Myfyrwyr cyfryngau creadigol yn gweithio gyda’r gymuned ar friffiau byw

Daeth eu diddordeb angerddol am y cyfryngau drwodd yn wirioneddol yn y cynnyrch terfynol, ac roedd yn wych i weld pa mor dda roedden nhw’n deall ein brand a’n neges.” Lean Kitchen
Mae myfyrwyr y cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr yn cael profiad diwydiannol trwy weithio gydag ystod o gwmnïau lleol gan eu helpu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer llwyfannau busnes eu cyfryngau cymdeithasol.
Mae 10 grŵp o fyfyrwyr yn gweithio gyda gwahanol gwmnïau mewn prosiect wnaeth ddeillio o glwb ffilm a chynhyrchu’r coleg.
Cynhelir y clwb ffilm a chynhyrchu bob prynhawn Mercher yn ystod amser rhydd y myfyrwyr, sydd wedi’i neilltuo i bob myfyriwr ddilyn ei ddiddordeb ei hun neu chwaraeon.
Mae’r cwmnïau lleol yn cynnwys, ymhlith eraill, trinydd gwallt, barbwr, lleoliad adloniant a bwyd a chwmni paratoi prydau bwyd.
Mae clwb cynhyrchu’r coleg yn ychwanegiad i’w glwb ffilm wythnosol ac mae’n weithgaredd di-asesiad, sy’n caniatáu’r rhyddid i fyfyrwyr archwilio syniadau a datblygiad fel ychwanegiad i’w cwrs.
Meddai Rhydian Bowen, darlithydd mewn cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr: “Gofynnon ni i’r myfyrwyr gysylltu ag amrywiol gwmnïau ar draws ystod eang o sectorau ac mae’n wych ein bod wedi cael y fath ymateb cadarnhaol.
“Mae wedi helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymarferol a chreadigol ymhellach yn ogystal â chynnig profiad iddynt o ran canolbwyntio ar anghenion y cleientiaid yn ogystal â’r daith greadigol.
“Mae gan fyfyrwyr fynediad lawn i gyfleusterau cyfryngau safon y diwydiant y coleg a meddalwedd megis camerâu fideo DSLR, cyfarpar sain darlledu, Apple Macs, Adobe ac ystafelloedd animeiddio.”
Meddai Osian Everett, myfyriwr cyfryngau creadigol Coleg Sir Gâr: “Cefais y cyfle i gydweithio â chwmni lleol yn Llanelli fel rhan o Glwb Cynhyrchu’r coleg, a phenderfynais i ar LeanKitchen, busnes paratoi prydau bwyd sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu ei nwyddau.
“Cefais y dasg o wneud fideo cyflym ar gyfer Instagram a TikTok oedd yn dangos sut maen nhw’n gweithio.
“Roedd yn gyfle gwych i weithio gyda chleient go iawn oherwydd fe wnaeth fy ngorfodi i ystyried eu hamcanion, cadw at derfynau amser, ac addasu fy nhechneg gwneud ffilm i weddu i’w gweledigaeth.
“Yn ychwanegol i fy helpu i wella fy ngwaith tîm, cynllunio a sgiliau cyfathrebu —y mae pob un ohonynt yn hanfodol yn y maes - mae’r prosiect hwn hefyd wedi fy nysgu sut i ddilyn briff cleient, sy’n sgil defnyddiol ar gyfer y dyfodol.”
Meddai cynrychiolydd o gwmni Lean Kitchen: “Roedd yn bleser gwirioneddol i weithio gyda’r coleg ar ein fideo hyrwyddol.
“Daeth y grŵp â phersbectif creadigol, ffres i’r prosiect ac aethant i’r afael â phopeth gyda phroffesiynoldeb a brwdfrydedd.
“Daeth eu diddordeb angerddol am y cyfryngau drwodd yn wirioneddol yn y cynnyrch terfynol, ac roedd yn wych i weld pa mor dda roedden nhw’n deall ein brand a’n neges.