Skip page header and navigation
Students at the UK equivalent town council in Krakow

“Dyma oedd fy nhaith gyntaf dramor ac roedd yn wych cael profi math gwahanol o gymuned. Fe wnes i fwynhau’r caffi cathod yn arbennig ac roedd ein tywysydd yn hollol wych.”  Fyfyrwraig Gwasanaethau Cyhoeddus, Maddison Morris.

Aeth myfyrwyr gwasanaethau cyhoeddus a chyfryngau creadigol Coleg Sir Gâr ar ymweliad i Wlad Pwyl yn ddiweddar, lle buon nhw’n archwilio dinas hanesyddol Kraków, safle coffa Auschwitz-Birkenau, ac ardal Nowa Huta.

Dewiswyd y lleoliadau gan staff a fyddai’n eu dysgu am wahanol gyfnodau yn hanes Gwlad Pwyl fel y rhyfel, y cyfnod ar ôl y rhyfel/y cyfnod comiwnyddol yn ogystal â Gwlad Pwyl fodern. 

Ynghyd â dau aelod o staff, aeth 10 myfyriwr o’r cwrs gwasanaethau cyhoeddus a thri myfyriwr o’r cwrs cyfryngau creadigol ar y daith a ariannwyd gan Taith.

Dyma oedd y tro cyntaf i rai o’r myfyrwyr hedfan mewn awyren ac felly trefnodd y tiwtoriaid fod y peilot yn cyfeirio atyn nhw’n arbennig ar system sain yr awyren.

Students holding up cultural gift exchanges on a table (holding a where to eat booklet)
The gates at Auschwitz
Students in a large official room around a table in Poland

Ysbrydolwyd y daith gan gysylltiadau’r grŵp â Paolo Piana ac Elwena Drewniak o Rwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli a Phartneriaeth Gymunedol Llanelli.

Fe wnaethon nhw drefnu cysylltiadau â XXI Liceum, ysgol yn Kraków a anfonodd fideo am eu tref a’u bywydau at fyfyrwyr Llanelli ac fe wnaethon nhw ateb yn ôl gyda fideo ar fywyd yn Llanelli a oedd yn cynnwys ardaloedd diwylliannol fel Castell Cydweli, Y Sied Nwyddau ac Eglwys Pen-bre - lle mae beddau Pwyliaid ers cyfnod y rhyfel. 

Yn Kraków, fe wnaethon nhw gyfarfod â’r myfyrwyr a anfonodd y fideo yn eu hysgol a threulio amser yn eu gwersi yn ogystal ag ymweld â Phalas Wielopolski – cartref awdurdodau Dinas Kraków. Roedd y cyfarfod yn gyfle i ddysgu sut mae llywodraeth leol Kraków yn gweithredu.

Un foment arbennig o ystyrlon yn ystod yr ymweliad oedd cyflwyno llythyr a rhodd symbolaidd gan faer Llanelli i awdurdodau Kraków, fel arwydd o gyfeillgarwch a gobaith ar gyfer trefnu prosiectau ar y cyd a phrosiectau chyfnewid ieuenctid yn y dyfodol. Rhannodd myfyrwyr Llanelli roddion hefyd gan gynnwys bwyd lleol a baneri Cymru. 

Prif nod y daith oedd ymweliad addysgol ag Auschwitz fel rhan o’r cwrs gwasanaethau cyhoeddus, a’r modiwl rhyfel a gwrthdaro yn benodol. 

Cafodd y myfyrwyr cyfryngau creadigol y dasg o greu a golygu lluniau clyweledol o’r daith, a fydd yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin. 

Roedd gan y grŵp hefyd dywysydd personol yn Nowa Huta, ardal o Kraków, a adeiladwyd yn 1949 fel dinas fodel sosialaidd ac arddangosfa o ideoleg gomiwnyddol yng Ngwlad Pwyl ar ôl y rhyfel.

Dywedodd Carolann Healy, darlithydd mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr:  “Roedd ein myfyrwyr yn wych ac yn ddiolchgar iawn am y cyfle ac yn diolch i ni o hyd. 

“Roedd cael cipolwg uniongyrchol ar ddiwylliant Gwlad Pwyl yn cynnig profiad bywyd go iawn iddyn nhw.”

Dywedodd y myfyriwr cyfryngau creadigol, Steffan Davies: “Roedd y cyfle i fynd i Wlad Pwyl yn anhygoel oherwydd roedd yn golygu y gallwn wella ac arddangos fy sgiliau. 

Three students in the back of a car having a selfie with their tutor Carolann in the front
Had Rock Cafe Krakow
A white cat lying on a chair being stroked. The cat cafe as was mentioned in a student quote.

Rhannwch yr eitem newyddion hon