Myfyrwraig arlwyo yn Cicfocsio ei ffordd i gystadleuaeth ryngwladol
Mae Erin Holdstock, myfyrwraig o Goleg Sir Gâr, yn cymryd rhan mewn treialon ar gyfer Tîm Celfyddydau Ymladd Prydain Fawr GBMAT yn Niwrnod Dewis Athletwyr ar ôl derbyn lle ar y podiwm yn y Bencampwriaeth Agored Cymru ar gyfer Cicfocsio Tsieineaidd.
I ddechrau enillodd Erin wobr arian mewn cystadleuaeth Agored Cymru lle sylwyd ar ei sgiliau cicfocsio Tsieineaidd, er gwaetha’r ffaith mai dim ond flwyddyn yn ôl dechreuodd hi ymhel â’r gamp.
Pan nad yw’n ymarfer neu’n cystadlu, gellir gweld Erin wrthi’n datblygu ei sgiliau arlwyo a lletygarwch yng Nghegin Sir Gâr, bwyty hyfforddi’r coleg ar gampws Pibwrlwyd.
Meddai Erin Holdstock, cyn-ddisgybl Ysgol Bro Pedr: “Cefais fy synnu pan ofynnwyd i mi, doeddwn i ddim hyd yn oed wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth. Ond ers dechrau cicfocsio, mae wedi rhoi sicrwydd i mi oherwydd roeddwn i’n gwybod pe bawn i mewn perygl, y byddwn i’n fwy parod.
“Hefyd mae’n fy nghadw i’n actif ac mae’n dda i fy iechyd meddwl a’m lles.”
Mae’r ferch 17 oed sy’n meddu ar wregys glas yn ymarfer gyda Dan Cook, hyfforddwr tîm GB, yng nghlwb Cicfocsio ZDL Cymru yn Llambed, lle y mae hi’n byw.
Mae hi’n llwyddo i gydbwyso ei chwrs gyda’i champ ac mae’n dweud ei bod yn teimlo’n rhan o gymuned goginiol y coleg. “Rwyf wrth fy modd,” meddai. “Rydyn ni fel cymuned sy’n gweithio’n wirioneddol dda gyda’n gilydd ac mae’r tiwtoriaid mor gefnogol. Doeddwn i ddim yn siŵr p’un a i astudio seicoleg ar y dechrau ond rydw i’n hoffi coginio’n fawr iawn ond wnes i fyth o’r blaen ei ystyried fel gyrfa a dod yn ben-cogydd.”