Mae cyfradd pasio Lefel A o 100% yn amlygu cyflawniad rhagorol yng Ngholeg Sir Gâr.
Mae Coleg Sir Gâr yn falch o ddathlu cyflawniadau rhagorol ei ddysgwyr yn arholiadau Safon Uwch eleni, gan atgyfnerthu cenhadaeth y coleg i lunio bywydau, cryfhau cymunedau a ffynnu gyda’n gilydd.
Yn gyffredinol, cyflawnodd 24% raddau A* i A, cyflawnodd 83% o ddysgwyr raddau A*-C a chyflawnodd 100% raddau A*-E.
Mae perfformiad nodedig mewn pynciau yn cynnwys celf a dylunio, bioleg, technoleg ddigidol, Ffrangeg, hanes, mathemateg, mathemateg bellach a chymdeithaseg.
Y llun uchod: Derbyniodd Macey Holden radd A* mewn Astudiaethau Crefyddol, gradd A mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gradd A mewn Llenyddiaeth Saesneg a gradd A yn y Fagloriaeth Gymreig. Mae hi’n mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Llenyddiaeth Saesneg.
Mae canlyniadau eleni yn dyst i dalent ac ymroddiad ein dysgwyr, ac arbenigedd ein staff, gyda chyfradd pasio o 100% ar lefel Safon Uwch.
Dywedodd Angharad Mansfield, Pennaeth Safon Uwch a Dysgu Gydol Oes yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r cyflawniadau hyn yn mynd y tu hwnt i raddau; maent yn cynrychioli pobl ifanc sydd â’r gallu i ffynnu yn eu camau nesaf, boed hynny mewn addysg uwch, prentisiaethau neu fyd gwaith.”
Yn ogystal â chyflawniadau Safon Uwch, mae’r coleg yr un mor falch o ganlyniadau rhagorol dysgwyr galwedigaethol, y mae eu sgiliau, eu creadigrwydd a’u hymroddiad yn hanfodol i ddyfodol cymunedau a diwydiannau.
Llun uchod: Llwyddodd Katy Hamilton i gael gradd A* mewn Mathemateg Bellach, gradd A mewn Daearyddiaeth, gradd A* mewn Cemeg a gradd B yn y Bagalariaeth Gymreig.
O beirianneg ac adeiladu i iechyd a’r celfyddydau creadigol, mae’r dysgwyr hyn yn gadael y coleg gyda’r cymwysterau, y profiad proffesiynol a’r hyder i gael effaith uniongyrchol yn y gweithle neu i symud ymlaen i addysg uwch.
Dywedodd Kirsti Lord, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Sir Gâr: “Mae cyflawniadau ein dysgwyr yn arwydd clir bod ein gweledigaeth strategol yn gweithio’n ymarferol. Byddwn yn parhau i arloesi, buddsoddi yn ein cymunedau a darparu amgylchedd dysgu lle gall pob unigolyn ffynnu.”
Mae’r coleg yn dymuno llongyfarch ei holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau a diolch i’r staff a’r teuluoedd am eu cefnogaeth wrth eu helpu i gyrraedd y cerrig milltir hyn.
Unwaith eto, mae dysgwyr wedi dangos ymroddiad, gwydnwch ac uchelgais, gyda chanlyniadau sy’n adlewyrchu eu gwaith caled a chefnogaeth ddi-ildio staff addysgu a chymorth eithriadol.
Dywedodd Angharad Mansfield, Pennaeth Safon Uwch a Dysgu Gydol Oes: “Mae canlyniadau eleni yn dyst i dalent ac ymroddiad ein dysgwyr, ac arbenigedd ein staff.
“Mae’r cyflawniadau hyn yn mynd y tu hwnt i raddau – maent yn cynrychioli pobl ifanc sydd â’r gallu i ffynnu yn eu camau nesaf, boed hynny mewn addysg uwch, prentisiaethau neu fyd gwaith.” Mae cyflawniadau Lefel A dysgwyr Coleg Sir Gâr yn cyfrannu’n uniongyrchol at ffyniant economaidd a chymdeithasol y rhanbarth.
Bydd llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion blaenllaw ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, tra bydd eraill yn ymgymryd â rolau allweddol mewn diwydiannau sy’n hanfodol i’r economi leol.
Fel sefydliad angori, mae’r coleg wedi ymrwymo i feithrin talent sydd o fudd i Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.