Skip page header and navigation
Three students in a row with their work displayed on a wall behind them

“Rise Up at has given me the opportunity to engage with various techniques, cultures and people. Tŷ Celf artists have taught us these skills in a constructive and exhilarating way.  This experience also gave us the opportunity to make lots of social connections with other emerging artists from all ages and backgrounds.” Maya Martin, Art & Design student

Two students holding up work and looking at the camera with their work on the wall behind them

Mae myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Gâr wedi cymryd rhan mewn arddangosfa i ddangos y gwaith a gynhyrchwyd yn ystod prosiect celfyddydau cymunedol 10 wythnos o’r enw Rise Up yn Y Tŷ Celf.  

Prosiect creadigol yw Rise Up a ariennir gan Y Tŷ Celf. Mae wedi’i anelu at fyfyrwyr celf chweched dosbarth lleol yn Llanelli. 

Mae’r Tŷ Celf yn frwd dros ddarparu cyfleoedd i artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg gael fynd ati i archwilio technegau a sgiliau newydd a gweithio gydag artistiaid lleol. 

A page in a sketch book which has lots of hand drawn insects and a bee and a spider and millipede. It's all in black and white

Mae’r prosiect hwn wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr Safon Uwch a BTEC i ‘Godi /Rise Up’ a gwella eu portffolios celf er mwyn paratoi ar gyfer arholiadau a/neu addysg uwch. 

Rhoddodd y prosiect gyfle i fyfyrwyr weithio gyda 10 artist gwahanol a oedd yn cyflwyno technegau na fyddent efallai wedi’u profi yn yr ysgol neu’r coleg, tra hefyd yn creu cysylltiadau â myfyrwyr celf eraill o wahanol ysgolion a cholegau. 

Oriel a gofod gweithdy yw’r Tŷ Celf sydd wedi’i leoli yn Llanelli. Ei nod yw rhoi celf wrth wraidd y gymuned, tra’n cefnogi 10 artist llawrydd, gyda chefnogaeth yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid eraill, a darparu ystod eang o weithdai creadigol i weddu at bob gallu.

Cafodd myfyrwyr o wahanol sefydliadau addysg wahoddiad gan Y Tŷ Celf i greu cysylltiadau cymdeithasol newydd, rhannu profiadau ac ehangu eu profiad artistig. 

A picture of a print in a book, black background, white outline of a sun graphic

At ei gilydd, bu 12 o fyfyrwyr o Goleg Sir Gâr, Ysgol y Strade ac Ysgol Mihangel Sant yn manteisio’n llawn ar y rhaglen hon. 

Roedd y sesiynau’n cynnwys printio leino, cyflwyniad i gelf haniaethol, peintio gyda chwyr oer ac olew, paratoi papur gan ddefnyddio marmori, stribedi comic, addurniadau corff 3D a phortreadu. 

Bu myfyrwyr celf a dylunio Safon Uwch o gampws y Graig y coleg yn cymryd rhan yn ogystal â myfyrwyr diploma celf a dylunio, sydd wedi’u lleoli ar gampws Pibwrlwyd.

Roedd y cyfarwyddwyr Karen Thomas a Karen Fitzpatrick o’r Tŷ Celf, a oedd yn gyfrifol am drefnu, ariannu a chyflwyno’r prosiect, yn bresennol yn yr arddangosfa o waith terfynol, lle anogwyd myfyrwyr i rannu’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w gwaith celf gyda’u gwesteion ac aelodau’r cyhoedd. 

Dywedodd y cyfarwyddwr Karen Thomas:  “Mae’r Tŷ Celf yn falch iawn o fod wedi cychwyn y prosiect hwn ar gyfer ein hartistiaid ifanc lleol yn Llanelli ac rydym wrth ein bodd â lefel y cyfranogiad, yr ymrwymiad a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan bawb a fynychodd. Gobeithiwn yn fawr fod yr artistiaid ifanc hyn wedi ennill sgiliau newydd, wedi ffurfio cyfeillgarwch newydd a magu hyder yn eu galluoedd i symud ymlaen yn eu hastudiaethau.”

Ty Celf logo next to Rise up logo Ty celf is a blue square with a white house outline and Rise Up are just the words in orange

Mae Catrin Robertson a Maya Martin yn astudio diploma estynedig lefel tri llawn amser mewn celf a dylunio.  Maen nhw hefyd wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn digwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn ffotograffiaeth.

Dywedodd Maya Martin:  “Fy mhrofiad cyntaf gyda’r Tŷ Celf oedd y rhaglen ‘Rise Up’, mae wedi bod yn brofiad pleserus a boddhaol iawn. 

“Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r cyfle i mi ymgysylltu â gwahanol dechnegau, diwylliannau a phobl.   Mae artistiaid y Tŷ Celf wedi dysgu’r sgiliau hyn i ni mewn ffordd adeiladol a chyffrous.    Rhoddodd y profiad hwn gyfle i ni hefyd ffurfio llawer o gysylltiadau cymdeithasol ag artistiaid eraill sy’n dod i’r amlwg o bob oed a chefndir.”

Ychwanegodd Catrin Robertson:  “I mi, mae’r cwrs hwn wedi bod yn fuddiol, yn foddhaol ac yn gofiadwy. 

“Yn ystod y misoedd diwethaf, dw i wedi dysgu llawer o sgiliau a thechnegau newydd gan artistiaid y Tŷ Celf.  Dw i wedi bod yn mynd i’r Tŷ Celf ers blynyddoedd lawer, a dw i bob amser yn cael amser anhygoel a rhagorol.” 

Dywedodd y myfyriwr celf a dylunio Safon Uwch Dannie Hatch:  “Mae’r Tŷ Celf wedi fy nysgu sut i gael adborth gan fy nghyfoedion a sut i elwa o ddysgu technegau newydd.  Drwy ddysgu sgiliau newydd fel marmori a chyfansoddi, mae wedi fy helpu i fynd â fy ngwaith Safon Uwch i lefel uwch.”

Ychwanegodd y fyfyrwraig Safon Uwch Seren Wood Saunders:  “Fe wnes i fwynhau’r sesiynau yn y Tŷ Celf yn fawr iawn.   Mae wedi dysgu sgiliau a thechnegau i mi nad ydw i erioed wedi rhoi cynnig arnyn nhw o’r blaen, y gallaf nawr eu defnyddio yn fy ngwaith cwrs Safon Uwch.  Dw i bellach wedi ymgorffori cynnwys y rhan fwyaf o’r gweithdai a wnes i yno yn fy ngwaith cwrs. Roedd gweithio gydag artistiaid proffesiynol a myfyrwyr eraill yn brofiad llawn hwyl, defnyddiol, byddwn i 100% yn ei wneud eto.

Rhannwch yr eitem newyddion hon