Skip page header and navigation
two students crouched in the garden by a potted plant

Mae myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Sir Gâr wedi adfywio gardd adfyfyriol Ysbyty’r Tywysog Philip, gan greu man llonydd a chroesawgar i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Roedd eisoes gardd yn yr ysbyty ond roedd angen ychydig o ofal cariadus tyner arni ynghyd â gwaith clirio, chwynnu, tacluso a phlannu.

Aeth y myfyrwyr ati i wneud y gwaith gan ychwanegu cyffyrddiadau personol megis dyfyniadau ysbrydoledig a cherrig wedi’u peintio. 

Colourful wooden palette white pink and purple with matching colour flowers and pots

Mae eisoes gan Goleg Sir Gâr gysylltiadau â’r ysbyty fel rhan o’r cwrs iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cynnwys profiad gwaith, ac mae mwyafrif y myfyrwyr wnaeth gymryd rhan ym mhrosiect yr ardd hefyd wedi treulio amser ar wardiau’r ysbyty. 

Creodd y gwaith yn yr ardd lawer o ddiddordeb ac fe gododd ambell i wên yn ystod y gwaith adnewyddu. Denodd sylw meddyg ymgynghorol chwilfrydig, claf dementia oedd wedi’i swyno gan y perlysiau synhwyraidd a phobl oedd yn digwydd mynd heibio i ffenestri’r ysbyty.

A row of students standing looking at the camera in the garden with a statue of two hands touching

Mewn llythyr o werthfawrogiad oddi wrth Ysbyty’r Tywysog Philip yn rhoi diolch i’r myfyrwyr ysgrifennodd Colin O’Sullivan, rheolwr gwasanaethau’r ysbyty: “Mae’r Ardd Adfyfyriol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn barod. Caiff ei defnyddio bob dydd gan gleifion, ymwelwyr, a staff, gan gynnig man llonyddol i ffwrdd o leoliadau clinigol yr ysbyty. 

“Fel amgylchedd gofal iechyd, mae’n hanfodol ein bod yn darparu ardaloedd ymgysurol ar gyfer adfyfyrdod tawel, yn enwedig i deuluoedd sy’n wynebu amseroedd anodd. Dyna yn union yw beth yw’r ardd hon erbyn hyn, man ar gyfer cysur, cefnogaeth, ac iachâd.

“Rydyn ni wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn hefyd gan gleifion sy’n aros yma’n hir, sy’n gwerthfawrogi’n fawr cael mynediad i fan awyr agored. Mae llawer wedi rhannu cymaint eu bod yn edrych ymlaen at dreulio amser yn yr ardd, gan werthfawrogi’r cyfle i fwynhau awyr iach ac amgylchedd tawel sy’n cefnogi eu gwellhad a’u lles cyffredinol.”

A biggish plant in a pot outside with the message 'a peaceful mind can help the body recover'

Meddai’r fyfyrwraig Senina Akar, 17 oed, a oedd yn rhan o’r prosiect: “Mae’n braf gweld pobl yn gwenu a chael cyfle i dawelu eu meddyliau yn yr ardd.

“Mae’n wych ei bod yn helpu iechyd meddwl pobl, p’un a ydynt yn gleifion, yn  staff neu’n ymwelwyr.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon