Myfyrwyr ILS yn cael golwg gyntaf ar ‘Natur’ gan Theatr Arad Goch
Yn ddiweddar fe wnaeth myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) [Llwybr 3] yng Ngholeg Ceredigion fwynhau golwg gyntaf unigryw ar “Natur”, y cynhyrchiad diweddaraf gan Theatr Arad Goch, cyn ei daith.
Mae “Natur” yn ddrama gerdd sy’n archwilio cysylltiad dynol â’r byd naturiol ac mae wedi’i chynllunio ar gyfer plant wyth i 11 oed naill ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg, ac fe fydd ar daith o fis Chwefror tan ddiwedd mis Mawrth.
Aeth dysgwyr Coleg Ceredigion sy’n astudio ar gampws Aberystwyth i’r afael â’r gwahoddiad a gwylion nhw’r cynhyrchiad yn theatr yr Arad Goch fel rhan o weithgaredd cyfoethogi a chyfle ar gyfer gwaith datblygu cymunedol.
Roedd yr ymweliad hefyd yn rhan o’r berthynas barhaus sydd wedi datblygu rhwng Llwybr 3 ILS a’r theatr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Mae’r ddrama yn cwestiynu sut mae’r ffordd o fyw gyfoes yn cael effaith ar y blaned a bywyd gwyllt a beth gall pobl wneud i atal llygredd a chynhesu byd-eang.
Nid yn unig ydy e’n drip cyffrous allan i’r theatr i weld sioe, ond mae hefyd yn gyfle i ddysgwyr roi’r gweithgareddau celfyddydau perfformio maen nhw’n gwneud gyda mi yn y stiwdio berfformio yn y coleg yn eu cyd-destun, gan gynnwys y perfformiadau maen nhw’n eu creu a’u perfformio gerbron cynulleidfa gyhoeddus tua diwedd pob blwyddyn academaidd.” Solveig Frykman-Lloyd, Tiwtor y Cwrs.
Mae darlithydd Coleg Ceredigion mewn astudiaethau ILS a pherfformiad wedi bod yn meithrin perthnasoedd â Theatr Arad Goch a rhwydweithiau cymunedol eraill ac mae hi’n mwynhau gweld y canlyniadau.
Meddai Solveig Frykman Lloyd: “Nid yn unig ydy e’n drip cyffrous allan i’r theatr i weld sioe, ond mae hefyd yn gyfle i ddysgwyr roi’r gweithgareddau celfyddydau perfformio maen nhw’n gwneud gyda mi yn y stiwdio berfformio yn y coleg yn eu cyd-destun, gan gynnwys y perfformiadau maen nhw’n eu creu a’u perfformio gerbron cynulleidfa gyhoeddus tua diwedd pob blwyddyn academaidd.
“Trwy fynychu rihyrsal yn Theatr Arad Goch, cânt gyfle i holi’r actorion am eu dull o ddysgu llinellau, creu natur gorfforol eu cymeriadau a chysylltu’r wybodaeth hon yn ôl i’w gwaith perfformio eu hunain.
“Yn y gorffennol mae dysgwyr wedi cael gwahoddiad i gael taith dywys o’r theatr, gan gynnwys cefn y llwyfan a swyddfeydd gweinyddol er mwyn gweld theatr-ar-waith yn ogystal ag ennill dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant perfformio yng Nghymru.
“Yn ôl yn y coleg, bu’r dysgwyr yn adolygu’r ddrama ac yn ystyried y materion amgylcheddol a archwiliwyd yn “Natur”. Aethant ati i gysylltu’r rhain â’r cysyniad o Gynefin - y cysylltiad dwfn â’n tirwedd - yn ogystal â themâu Chwedloniaeth Cymru (Blodeuwedd), Eryri Heb Blastig, a Lleisiau Pobl Ifanc. Ar hyn o bryd mae’r elfennau hyn yn cael eu harchwilio drwy ddeunydd symudiad a grëwyd ar gyfer eu perfformiad eu hunain sydd ar ddod, sef ‘Beth Amdanon Ni?.’”
Mae’r coleg yn gobeithio parhau i ddatblygu’r berthynas â Theatr Arad Goch trwy gydweithrediadau pellach, gyda thrafodaethau ar y gweill ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
(Mae’r ail lun yn mynd dol i fis Medi 2025 ar drip arall i Arad Goch)