Myfyrwyr trin gwallt yn ehangu eu sgiliau gyda sesiynau mewn gwallt affro a gwallt gweadog
Mae myfyrwyr trin gwallt yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymestyn eu hyfforddiant proffesiynol gyda chwrs arbenigol wyth wythnos mewn gwallt affro a gwallt gweadog.
Cafodd y sesiynau wythnosol eu haddysgu gan Edwina Amadife, sy’n rhedeg Salon Amadife yng Nghaerdydd. Georgia Theodoulou, darlithydd Safon Uwch yn y coleg ac ymarferydd arweiniol ar gyfer gwrth-hilaeth oedd yn gyfrifol am eu trefnu.
Penderfynodd Georgia y byddai dysgu am wallt affro, cyrliog a gweadog yn ychwanegiad buddiol a chynhwysol i fyfyrwyr trin gwallt, gan nad yw’n rhan o gwricwlwm y bwrdd arholiadau ar hyn o bryd.
Yn ogystal â rhedeg ei salon gwobrwyedig, mae Edwina Amadife hefyd yn cyflwyno gweithdai i fyfyrwyr trin gwallt.
Drwy’r sesiynau peilot hyn, roedd myfyrwyr yn gallu dysgu am hanes gwallt affro, sut i adnabod y gwahanol fathau o wallt affro a chyrliog yn broffesiynol a sut i nodi triniaethau a steiliau amddiffynnol ar gyfer gwallt brau a bregus. Hefyd fe ddysgon nhw sut i greu rhesi ŷd, plethi sgwâr a chlymau bantu.
Yn eu sesiwn olaf, cafodd y myfyrwyr gyfle i weithio gyda chleientiaid go iawn gydag amrywiol fathau o wallt affro, a hynny dan arweiniad Edwina.
Meddai’r fyfyrwraig trin gwallt Cerys Caddick: “Rwy’n mwynhau’r sesiynau i gyd yn fawr iawn ac mae wedi rhoi mwy o hyder i mi.
“Yn ogystal â’r hyfforddiant affro arbenigol, mae’n ddefnyddiol dros ben gan nad oes gwallt syth gan bawb sy’n dod i mewn i’r salon. “
Meddai’r darlithydd trin gwallt Emma Williams: “Mae hwn wedi bod yn ychwanegiad gwych i’n darpariaeth yn y coleg, sef ehangu medrusrwydd proffesiynol ein myfyrwyr ac adeiladu eu hyder i gynnwys steilio arbenigol ar gyfer gwallt affro a gwallt gwahanol fathau o wead.
“Mae’r myfyrwyr wedi mynd i’r afael yn wir â hyn ac mae Edwina wedi gwneud gwaith gwych yn eu haddysgu.”
Meddai Georgia Theodoulou, darlithydd Coleg Sir Gâr ac ymarferydd arweiniol ar gyfer gwrth-hiliaeth: “Mae’n brosiect mor gyffrous i allu cynnig mwy o sgiliau a phrofiad i’n myfyrwyr nid yn unig i amrywio ein cwricwlwm, ond hefyd eu rhagolygon gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
“Mae Edwina yn ymarferydd gwych. Mae hi wedi dod â gwybodaeth, brwdfrydedd angerddol a phrofiad yn barod ac mae’r staff a’r dysgwyr wedi cael hyn yn hynod o fewnweledol a buddiol.”