Myfyriwr o Goleg Ceredigion yn ennill Ysgoloriaeth ar gyfer Hyfforddiant Coginiol

Mae myfyriwr arlwyo yn ei ail flwyddyn yng Ngholeg Ceredigion yn Aberteifi wedi ennill Ysgoloriaeth Deithio gan ‘Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru’ (‘The Worshipful Livery Company of Wales’).
Bydd Charles Watson, myfyriwr Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, yn defnyddio ei wobr i ariannu dau gwrs arbenigol byr. Y cyntaf fydd cwrs paratoi cig gyda Dewi James a’i Fab, Cigyddion, Aberteifi ac yna’r ail, yn mynychu cwrs gyda Chwmni Pysgod Abertawe i ddatblygu ei sgiliau paratoi pysgod.
Bydd y ddau gwrs yn datblygu ei wybodaeth a’i sgiliau wrth baratoi bwyd arbenigol, meddai Charles: “Diolch i’r wobr hon gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru, mae gen i gyfle nawr i deithio i’r ddau le hyn ar gyfer yr hyfforddiant arlwyo arbenigol hwn. Rwy’n siŵr bydd mynychu’r ddau gwrs yn fy helpu i’n fawr iawn i ddatblygu fy ngyrfa.”
Uchelgais yrfaol Charles yw bod yn berchen ar ei fwyty ei hun o’r enw 7 Nations, a fyddai’n cynnwys bwydlenni blasu o amrywiol ddiwylliannau o bob cwr o’r byd. I ddechrau mae’n gobeithio bod yn berchen ar wagen fwyd ac yna ehangu i fwyty, yn ddelfrydol mewn canolfan o bwys yng Nghymru.
Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn 1993 ac un o’i nodau yw “hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau yng Nghymru”. Mae’n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau drwy gyfrwng rhaglen wobrwyo flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal ag i brentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Meddai llefarydd ar gyfer Y Cwmni: “Un o nodau’r cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i symud ymlaen gyda phrosiect penodol. Rydym yn codi arian trwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol a hefyd trwy gysylltu, nid yn unig â’n haelodau am gefnogaeth ariannol, ond hefyd at y gymuned ehangach yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu cefnogi Charles wrth iddo symud ymlaen â’i astudiaethau fel hyn.”