Skip page header and navigation
Ruby Webster, who studies at Cardigan campus won the bronze award for Restaurant Service pictured with a male and her lecturer Huw Morgan

Bu myfyrwyr o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr yn cymryd rhan mewn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU ble gwnaethon nhw gipio gwobr efydd y DU a phedair gwobr cymeradwyaeth uchel.

Enillodd Ruby Webster, sy’n astudio ar gampws Aberteifi, y wobr efydd am Wasanaeth Bwyty.

Enillodd pedwar myfyriwr wobrau Cymeradwyaeth Uchel ar draws sawl pwnc: Daniel Bonnell (Peirianneg Fecanyddol, Campws y Graig) ar gyfer Ynni Adnewyddadwy, Elis James (Arlwyo, Campws Aberteifi) mewn Celfyddydau Coginiol, Nia Whiteman (Ymarferydd Therapi Harddwch, Campws Aberteifi) ac Evan Adams (Gwasanaeth Bwyty, Campws Aberteifi).

Mae WorldSkills y DU yn elusen annibynnol sy’n gweithio gyda’r llywodraeth, diwydiant a darparwyr addysg ar draws y DU.

Ei chenhadaeth yw codi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol gan ddefnyddio arferion gorau cenedlaethol a rhyngwladol drwy hyfforddiant seiliedig ar gystadlaethau.

Y Rownd Derfynol Genedlaethol yw diweddglo’r cylch cystadlu cyfan ac mae’n cynrychioli digwyddiad sgiliau galwedigaethol mwyaf y DU.

Mae’r cystadleuwyr yn y rownd derfynol sydd â’r sgorau uchaf yn gymwys i gael eu dewis ar gyfer Carfan y DU, lle byddant yn ymgymryd â hyfforddiant pellach ac yn y pen draw efallai y byddant yn cynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth ddwyflynyddol ryngwladol WorldSkills a chystadlaethau EuroSkills.

Hoffai’r coleg ddiolch i gystadleuwyr a’u cefnogwyr, cyflogwyr a staff y coleg sy’n darparu hyfforddiant ychwanegol a phresenoldeb mewn digwyddiadau i fyfyrwyr sy’n mynd i’r afael â gwaith cystadlaethau. 

The four highly commended winners in a line all wearing Wales red hoodies

Rhannwch yr eitem newyddion hon