Skip page header and navigation
The back of the trainer helping students to scrub up

Nid yw’r rhaglen yn ymwneud â bod yn feddyg yn unig; mae’n anelu at ehangu ymwybyddiaeth o’r holl yrfaoedd sydd ar gael yn y sector, fel awdioleg, biocemeg, ymarfer adran lawdriniaeth (ODP) a geneteg. Dr Susan Ford, Darlithydd Cemeg.

Students in the operating theatre training area with a man dressed in scrubs and mask

Ymwelodd myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr â Phrifysgol Abertawe fel rhan o Raglen Maes Meddygol y coleg i ymweld ag ystafelloedd ymarfer yr adran lawdriniaeth ac ystafelloedd bydwreigiaeth SUSIM. 

Aeth y rheiny sy’n astudio Safon Uwch mewn cemeg, gwyddoniaeth ac iechyd a gofal cymdeithasol ar un o nifer o deithiau fel rhan o’r bartneriaeth rhwng y coleg a’r brifysgol i gyflwyno’r Rhaglen Maes Meddygol. 

The group watching an immersive medical display

Nid yw’r rhaglen yn ymwneud â bod yn feddyg yn unig; mae’n anelu at ehangu ymwybyddiaeth o’r holl yrfaoedd sydd ar gael yn y sector, fel awdioleg, biocemeg, ymarfer adran lawdriniaeth (ODP) a geneteg. 

Ymwelodd myfyrwyr â’r cyfleuster ymarfer adran lawdriniaeth (ODP) sydd wedi’i baratoi fel theatr lawdriniaeth gan ddefnyddio gofod wal efelychiedig gyda lleoliad ysbyty. 

Gwirfoddolodd rhai myfyrwyr i ‘wisgo sgrybs’ a pharatoi ar gyfer theatr gydag un o broffesoriaid cysylltiol y brifysgol sy’n arwain y rhaglen ODP. 

Cawsant hefyd y cyfle i drin rhywfaint o gyfarpar theatr a dysgwyd iddynt sut i ddefnyddio gefeiliau sbwng.

Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys ymweld â Chanolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi (SUSIM) y brifysgol sy’n gartref i un o’r systemau rheoli efelychu mwyaf yn Ewrop.

Wedi’i pharatoi ar gyfer sesiwn mewn bydwreigiaeth, cafodd myfyrwyr fewnwelediad i weithio fel bydwraig gan fydwraig a darlithydd profiadol.

Dr Susan Ford, darlithydd cemeg Coleg Sir Gâr, sy’n arwain y Rhaglen Maes Meddygol yn y coleg.  Meddai: “Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig cynnig y teithiau hyn i’n myfyrwyr oherwydd ei fod yn agor eu meddyliau i bob math o yrfaoedd sydd ar gael yn ein sector meddygol ac iechyd.“

Mae’n rhoi blas iddynt o’r gyrfaoedd hyn a dod yn gyfarwydd ag amgylchedd prifysgol yn ogystal â chyngor cwrs gan staff y brifysgol.”

Forceps on a table (close up) with sutures in them

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau