Myfyrwyr Gofal Plant yn treulio diwrnod yn y brifysgol yn archwilio addysg blynyddoedd cynnar
Aeth dysgwyr Gofal Plant o gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion ar ymweliad â Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar lle y buon nhw’n archwilio’r adran blynyddoedd cynnar a chael profiad uniongyrchol o fywyd prifysgol.
Cafodd amrywiaeth o sesiynau diddorol eu cynllunio a’u cyflwyno gan y brifysgol i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol y dysgwyr.
Roedd y rhain yn cynnwys sesiwn sgiliau arweinyddiaeth, yn annog hyder, gwaith tîm, a chyfathrebu; a sesiwn drochol, yn rhoi profiad ymarferol mewn dulliau dysgu blynyddoedd cynnar.
Hefyd cymerodd y myfyrwyr ran mewn sesiwn iaith a lleferydd drwy adrodd straeon, gan ddangos pwysigrwydd cyfathrebu, datblygu iaith, a chreadigrwydd mewn arfer blynyddoedd cynnar.
Meddai Annwen Evans, darlithydd gofal plant Coleg Ceredigion: “Cynigiodd yr ymweliad fewnwelediad gwerthfawr i gyfleoedd dilyniant o fewn y sector blynyddoedd cynnar ac fe wnaeth helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i gefnogi eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Roedd y dysgwyr yn frwdfrydig, ac wedi ymgysylltu’n llwyr, ac fe wnaethon nhw gynrychioli’r coleg yn eithriadol o dda trwy gydol y dydd.
“Hoffen ni estyn ein diolch i dîm blynyddoedd cynnar PCYDDS Caerfyrddin am eu croeso cynnes ac am ddarparu’r fath brofiad cyfoethog a chofiadwy i’n dysgwyr.”
Meddai Soffi Morgan, un o’r myfyrwyr a wnaeth gymryd rhan: “Mwynheais i’r ymweliad oherwydd dysgais i lawer am chwarae-rôl plant drwy adrodd straeon. Yn ogystal mwynheais i’r gwersi dysgon nhw i ni, yn enwedig pwysigrwydd gwaith tîm wrth adeiladu tŵr allan o falws melys a sbageti.”
Ychwanegodd y fyfyrwraig Erin Davies: “Mwynheais i fy ymweliad â’r Drindod mas draw. Newidiodd e fy meddwl ynghylch y brifysgol ac fe daniodd fy niddordeb mewn datblygu fy nhaith ddysgu academaidd.
“Fe wnaeth Alison yn benodol fy annog i wneud cais ar gyfer y cwrs blynyddoedd cynnar. Daliwyd fy sylw’n wirioneddol gan ei gwers. Roedd yn addysgiadol iawn, ac rwy’n teimlo fel pe bawn i wedi dysgu llawer.
“Roedd ei harddull ddysgu yn atyniadol iawn, fel hefyd roedd gwers Natasha Young, a oedd yn ffordd wych i gynnwys dysgu gyda chwarae a gwneud y profiad yn hwyl ac yn addysgol hefyd.”