Mandy yn goresgyn heriau iechyd mawr i ennill gwobr

Ni allai arwyddair Mandy Price, y fyfyrwraig aeddfed, “Rise up and turn up” fod yn fwy addas. Er gwaethaf heriau iechyd personol a theuluol anferth, gan gynnwys treulio pum wythnos yn yr ysbyty ar ôl clwstwr o ffitiau epileptig, mae’n gwrthod gadael i’r cyflwr ei diffinio.
Y diwrnod ar ôl cael ei thynnu oddi ar beiriant anadlu ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty am y tro cyntaf, eisteddai yn yr uned gofal dwys yn cwblhau cyflwyniad at ei Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Lles ac Ymddygiad Anifeiliaid. Ddau ddiwrnod ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty, roedd yn ôl yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin!
Yn ychwanegol at gael diagnosis o epilepsi a chyflyrau meddygol eraill, mae Mandy, sy’n 49 oed, yn gofalu am ei phartner a’i mab, sydd ag anghenion cymhleth.
Ac eto rhywsut mae’n dal i ganfod amser i astudio a chefnogi plant fel gwirfoddolwr darllen Burns by Your Side gyda’r ci cefnogi dysgu, Daisy.
I gydnabod ei thaith, mae Mandy wedi ennill y Wobr Dysgu i Wella Iechyd yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni fydd yn cael eu cyflwyno yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 18 Medi. Mae’n un o blith 11 o enillwyr gwobrau.
Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru - https://adultlearnersweek.wales/?lang=cy - sy’n rhedeg o 15-21 Medi mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio stopio dysgu. Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.
Roedd Mandy yn yr ysbyty am y trydydd tro wedi iddi ddychwelyd o wlad Groeg, lle’r oedd hi yn gweithio ar Brosiect Ymchwil Cadwraeth Crwbanod Môr Pendew. Mae’r daith i wella wedi bod yn anodd, gan ei gorfodi i adael cwblhau ei gradd hyd y flwyddyn academaidd nesaf.
“Rwyf wedi bod yn dyst fy hun o sut mae addysg wedi bod yn rym trawsnewidiol ym mywyd Mandy - yn ffynhonnell grym, gan ei galluogi i harneisio ei chryfderau a sianelu ei hangerdd yn ymdrechion ystyrlon,” dywedodd y ddarlithwraig Stephanie Rees, darlithydd a’r enwebydd am Wobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli!.
Datblygodd diddordeb Mandy, sy’n byw yng Nghaerfyrddin, mewn astudiaethau yn gysylltiedig ag anifeiliaid ar Ni allai arwyddair Mandy Price, y fyfyrwraig aeddfed, “Rise up and turn up” fod yn fwy addas.
Er gwaethaf heriau iechyd personol a theuluol anferth, gan gynnwys treulio pum wythnos yn yr ysbyty ar ôl clwstwr o ffitiau epileptig, mae’n gwrthod gadael i’r cyflwr ei diffinio.
Y diwrnod ar ôl cael ei thynnu oddi ar beiriant anadlu ar ôl cael ei derbyn i’r ysbyty am y tro cyntaf, eisteddai yn yr uned gofal dwys yn cwblhau cyflwyniad at ei Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth mewn Lles ac Ymddygiad Anifeiliaid. Ddau ddiwrnod ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty, roedd yn ôl yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin!
Yn ychwanegol at gael diagnosis o epilepsi a chyflyrau meddygol eraill, mae Mandy, sy’n 49 oed, yn gofalu am ei phartner a’i mab, sydd ag anghenion cymhleth.
Ac eto rhywsut mae’n dal i ganfod amser i astudio a chefnogi plant fel gwirfoddolwr darllen Burns by Your Side gyda’r ci cefnogi dysgu, Daisy.
I gydnabod ei thaith, mae Mandy wedi ennill y Wobr Dysgu i Wella Iechyd yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni fydd yn cael eu cyflwyno yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 18 Medi. Mae’n un o blith 11 o enillwyr gwobrau.
Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru - https://adultlearnersweek.wales/?lang=cy - sy’n rhedeg o 15-21 Medi mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio stopio dysgu. Mae’r gwobrau yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.
Roedd Mandy yn yr ysbyty am y trydydd tro wedi iddi ddychwelyd o wlad Groeg, lle’r oedd hi yn gweithio ar Brosiect Ymchwil Cadwraeth Crwbanod Môr Pendew. Mae’r daith i wella wedi bod yn anodd, gan ei gorfodi i adael cwblhau ei gradd hyd y flwyddyn academaidd nesaf.
“Rwyf wedi bod yn dyst fy hun o sut mae addysg wedi bod yn rym trawsnewidiol ym mywyd Mandy - yn ffynhonnell grym, gan ei galluogi i harneisio ei chryfderau a sianelu ei hangerdd yn ymdrechion ystyrlon,” dywedodd y ddarlithwraig Stephanie Rees, darlithydd a’r enwebydd am Wobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli!.
Datblygodd diddordeb Mandy, sy’n byw yng Nghaerfyrddin, mewn astudiaethau yn gysylltiedig ag anifeiliaid ar ôl ymuno â grŵp cefnogi a dod yn wirfoddolwr yn Many Tears Animal Rescue, lle’r oedd rheolwr yr iard geffylau, Katy Wear yn allweddol yn ei grymuso.
Er gwaethaf amau ei gallu academig ei hun, fe gyflawnodd Radd Sylfaenol mewn Gwyddor Anifeiliaid ac mae wedi symud ymlaen i BSc erbyn hyn, gyda chymorth darlithwyr cefnogol.
“Rwy’n benderfynol na fydd fy epilepsi yn fy niffinio,” ychwanegodd Mandy. “Heb y cwrs gradd, nid wyf yn gwybod ar ba lwybr y byddai fy iechyd meddwl a chorfforol.”
Mae’n bwriadu parhau ei hastudiaethau, gan gynnwys Gradd Meistr mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a hyfforddiant ychwanegol i gyflawni cyrsiau cymorth cyntaf anifeiliaid anwes gyda’r nod o gael swydd.
Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu yn y cnawd a sesiynau ar-lein yn cael eu rhedeg trwy fis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i droi at ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, cynyddu sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywydau.
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cabinet Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: “Mae dysgu yn daith gydol oes sy’n cyfoethogi pob rhan o bwy ydym ni. Os ydym yn dysgu sgil newydd ar gyfer ein gyrfa, ein hiechyd, neu dim ond am hwyl, mae pob cam y byddwn yn ei gymryd wrth ddysgu yn rhoi hwb i’n hyder a’n hymdeimlad o ddiben.
“Mewn byd sy’n esblygu’n gyflym, mae’n hanfodol cefnogi a dathlu’r oedolion yng Nghymru sy’n mynd ati i ddysgu ar gyfnodau gwahanol yn eu bywydau. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu sgiliau newydd nid yn unig yn trawsnewid eu bywydau eu hunain ond hefyd yn helpu i lunio dyfodol mwy gwydn a haws ei addasu i’n cymunedau.”
Diwedd
Capsiwn llun: Mandy Price - yn goresgyn heriau iechyd i barhau i ddysgu.
Crëwyd y stori hon gan Duncan Foulkes PR ar ran Datblygu a Pholisi yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer Wythnos Dysgwyr Oedolion.
Nodiadau i olygyddion:
Trefnir Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ac maent yn cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Agored Cymru, Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Genedlaethol, Dysgu Oedolion Cymru, AIM Qualifications and Assessment Group, ac ACT.
Ariennir Cymru’n Gweithio, sy’n cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru, gan Lywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd am ddim a diduedd i helpu oedolion ar draws Cymru i gael swydd, uwchsgilio trwy gyrsiau a hyfforddiant ac i ddod o hyd i gefnogaeth a chyfleoedd ariannu sy’n benodol i amgylchiadau unigolyn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar rif ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu Kay Smith, Pennaeth Ymgyrchoedd, Datblygu a Pholisi yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar rif ffôn: 02920370900 neu 07880 724053.
