Myfyrwyr Coleg Sir Gâr yn archwilio rheng flaen seiberddiogelwch
Mae seiberddiogelwch wedi dod i’r amlwg fel un o’r sectorau gyrfa twf uchel a mwyaf gwydn yn y diwydiant TG.
I sicrhau bod y myfyrwyr ar flaen y gad o ran y datblygiadau hyn, fe wnaeth myfyrwyr a staff fynychu digwyddiad CyberFirst Cymru a oedd yn anelu at godi ymwybyddiaeth ynghylch addysg seiberddiogelwch a llwybrau i ddiwydiant.
Mynychodd myfyrwyr ar gyrsiau Safon Uwch ac UG mewn cyfrifiadureg a thechnoleg ddigidol y digwyddiad ynghyd â’u cyd-fyfyrwyr galwedigaethol, ar raglen diploma estynedig lefel tri.
Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhrifysgol De Cymru (USW) fel rhan o’i gwaith gyda rhaglen CyberFirst Cymru mewn partneriaeth â phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.
Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) sy’n arwain CyberFirst a rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle i tua 300 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed o ysgolion a cholegau ledled Cymru gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ymwneud â seiberddiogelwch
Meddai Rebecca Clarke, darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr: “Cafodd y dosbarthiadau meistr eu cyflwyno gan ddarlithwyr prifysgol yn ogystal â phartneriaid yn y diwydiant sy’n gweithio gyda CyberFirst, gan gynnwys Airbus, Y Swyddfa Eiddo Deallusol, SudoCyber, TechnoCamps, ITSUS Consulting a llawer mwy.
“Mae’n rhaid i chi fod ar flaen y gad gyda datblygiadau presennol a datblygiadau yn y dyfodol yn y diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym, felly mae’n hanfodol bod myfyrwyr a staff yn mynychu’r digwyddiadau hyn.
“Rydym am i fyfyrwyr fod yn frwd dros yr hyn maen nhw’n ei wneud ac mae hynny’n golygu rhoi gwybod iddynt am yr hyn sy’n digwydd yn y diwydiant ac am y llwybrau addysgol sydd ar gael iddynt er mwyn cael mynediad at y gyrfaoedd hyn.”
Yn ogystal, fe helpodd y digwyddiad hwn ysgolion a cholegau i gyflawni eu Gwobr Ysgolion CyberFirst, a hefyd rhoi cyfle i ddisgyblion ennill sgiliau seiberddiogelwch sy’n briodol i’w hoedran, gan gynnwys cryptograffeg, fforensig digidol, a deallusrwydd artiffisial (AI) mewn seiberddiogelwch.
Cafodd athrawon gyfle hefyd i ddysgu am ddatblygiadau o fewn rhaglen CyberFirst Cymru gyda sesiwn rwydweithio a gwybodaeth ac anogaeth er mwyn iddynt ddod yn llysgenhadon mewn sgiliau seiber.
Ychwanegodd Rebecca Clarke, darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda myfyrwyr yn mynegi faint roedden nhw wedi mwynhau’r sesiynau a pha mor werthfawr iddyn nhw oedd cael cipolwg ar yrfaoedd mewn seiberddiogelwch.