd angen i gwblhau gwobr Aur DofE.
“Roedd bod yno gyda chymaint o bobl a oedd wedi’i chyflawni hefyd yn gwneud i mi deimlo’n hynod o falch, ac roedd y diwrnod cyfan yn brofiad swrrealaidd iawn a dweud y gwir.
“Bydd y profiadau hyn yn fy helpu i pan fyddaf yn gwneud cais ar gyfer y brifysgol neu swyddi. Maen nhw’n dangos fy mod yn gallu bod yn gyfrifol, ymrwymedig, gweithio’n dda gydag eraill a fy mod yn barod i gamu’r tu hwnt i’m cylch cysur a herio fy hun.”
Roedd y dathliadau brenhinol yn nodi llwyddiant gwobr DofE arall yn y coleg, pan enillodd y fyfyrwraig peintio ac addurno Bethan Morgan ei gwobr arian glodfawr.