Skip page header and navigation
A carpentry student in work clothes wearing a VR set

Nid yw VR yn cymryd lle senarios bywyd go iawn ac nid yw wedi’i fwriadu i ddiraddio natur ymarferol y grefft, ond y ffactor pwysig yw ei fod yn caniatáu i ddysgwyr hyfforddi ar beiriannau gweithdy ac ymgyfarwyddo â nhw heb berygl bywyd go iawn. Neil Perry-Evans, Darlithydd Adeiladu

Mae tîm gwaith saer Coleg Ceredigion yn cydweithio â dwy ganolfan technoleg ddigidol i ddefnyddio technoleg arloesol i gefnogi sut mae dysgwyr yn cael eu hyfforddi ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Trwy ddefnyddio clustffonau realiti rhithwir (VR), gall dysgwyr archwilio safleoedd adeiladu yn ddiogel, ymarfer gweithdrefnau a phrofi amgylcheddau gwaith realistig heb y risgiau sy’n gysylltiedig â safleoedd adeiladu byw. 

Mae’r profiadau trochol hyn yn helpu i fagu hyder, gwella dealltwriaeth, a chyflwyno disgwyliadau’r diwydiant o’r diwrnod cyntaf. 

Gan weithio mewn cydweithrediad â Chanolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, caiff senarios iechyd a diogelwch bywyd go iawn sy’n gysylltiedig ag adeiladu eu ffilmio a’u cyflwyno i ystafelloedd addysgu trochol.

Carpentry students in an immersive digital classroom

Dywedodd Neil Perry-Evans, darlithydd adeiladu yng Ngholeg Ceredigion:  “Mae dysgwyr yn gallu camu i’r amgylcheddau digidol hyn, nodi peryglon, a thrafod arferion gwaith diogel cyn mynd i mewn i weithdai neu safleoedd adeiladu. 

“Nid yw VR yn cymryd lle senarios bywyd go iawn ac nid yw wedi’i fwriadu i ddiraddio natur ymarferol y grefft, ond y ffactor pwysig yw ei fod yn caniatáu i ddysgwyr hyfforddi ar beiriannau gweithdy ac ymgyfarwyddo â nhw heb berygl bywyd go iawn.

“Mae gorchuddiadau digidol yn tywys y gosod, y gweithredu a’r parthau gweithio diogel cywir, gan helpu i leihau risg wrth feithrin cymhwysedd cyn mynd ati i ddefnyddio’n ymarferol.

 rheiny nad ydynt yn gyfarwydd â chamu i safle adeiladu, mae trochi digidol yn cynnig cyfle i ymgyfarwyddo â’r math o amgylchedd y byddant yn gweithio ynddo cyn mynd i’r safle mewn gwirionedd.”

Drwy gyfuno sgiliau gwaith saer traddodiadol â thechnoleg realiti estynedig (AR) a VR, mae Coleg Ceredigion yn datblygu dysgwyr hyderus, ymwybodol o ddiogelwch, a pharod ar gyfer y diwydiant ar gyfer gweithlu adeiladu modern.

Rhannwch yr eitem newyddion hon