Myfyriwr peirianneg amaethyddol yn derbyn Gwobr Prosiect Myfyriwr Sefydliad y Peirianwyr Amaethyddol (IAgrE)
“Gwnaeth y myfyrwyr eu gorau glas gyda’r prosiect hwn ac edrychwn ymlaen at weld eu dyluniadau a’u cefnogi nhw drwy’r broses. Mae eu llwyddiant parhaus yn y gwobrau IAgrE dros gymaint o flynyddoedd, yn ein gwneud ni’n falch iawn.” Rhys James, Darlithydd.
Mae myfyriwr peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr sydd bellach yn gweithio’n llawn amser i gwmni Gwili Jones, gwerthwyr tractorau a pheiriannau fferm, wedi ennill Gwobr fawreddog Prosiect Myfyriwr IAgrE.
Mae Kien Evans, sy’n 18 oed, yn astudio diploma estynedig mewn technoleg ar dir ar gampws Gelli Aur y coleg ac mae’n byw ar dyddyn yng Nghilcennin, Ceredigion.
Cyflwynwyd y wobr iddo gan Kit Franklin, llywydd IAgrE.
Caiff y Wobr Prosiect Myfyriwr ei rhoi i fyfyrwyr y prosiect blwyddyn olaf gorau, a gyflwynir fel rhan o gwrs peirianneg ar dir achrededig.
Gofynnir iddynt feddwl am bedwar dyluniad naill ai ar gyfer cynnyrch amaethyddol newydd neu am addasu cynnyrch sydd eisoes yn bod. Yna gofynnir iddynt i weithgynhyrchu eu dyluniad dewisol.
Fe wnaeth Kien, sydd hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Mydroilyn, ddylunio a gweithgynhyrchu pen byw newid ochr, gyda ram wedi’i ffitio ar y naill ochr a’r llall sy’n galluogi’r pen byw i lithro.
Ar gampws Gelli Aur, mae’r prosiect hwn yn werthfawr iawn i staff - a chaiff myfyrwyr y dasg o gyflwyno eu casgliadau yn ffurfiol, sy’n cynnwys costio, iechyd a diogelwch ac ymchwil. Yna gofynnir iddynt arddangos y cynnyrch a weithgynhyrchwyd ganddynt.
Dywedodd Sefydliad y Peirianwyr Amaethyddol (IAgrE) wrth y coleg fod safon y ceisiadau wedi gwneud argraff dda ar y beirniaid, yn enwedig y ceisiadau oddi wrth Goleg Sir Gâr a chais buddugol Kien a oedd, medden nhw, ‘wedi’i ddylunio’n dda’ ac yn arddangos ‘sgiliau gweithgynhyrchu da’.
Meddai Rhys James, darlithydd mewn peirianneg amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr: “Llongyfarchiadau haeddiannol i Kien oddi wrth bob un ohonom.
“Gwnaeth y myfyrwyr eu gorau glas gyda’r prosiect hwn ac edrychwn ymlaen at weld eu dyluniadau a’u cefnogi nhw drwy’r broses.
“Mae eu llwyddiant parhaus yn y gwobrau IAgrE dros gymaint o flynyddoedd, yn ein gwneud ni’n falch iawn.”
Cynhaliwyd y gwobrau ym Mhrifysgol Amaethyddol Frenhinol Cirencester, ym mis Ebrill eleni, ac enillodd Kien y wobr am ei waith a gwblhawyd yn y coleg yn 2025.