Myfyrwyr i archwilio modelau gofal iechyd byd-eang ar daith i’r Iseldiroedd
Mae’r ymweliad â’r Iseldiroedd sydd ar ddod yn parhau traddodiad y coleg, gan gynnig y cyfle i ddysgwyr ehangu eu gorwelion, datblygu ymwybyddiaeth fyd-eang, a meithrin y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer gyrfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol modern.” Sara Jones, Tiwtor Cwrs ar gyfer Gwyddorau Iechyd.
Bydd dysgwyr iechyd a gofal cymdeithasol o Goleg Ceredigion yn teithio i’r Iseldiroedd ym mis Chwefror fel rhan o ymweliad astudio rhyngwladol newydd a ariennir drwy raglen gyfnewid Taith Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymweliad yn galluogi chwe dysgwr i archwilio modelau iechyd a gofal cymdeithasol cyferbyniol, cymharu cyflenwi gwasanaethau ar draws gwledydd a chael mewnwelediad i’r modd y mae gwahanol genhedloedd yn ymateb i heriau a rennir megis poblogaethau sy’n heneiddio, gofal yn y gymuned a datblygu gweithlu.
Mae’r ymweliad â’r Iseldiroedd yn ffurfio’r cam nesaf mewn rhaglen gynyddol o ddysgu rhyngwladol sydd wedi dod yn elfen nodedig o addysg iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Ceredigion.
Mae’n adeiladu’n uniongyrchol ar gydweithrediad llwyddiannus iawn y coleg â Choleg NorQuest yn Alberta, Canada, lle bu dysgwyr yn cymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol arloesol a wnaeth ail-lunio’r modd y caiff addysg iechyd a gofal cymdeithasol gwledig eu cyflenwi.
Arweiniodd y cydweithrediad Canadaidd hwnnw at greu’r Academi Gofal Gwledig, model uwchgwricwlaidd newydd wedi’i gynllunio i atgyfnerthu hunaniaeth broffesiynol, cymhwysedd diwylliannol a pharodrwydd gweithlu ymysg dysgwyr ôl-16. Aeth myfyrwyr i’r afael ag astudiaethau cymharol o systemau iechyd Cymru a Chanada, archwilio diogelwch diwylliannol a chyfrifoldeb cymunedol, a chwblhau prosiectau adfyfyriol strwythuredig a wnaeth gipio eu dysgu, eu twf proffesiynol a’u dyheadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
Ers hynny mae’r prosiectau hyn wedi dod yn gonglfaen o gynnig iechyd a gofal cymdeithasol y coleg.
Gan adeiladu ar y model profedig hwn, bydd yr ymweliad â’r Iseldiroedd yn cynnig persbectif Ewropeaidd ffres i ddysgwyr ynghylch arfer iechyd a gofal cymdeithasol. Byddan nhw’n archwilio’r modd y mae gwasanaethau Iseldiraidd yn cefnogi oedolion hŷn, cyflenwi darpariaeth yn y gymuned ac yn integreiddio systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r ymweliad i gymharu dulliau, myfyrio ar arfer trosglwyddadwy ac ystyried sut y gall arloesi rhyngwladol lywio cyflenwi gofal yng Nghymru.
Mae’r rhaglen ryngwladol hefyd yn cyd-fynd yn agos â dilyniant myfyrwyr a llwybrau gyrfaol.
Esboniodd Sara Jones, tiwtor cwrs ar gyfer gwyddorau iechyd yng Ngholeg Ceredigion: “Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n astudio lefel tri iechyd a gofal cymdeithasol a mynediad i addysg uwch yng Ngholeg Ceredigion yn symud ymlaen i’r brifysgol, gyda llawer yn mynd ymlaen i astudio nyrsio oedolion, plant, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
“Mae eraill yn dilyn cyrsiau gradd ar draws y proffesiynau iechyd cysylltiedig, gan gynnwys therapi galwedigaethol, gwyddor barafeddygol, arfer adran lawdriniaeth a phodiatreg. Mae grŵp arall yn symud ymlaen i feysydd pwnc ehangach fel addysg, seicoleg, troseddeg a’r gyfraith, gan ddangos y sylfeini academaidd a phroffesiynol cryf a ddarperir gan y rhaglen.
“Mae staff y Coleg yn pwysleisio bod symudedd rhyngwladol yn fwy na chyfle i deithio. Mae’n ffurfio rhan o ddull ffurfiad proffesiynol ehangach sy’n atgyfnerthu hyder dysgwyr, proffesiynoldeb a pharodrwydd ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth yn y dyfodol.
“Gwnaeth carfannau blaenorol nodi cymhelliant cynyddol, ymddygiadau proffesiynol gwell a chyrchnodau gyrfaol cliriach yn dilyn eu cyfranogiad mewn prosiectau rhyngwladol, gyda chyfraddau dilyniant arbennig o gryf i addysg uwch yng Nghymru.”
Mae’r ymweliad â’r Iseldiroedd sydd ar ddod yn parhau traddodiad y coleg, gan gynnig y cyfle i ddysgwyr ehangu eu gorwelion, datblygu ymwybyddiaeth fyd-eang, a meithrin y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer gyrfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol modern.
Hefyd mae’n adlewyrchu ymrwymiad Coleg Ceredigion i ddarparu profiadau addysgol trawsnewidiol i ddysgwyr sy’n cysylltu cymunedau lleol ag arfer gorau byd-eang, gan sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda i gyfrannu at ddyfodol gofal yng Nghymru a hefyd tu hwnt.