Skip page header and navigation
Inside St David's a line of church dignitaries with Sarah Edwards and college students

Mewn dathliad nadoligaidd o gymuned a gwasanaethu, anrhydeddwyd myfyrwyr coginio proffesiynol a lletygarwch o gampws Aberteifi Coleg Ceredigion â gwahoddiad arbennig i wasanaeth carolau cymunedol Sefydliad Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Yn nigwyddiad blynyddol Together at Christmas, cawsant y dasg o greu rhoddion ar gyfer gwahoddedigion i’r digwyddiad gyda’r nos. 

Gan taw “Cariad yn y Gymuned” oedd thema’r Gwasanaeth, dewisodd y myfyrwyr lunio â llaw bisgedi teisen frau fanila a siocled siâp calon arbennig, a mynychu’r digwyddiad yn eu hiwnifformau lletygarwch.

Sara Edwards talking to the students inside the church

Ar gyfer y digwyddiad aeth y myfyrwyr ati i gynhyrchu 800 o fisgedi er mwyn creu 400 o becynnau rhodd unigol, gan sicrhau bod pawb a gafodd wahoddiad yn derbyn pâr o ddanteithion wedi’u llunio â llaw a’u pecynnu’n hyfryd.

Caiff y digwyddiad carolau cymunedol Together at Christmas ei arwain gan Dywysoges Cymru a’r Sefydliad Brenhinol ac mae’n diweddu gyda darllediad teledu o’r gwasanaeth, wedi’i ffilmio yn Abaty Westminster. 

Yn ogystal â gwasanaeth Abaty Westminster, cafodd 15 o wasanaethau carolau cymunedol eu cefnogi gan y Sefydliad Brenhinol ar draws y DU, a’u harwain gan Arglwydd Raglawiaid, gan gynnwys carolau, darlleniadau a chydnabyddiaeth i bobl leol. 

Cynrychiolodd y myfyrwyr Goleg Ceredigion a Bwyty Maes y Parc, sef bwyty hyfforddi’r coleg sydd wedi’i leoli ar gampws Aberteifi.

Students sitting in church pew with lecturer Huw in a selfie

Roedd yr hyn a gyflwynwyd yn y digwyddiad yn drawiadol gyda chôr y gadeirlan, telynorion a choryddion yn perfformio unawdau a chyfansoddiadau cerddorol heriol yn ogystal â’r gynulleidfa yn canu ar y cyd.

Meddai Huw Morgan, darlithydd coginio proffesiynol a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion: “Mae wedi bod yn anrhydedd fawr i gynhyrchu’r rhodd hon ar gyfer y gwasanaeth carolau cymunedol a gynhaliwyd gan Arglwydd Raglaw Dyfed Ei Fawrhydi, Sarah Edwards, ac a gefnogwyd gan Sefydliad Brenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru.” 

“Dros yr wythnosau diweddar, mae’r adran wedi gweithio’n ddiwyd i ddatblygu, mireinio a chynhyrchu rhodd arbennig, gyda dysgwyr yn ymgysylltu’n llwyr ar bob cam o’r broses - o ddatblygu rysáit a pharatoi i bobi a phecynnu - ac o ganlyniad cynhyrchu dros 800 o fisgedi wedi’u llunio â llaw.”

“Hoffem estyn ein diolch diffuant i Hazel Thomas DL am gynnig ac argymell Bwyty Maes y Parc ar gyfer y cyfle mawreddog hwn.

“Mae’r prosiect hwn wedi darparu profiad gwirioneddol unigryw a chofiadwy i’n dysgwyr, gan gynnig mewnwelediad byd go iawn eithriadol i weithio i’r safonau proffesiynol uchaf. 

“Roedd yn benodol o arbennig i’r tri dysgwr a ddewiswyd i gyflwyno’r bisgedi’n bersonol yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi - profiad y byddan nhw heb os yn ei drysori drwy gydol eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Fe wnaeth yr Arglwydd Raglaw ddiolch yn wresog i bawb a gymerodd ran a dywedodd mai pleser o’r mwyaf oedd helpu i arddangos proffesiynoldeb a doniau’r bobl ifanc a bod y bisgedi siâp calon nid yn unig yn edrych yn hyfryd ond roedden nhw wedi’u pobi’n berffaith hefyd.  

a hand holding the bag with the biscuits it has a yellow ribbon holding it together and it says nadolig llawen with the college logo

Rhannwch yr eitem newyddion hon