Skip page header and navigation
A student painting on an easel it's a face of a woman with a big window behind them

“Rydyn ni’n ymrwymedig i roi cyfleoedd bywyd go iawn i ddysgwyr lle mae rhaid iddynt ymateb i friff penodol a chynhyrchu gwaith i safon broffesiynol.” Jess Baudey, Darlithydd Celf a Dylunio Coleg Ceredigion

Bydd myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Ceredigion yn mynd â’u gwaith i ganol y gymuned fel artistiaid cyfrannog swyddogol yn yr ŵyl tymor y gaeaf Heddwch a Chariad yn Aberystwyth.

Heddwch a Chariad yw’r thema sy’n clymu ynghyd cyfres o ddigwyddiadau ac ymyriadau celf dros dymor y gaeaf yn Aberystwyth. Dyma’r ail flwyddyn i fyfyrwyr fod yn rhan o ddigwyddiad celfyddydol yn y dref gyfan.

Gan ddathlu celfyddydau, heddwch a chariad, maen nhw’n lansio cyfres o arddangosfeydd gwib mewn siopau ac yn y gymuned.

A student painting on an easel using bold orange colour

Mae’n hanfodol bwysig i roi’r profiad i fyfyrwyr o weithio ar friffiau byw ac wrth symud y tu hwnt i stiwdios y coleg ac arddangos mewn lleoedd cyhoeddus, maen nhw’n ennill sgiliau hanfodol mewn curadu, ymarfer proffesiynol, ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Bydd myfyrwyr y flwyddyn olaf yn arddangos eu gwaith mewn amrywiol leoliadau ar draws y dref, gan gynnwys canolfan yr Arad Goch, Eco Hwb, a stiwdio tatŵs Inky Pinky. Trwy arddangos mewn busnesau lleol a hybiau cymunedol, mae’r myfyrwyr yn helpu i ehangu mynediad i’r celfyddydau o fewn y dref.

An art student looking closely at their laptop

Meddai Jess Baudey, tiwtor celf a dylunio yng Ngholeg Ceredigion: “Mae’r prosiect hwn yn hanfodol ar gyfer datblygiad proffesiynol ein myfyrwyr. 

“Rydyn ni’n ymrwymedig i roi cyfleoedd bywyd go iawn i ddysgwyr lle mae rhaid iddynt ymateb i friff penodol a chynhyrchu gwaith i safon broffesiynol.

“Mae gweithio gydag archifau’r Llyfrgell Genedlaethol, yn benodol casgliadau  Heddychwyr a Phortread a Phŵer, wedi herio’r myfyrwyr i ddehongli themâu hanesyddol cymhleth ar gyfer cynulleidfa fodern. 

“Mae gweld eu gwaith yn cael ei arddangos yng nghanol y dref, yn hytrach na mewn stiwdio coleg yn unig, yn rhoi blas iddynt ar beth mae’n ei olygu i fod yn artist gweithredol yng Ngheredigion.”

Mae arddangosfeydd y myfyrwyr yn ffurfio rhan allweddol o’r tymor Heddwch a Chariad ehangach, wedi’i drefnu gan y cwmni buddiant cymunedol Ton Fawr/Big Wave.

Arddangosir gwaith y myfyrwyr o ganol mis Chwefror tan ddiwedd y mis yn yr Arad Goch (canolfan gelfyddydau), Eco Hub (gofod cymunedol) a stiwdio tatŵs Inky Pinky (busnes annibynnol).

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau