Myfyrwyr yn archwilio dulliau adeiladu rhyngwladol yn Nenmarc
Mae myfyrwyr adeiladu Coleg Ceredigion wedi dychwelyd o Ddenmarc lle buont yn teithio er mwyn ehangu eu dealltwriaeth o arferion adeiladu y tu hwnt i’r DU.
Cafodd yr ymweliad pum-diwrnod ei ariannu gan Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael cipolwg ar ddulliau adeiladu rhyngwladol, datblygiad sgiliau a threftadaeth ddiwylliannol.
Prif uchafbwynt i’r 11 o fyfyrwyr a aeth ar y daith, oedd ymweld â rownd derfynol genedlaethol WorldSkills yn Hjørring lle roedd myfyrwyr a phrentisiaid yn cystadlu a phrofi eu sgiliau proffesiynol.
Trwy fynychu’r digwyddiad hwn, roedd myfyrwyr yn gallu meincnodi eu sgiliau eu hunain a’u profiad yn erbyn safonau cystadlu cenedlaethol, gan ennill dealltwriaeth o’r manyldra, y gallu technegol a’r proffesiynoldeb sy’n ofynnol ar y lefel uchaf.
Roedd y deithlen hefyd yn cynnwys ymweliad â LEGO House, lle bu dysgwyr yn archwilio creadigrwydd a dylunio mewn amgylchedd diddorol ac arloesol.
Yn Amgueddfa’r Llongau Llychlynnaidd, cymeron nhw ran mewn gweithdy ymarferol gan arsylwi offer a thechnegau traddodiadol yn cael eu defnyddio wrth ail-lunio hirgychod Llychlynnaidd. Fe wnaeth hyn gynnig persbectif gwerthfawr ynghylch y crefftwaith a’r sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith saer hanesyddol.
Yn ogystal gwnaeth y grŵp, a oedd yn cynnwys 11 o fyfyrwyr, darlithydd gwaith saer, darlithydd sgiliau hanfodol ac ymgynghorydd hyfforddi brofi rhai o atyniadau mwyaf adnabyddus Denmarc, gan gynnwys Gerddi Tivoli.
Gydag ymweliad â’r Ganolfan Pensaernïaeth Ddanaidd cafwyd cyfleoedd pellach ar gyfer dysgu, archwilio dylunio adeiladau cyfoes a’r modd y mae strwythurau modern yn cael eu datblygu i fodloni anghenion cymdeithasol, amgylcheddol a swyddogaethol newidiol.
Meddai Rhodri Morris, darlithydd mewn gwaith saer yng Ngholeg Ceredigion: “Agwedd gofiadwy o’r ymweliad oedd profi cacennau Danaidd traddodiadol, a ddaeth yn ffefryn yn gyflym ymhlith y grŵp ac a ychwanegodd ddimensiwn diwylliannol go iawn i’r rhaglen.
“Daeth yr ymweliad i ben gyda thaith ar gwch o gwmpas Nyhavn, ardal enwog o’r 17eg ganrif, gan gynnig cyfle i’r grŵp fwynhau golygfeydd Copenhagen o’r dŵr ac adfyfyrio ar brofiadau’r wythnos.
“Ar y cyfan, cafodd yr ymweliad astudio effaith sylweddol ar ddysgwyr a staff hefyd. Helpodd i fagu hyder, meithrin cyfeillgarwch newydd a dwysáu dealltwriaeth o sgiliau adeiladu a safonau cystadlaethau rhyngwladol.
“I nifer o ddysgwyr, dyma eu profiad cyntaf hefyd o deithio dramor a hedfan, gan wneud y cyfle yn arbennig o ystyrlon.
“Mae staff a dysgwyr yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus a ddarperir trwy gyllid rhaglen Taith, sy’n gwneud profiadau dysgu rhyngwladol megis hwn yn bosibl.”