Myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ymweld ag Utrecht yn yr Iseldiroedd i gymharu systemau gofal iechyd
Gwnaeth yr ymweliad hefyd gynnig mewnwelediad gwerthfawr i sut mae gwahanol genhedloedd yn ymateb i heriau cyffredin sy’n wynebu’r sector.” Sara Jones, Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn ddiweddar dychwelodd myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Ceredigion - ynghyd â’r rheiny sy’n dilyn cwrs mynediad i wyddorau iechyd, o ymweliad astudio cyfoethogi ag Utrecht yn yr Iseldiroedd.
Mae Utrecht yn un o ddinasoedd mwyaf bywiog yr Iseldiroedd. Mae’n ysgogi’r meddwl ac yno gallai myfyrwyr gyfuno archwilio academaidd â throchi’n ddiwylliannol ynghyd â manteisio ar gyfle ystyrlon i archwilio dulliau cyferbyniol o fynd i’r afael â gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Trwy gamu i gyd-destun cenedlaethol gwahanol, roedd myfyrwyr yn gallu archwilio sut mae systemau’n cael eu strwythuro, eu hariannu a’u cyflwyno y tu allan i’r DU, gan annog adfyfyrio beirniadol ar eu dysgu a’u rhagdybiaethau eu hunain.
Ariannwyd y daith drwy Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru.
Bu dysgwyr yn cymharu modelau cyflwyno gwasanaeth ar draws gwledydd, gan ystyried sut mae polisi, diwylliant ac adnoddau yn llunio’r ffordd y darperir gofal.
Roedd y persbectif cymharol hwn yn caniatáu iddynt nodi blaenoriaethau a rennir a dulliau penodol hefyd, gan ddwysáu eu dealltwriaeth o ymarfer rhyngwladol.
Meddai darlithydd iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Ceredigion, Sara Jones: “Gwnaeth yr ymweliad hefyd gynnig mewnwelediad gwerthfawr i sut mae gwahanol genhedloedd yn ymateb i heriau cyffredin sy’n wynebu’r sector.
“Yn benodol, archwiliodd y myfyrwyr sut mae’r Iseldiroedd yn mynd i’r afael â phoblogaeth sy’n heneiddio, y newid tuag at ofal yn y gymuned, a’r angen parhaus am weithlu medrus a chynaliadwy.
“Fe wnaeth ymgysylltu â’r themâu hyn mewn sefyllfa byd go iawn helpu dysgwyr i gysylltu theori ag ymarfer, ac ar yr un pryd cydnabod natur fyd-eang materion o fewn maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
Elfen arbennig o werthfawr yr ymweliad oedd yr amser a dreuliwyd gyda Thîm Canol y Ddinas Buurtteam, lle roedd myfyrwyr yn gallu ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol sy’n darparu cymorth rheng flaen i gymunedau.
Darparodd y profiad hwn ffenestr glir i ddull integredig seiliedig ar gymdogaeth yr Iseldiroedd tuag at ofal cymdeithasol.
Arsylwodd y myfyrwyr ar sut mae timau amlddisgyblaethol yn cydweithio i gefnogi unigolion a theuluoedd, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, annibyniaeth a gofal wedi’i bersonoli.
Daeth y mewnwelediad uniongyrchol hwn â’r system gofal cymdeithasol Iseldiraidd yn fyw gan annog cymhariaeth ystyrlon â dulliau yn y DU.
Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys gweithdy diddorol gyda Vilans, y Ganolfan Genedlaethol Arbenigedd ar gyfer Gofal Hirdymor.
Ychwanegodd Sara Jones: “Cafodd dysgwyr eu cyflwyno i rôl ganolog y sefydliad o ddatblygu gofal iechyd a chymorth drwy reoli gwybodaeth yn effeithiol.
“Bu’r myfyrwyr yn archwilio sut mae’r sefydliad yn casglu, datblygu a rhannu arfer gorau ar draws y sector, gan sicrhau bod arloesedd a dulliau seiliedig ar dystiolaeth yn hygyrch i weithwyr proffesiynol ledled y wlad. Roedd y gweithdy yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio, dysgu parhaus a chyfnewid gwybodaeth wrth wella ansawdd gofal, gan annog dysgwyr i adfyfyrio ar sut y gallai dulliau tebyg atgyfnerthu systemau mewn gwledydd eraill.”
Un o uchafbwyntiau’r daith oedd ymweliad â’r Adran Astudiaethau Celtaidd, ym Mhrifysgol Utrecht, lle cafodd myfyrwyr groeso cynnes gan Nike Stam, athro cynorthwyol Astudiaethau Celtaidd a gan fyfyrwyr sy’n cymryd dosbarthiadau mewn Cymraeg Canoloesol ac ieithoedd lleiafrifol.
Cynigiodd y sesiwn bersbectif amlddisgyblaethol unigryw, gan ddod ag iaith, hunaniaeth ac iechyd ynghyd trwy drafodaeth ystyrlon a phrofiadau a rennir. Bu ein dysgwyr o Goleg Ceredigion yn adfyfyrio ar sut roedd astudio’r Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol yn dwysáu eu balchder o’r iaith, cryfhau eu diddordeb yn ei hanes, ac yn adnewyddu eu cymhelliant i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn fwy gweithredol.
Yr hyn wnaeth sefyll allan fwyaf i staff y coleg trwy gydol y daith, oedd lefel ymgysylltiad y myfyrwyr. Boed yn dadlau am syniadau yn ystod sesiynau academaidd neu’n chwilio eu ffordd drwy’r ddinas yn annibynnol, dangosodd y myfyrwyr frwdfrydedd, proffesiynoldeb a pharodrwydd gwirioneddol i ddysgu.
Mae llawer o’r myfyrwyr ers hynny wedi edrych yn ôl ar sut mae’r profiad wedi dylanwadu ar eu diddordebau a’u huchelgeisiau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.