Skip page header and navigation

Mae Zachary Griffiths yn astudio blwyddyn gyntaf gradd anrhydedd mewn gwyddor barafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe ar ôl gadael Coleg Sir Gâr gyda diploma estynedig mewn iechyd a gofal cymdeithasol. 

Dychwelodd i’r coleg i siarad â myfyrwyr cyfredol gan esbonio sut gwnaeth rai o’r modiwlau ar y cwrs ei baratoi e’n well ar gyfer y radd, na llawer o’r myfyrwyr yn ei garfan. 

Zach standing in a line with his former health and social care lecturers

Gadawodd Zach y coleg gyda phroffil gradd A* AA ond nid oedd bob amser yn hawdd. 

Pan ddechreuodd e yn y coleg, esboniodd Zach nad oedd ganddo gyrchnod gyrfa clir mewn golwg eto, ac effeithiodd hyn ar ei gymhelliant a’i waith cwrs.

Gyda chefnogaeth y tîm iechyd a gofal cymdeithasol, gwnaeth newid cadarnhaol, gan osod ei fryd ar fod yn barafeddyg ac roedd yn cyflawni marciau uchel. 

Bellach, mae’n cyfuno theori gyda gwaith ymarferol gan ddysgu am drawma, symud, a ffarmacoleg, dehongli profion ECG a phopeth yn ymwneud â gofal brys a chritigol.

Zach explaining something in his presentation to the group

Esboniodd Zach y broses ddethol ar gyfer astudio gwyddor barafeddygol a pha mor gystadleuol ydyw. Caiff tua 60 o bobl eu dewis allan o thua 1,350 o ymgeiswyr, ond ni ddylai hynny ddigalonni unrhyw un os taw dyna yw eu diddordeb brwd. 

Yn ogystal esboniodd nad cymwysterau yn unig sy’n berthnasol. Rhai o’r nodweddion person a geisir yn fawr yn y rôl hon yw cyfathrebu, gwaith tîm ac atebolrwydd. Mae’r broses ymgeisio yn golygu llawer o waith senario sy’n profi eich sgiliau.

Gan annerch myfyrwyr cyfredol, dywedodd Zach: “Dyma’r cwrs gorau y gallwch chi fod arno ar gyfer trosglwyddo i wyddor barafeddygol a chefais i gychwyn mor dda o’i herwydd. 

“Mae dros hanner o’m carfan myfyrwyr wedi dod o gyrsiau diploma lefel tri mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae yna fodiwlau ar y cwrs hwn sy’n cynnwys anatomeg a ffisioleg, gofal ar draws rhychwant oes, y gyfraith a moeseg fydd yn rhoi’r blaen i chi o ran y radd nad yw rhai cyrsiau eraill yn cynnig.”

Mae Zach wedi gwneud cymaint o leoliadau gwaith ymarferol gan gynnwys pythefnos yn y ganolfan galwadau brys, yn gweithio gyda NEPTS (Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-frys) ac fe fydd yn cylchdroi rhwng gwasanaethau gofal iechyd eraill gan gynnwys theatr, mamolaeth, gofal lliniarol a chardiaidd. 

Hefyd esboniodd e sut mae cyllid yn gweithio, beth i ddisgwyl fel myfyriwr, y cymorth sydd ar gael a’r dewisiadau o ran deilliannau gyrfaol yn dilyn y radd. 

Caiff hyfforddiant parafeddygol ei gyllido gan HEIW gydag opsiwn i wneud cais am fwrsariaeth y GIG. 

A head shot of Zach in his NHS uniform

Rhai o’r modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs Diploma Estynedig (lefel tri) Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
  • Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
  • Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal person-ganolog sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Anatomeg a ffisioleg
  • Cefnogi iechyd a lles oedolion yng Nghymru
  • Hybu hawliau unigolion ar bob cam o’r rhychwant oes
  • Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael     
  • Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

Rhannwch yr eitem newyddion hon