Myfyrwraig yng Ngholeg Ceredigion yn ennill teitl Pen-cogydd Iau Cymru 2026
“Roedd lefel y gwaith caled a wnaed gan Caitlin bob dydd yn eithriadol. Yn aml byddai’n treulio tair i bedair awr y dydd yn coginio, blasu, gwerthuso a mireinio ei seigiau er mwyn sicrhau ei bod yn perfformio ar ei gorau.” James Ward, Darlithydd Coginio a Lletygarwch Proffesiynol Coleg Ceredigion.
Mae Caitlin Meredith, myfyrwraig coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion, wedi ennill teitl clodfawr Pen-cogydd Iau Cymru 2026 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru yng Nghasnewydd.
O ganlyniad i’w llwyddiant, bydd Caitlin yn cystadlu’n awtomatig yn rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Pen-cogydd Cenedlaethol Ifanc y Flwyddyn y DU.
Hefyd mae hi’n derbyn pecyn wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer y Rhaglen Pen-cogyddion Ifanc yng Nghyngres ac Arddangosfa Worldchefs (Worldchefs Congress & Expo) a gynhelir yn yr ICC y flwyddyn nesaf, gwerth £150 o gynnyrch oddi wrth gwmni DPS Tableware a set o gyllyll pen-cogyddion wedi’u hysgythru oddi wrth gwmni Friedr Dick.
Cafodd y pedwar ymgeisydd y dasg o ddyfeisio cinio tri-chwrs ar gyfer pedwar o bobl gan ddefnyddio o leiaf wyth cynnyrch Cymreig o bwysigrwydd daearyddol.
Fe wnaeth Caitlin, sy’n astudio ar gampws Aberystwyth y coleg, ddyfeisio cwrs cyntaf o basta Cappelletti wedi’i stwffio â chorgimwch Dyfi gyda dil, ricotta a bara lawr wedi’i weini â jus pen corgimwch, olew shibwns, piwrî sialóts rhost a ham creisionllyd Sir Gaerfyrddin.
Ar gyfer y prif gwrs, coginiodd hi ffiled o gig eidion Cymru wedi’i ffrio yn y badell, confit cennin a phiwrî pannas, ffa gwyrdd wedi’u rhostio gyda Mêl Grug Cymru, tatws dauphinois gyda Chaws Caerffili, elwlod cig eidion a winwns bach wedi’u brwysio.
Roedd ei phwdin yn cynnwys bara brith taffi gludiog gyda hufen iâ afal wedi’i garameleiddio, tuille cnau cyll hallt a ganache chwip siocled gwyn.
Mae’r ferch 19 oed yn gweithio’n rhan-amser i Gareth Ward pen-cogydd a pherchennog Bwyty dwy seren Michelin ac Ystafelloedd Ynyshir ger Machynlleth.
Meddai Caitlin Meredith: “Roeddwn i mor hapus, gwnes i lawer o waith ac roedd yr wythnosau’n arwain i fyny at hyn yn llawn straen. Felly roedd hi’n wirioneddol braf i gael rhywfaint o gydnabyddiaeth ac rwy’n falch iawn ohonof i fy hun.
“Ces i lawer o help yn y coleg ond fi wnaeth feddwl am y fwydlen. Gwnes i lawer o waith at hyn gartref wythnosau ymlaen llaw.
Yn ogystal mae Caitlin yng Ngharfan WorldSkills UK ac yn gobeithio cystadlu yng Nghystadleuaeth WorldSkills Shanghai gyda chefnogaeth ei thiwtor James Ward a’i chyflogwr yn Ynyshir.
Meddai James Ward, darlithydd mewn coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion: “Rydyn ni’n hynod o falch o Caitlin yma yn y coleg.
“Wrth iddi ddod at ddiwedd ei thrydedd flwyddyn mewn arlwyo a lletygarwch, mae hi wedi dangos ymrwymiad, creadigrwydd a phroffesiynoldeb neilltuol o’r cychwyn cyntaf.
“Mae ennill y gystadleuaeth hon yn erbyn rhai o’r pen-cogyddion iau gorau yng Nghymru dan 25 oed yn gyflawniad nodedig rhaid tynnu sylw ato.
“Roedd lefel y gwaith caled a wnaed gan Caitlin bob dydd yn eithriadol. Yn aml byddai’n treulio tair i bedair awr y dydd yn coginio, blasu, gwerthuso a mireinio ei seigiau er mwyn sicrhau ei bod yn perfformio ar ei gorau.
“Yn wir, gwnaeth ei hymroddiad dalu ar ei ganfed. Ni fyddai dyfnder a chydbwysedd blas ei seigiau allan o le mewn bwyty o’r radd flaenaf.
“Mae hi wedi datblygu i fod yn ben-cogydd ifanc ardderchog gyda syniadau uchelgeisiol, ac mae’n wirioneddol gyffrous i weld beth a ddaw iddi yn y dyfodol. Dymunaf bob llwyddiant iddi wrth iddi symud ymlaen.”
Roedd ymgeiswyr yn gallu recriwtio dirprwy gogydd i’w helpu i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ac aeth Caitlin â’i chyd-fyfyrwraig Freya Inman (yn y llun) gyda hi i rannu’r profiad.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth gan Gymdeithas Goginiol Cymru.
Credyd Llun: Cymdeithas Goginio Cymru